Â鶹ԼÅÄ

Help / Cymorth

Archifau Mehefin 2012

Rhwng Y Lleni Ger Y Traeth...

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü: ,Ìý

Hywel Gwynfryn | 10:07, Dydd Gwener, 29 Mehefin 2012

Sylwadau (0)

Hei Ho Hei Di Ho,
Hywel Gwynfryn sy’ ‘ma ‘to.
Ddoe fe deithiais i Sir Benfro,
Lle roedd sipsiwn wedi campo.
Ifan Evans a Shan Cothi,
Efo’i phersonoliaeth ffrothi!
Ar ôl cyrraedd, yn ddioed
Cefais sgwrs ‘da Geraint Lloyd.

(Pwy ddudodd ei bod hi’n anodd ‘sgwennu barddonaieth safonol!)

Erbyn neithiwr, roedd y criw teledu, Ifan a Shan, a’r perfformwyr wedi cyraedd pentref glan môr Tudraeth, ac roedd yr olygfa ar draws traeth y Parrog i gyfeiriad yr Iwerddon yn odidog.

Tudraeth

Ìý

Ar ôl sgwrs efo Geraint yn y prynhawn , sgwrs arall ar raglen Eleri Sion efo dwy oedd wedi ‘u gwisgo fel dwy sipsi - Lowri Evans, a Delyth Wyn o’r grwp Radwm, ac yn nes ymlaen, fe fuon nhw’n canu i’r gynuilleidfa sydd wedi bod yn dilyn taith y Sipsi bob nos ar S4C.

Ifan ar daith y Sipsiwn

Ìý

Ac mae’r teithio’n parhau. Yr wythnos nesa’ fe fydda i mewn ‘cwr o fynydd’ ac wedi gosod fy mhabell ar faes Eisteddfod Rhyngwladol Llangollen. Fe gewch chi’r hanes lliwgar, swnllyd, cyffrous, cerddorol o’r maes yn ddyddiol ar raglenni Nia a Geraint Lloyd.

A chofiwch os ‘da chi am sylw i unrhyw eisteddfod, gwyl, ffair neu garnifal, cysylltwch efo fi drwy ebost hywel@bbc.co.uk

Atgyfodi Carnifal Llanfairpwll

Hywel Gwynfryn | 10:03, Dydd Mercher, 27 Mehefin 2012

Sylwadau (0)

Sadwrn diwetha’ roeddwn i’n cael fy moddi gan swn y band Samba, yn arwain gorymdaith liwgar carnifal Llanfairpwll drwy’r pentre.

Diolch i Clare a’i ffrindiau am ail sefydlu’r carnifal ar ôl bwlch o ugain mlynedd a mwy. Ac wrth edrych ar y loriau yn yr orymdaith wedi eu gwisgo efo rhubanau, a blodau papur o bob lliw, fedrwn i ddim llai na chofio Carnifal Llangefni 1952, a finna’n ddeg oed wedi fy ngwisgo fel ‘page boy’ yn fy nhillad felfed. A pheth bach del oeddwn i hefyd! Be’ ddigwyddodd, sgwn i?

Carnifal Llanfairpwll

Gyda llaw, donyts carnifal Llanfairpwll oedd y donyts mwya blasus i mi eu bwyta ers Sioe Llanelwedd llynedd! Gyda llaw, fe fydd Radio Cymru yn fanno hefyd, ond cyn hynny fe fyddai’n ymweld ac Eisteddfod Llangollen yr wythnos nesa, a fory fe fydda i draw yn Nhrefdraeth, yn mwynhau cwmni Ifan a Sian, y sipswn a’r varda.

Fe gewch chi’r hanes diweddara ar raglen Geraint Lloyd yn y pnawn ac yna ar raglen Eleri Siôn gyda’r nos. A chofiwch fod y gyfres yn parahau ar S4C am hanner awr wedi saith. Os yda chi’n trefnu, gwyl, neu sioe ac am gael hysbys yn rhad ac am ddim, cysylltwch efo mi hywel@bbc.co.uk.

Ìý

Carnifal Llanfairpwll

Ìý

Ìý

Carnifal Llanfairpwll

Ìý

Mwy o’r blog hwn…

Pynciau dan sylw

    °ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

    Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

    Cyfranwyr diweddaraf

    Â鶹ԼÅÄ iD

    Llywio drwy’r Â鶹ԼÅÄ

    Â鶹ԼÅÄ Â© 2014 Nid yw'r Â鶹ԼÅÄ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

    Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.