Â鶹ԼÅÄ

Help / Cymorth

Archifau Ebrill 2012

Å´yn bach Llanwddyn

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü: ,Ìý

Hywel Gwynfryn | 15:50, Dydd Llun, 23 Ebrill 2012

Sylwadau (0)

Fe dreuliais i fore byth gofiadwy yn ddiweddar yn Llanwddyn, ar lan llyn Efyrnwy.

Ar fferm yr oeddwn i ar gyrrion y pentre, fferm sy’n perthyn i’r Gymdeithas Gwarchod Adar, lle mae Jan a’i gŵr yn croesawu plant y pentrefi cyfagos i dreulio amser efo’r anifeiliaid.

Fe ges i wahoddiad i fynd draw.oherwydd ei bod hi’n dymor wyna, ac yn wir fel y cewch chi glywed ar raglen Geraint Lloyd, bnawn fory, fe fues a phlant ysgol Pennant, yn ddigon ffodus i weld oen bach yn cael ei eni.

Beth sy’n digwydd yn eich ardal chi? Anfonwch ebost at hywel@bbc.co.uk ac fe fydda i’n falch o adael i Gymru gyfan wybod.

Blog Hywel Gwynfryn - Llanddwyn

Ìý

Blog Hywel Gwynfryn - Llanddwyn

Ìý

Blog Hywel Gwynfryn - Llanddwyn

Ìý

Y Lleol a'r Cenedlaethol

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü: ,Ìý

Hywel Gwynfryn | 15:16, Dydd Mercher, 11 Ebrill 2012

Sylwadau (0)

Ydych chi wedi clywed am orsafoedd radio Tudno Fm, GTFm, a Bro Radio? Gorsafoedd radio cymunedol ydyn nhw, ac yn ystod y flwyddyn yma fe fydd Â鶹ԼÅÄ Cymru, yn gweithio'n agos efo'r gorsafoedd yma.

Yn ddiweddar fe fues i i fyny yn y Gogledd yn sgwrsio efo Alwyn Samuel, ddarlithydd yn y cyfryngau wrth ei alwedigaeth, ond mae o hefyd yn rhoi ei amser hamdden yn rhad ac am ddim i gyflwyno rhaglenni Cymraeg ar Tudno FM, sy'n darlledu i ddalgylch o bymtheng milltir o amgylch tre Llandudno.

Wedyn fe es i am dro i lawr yr arfordir i Brestatyn i gyfarfod Nia Lloyd Williams, cyflwynydd ar Point FM. Ac ar ôl sgwrs a phaned yn y stiwdio fe aethom draw i Ruthun i gyfarfod Robat Arwyn, fydd yn un o westeion Nia, yn y dyfodol agos.

Nia Lloyd Williams

Fe fydda i hefyd yn ymweld â gorsafoedd yn y de, ac eisoes mae 'na daith wedi ei threfnu yng nghwmni Eifion Lloyd Jones, cyflwynydd gwasanaeth radio cymunedol Blaenau Gwent i Amgueddfa yn yr ardal sy'n adrodd hanes y Siartwyr. Dyna i chi ragflas yn unig o'r hyn sydd i ddod.

Fe gewch chi flasu mwy, a chlywed profiadau cyflwynwyr y gorsafoedd radio Cymunedol led Cymru ar raglen radio Geraint Lloyd yn ystod yr wythnosau nesa.

Pan o'n i'n rhodio mynwent eglwys.......
A chredwch chi fi, mae yna gannoedd o bobl drwy Gymru wrth eu bodd ym mynwentau, yn ôl yr ymateb i'r straeon am fynwentydd diddorol Cymru ar raglen Nia. Ac os wyddoch chi am stori fynwent ddiddorol cysylltwch efo hywel@bbc.co.uk ac fe wna i'n siwr fod y stori yn cael ei chlywed ar raglen Nia. Yn ddiweddar fe ges i gwmni Cerwyn Davies, ym mynwent Bethel, Mynachgloddu, lle mae Twm Carnabwth, un o arweinwyr terfysg Beca wedi ei gladdu.

Cerwyn Davies

Ac yng Nghwm yr Eglwys, fe adroddodd Rex Harries, hanes y noson y chwalwyd muriau eglwys, pentref bychan Cwm yr Eglwys, dros gant a hanner o flynyddoedd yn ôl. Mae o a chyfeillion wedi mynd ati dros y blynyddoedd i ofalu am y fynwent , ac wedi cofnodi'r manylion sydd ar bob un garreg fedd. Dyna i chi lafur cariad.

Rex Harries

Cofiwch os oes 'na unrhyw beth diddorol yn digwydd yn eich ardal chi anfonwch e-bost at hywel@bbc.co.uk.

Mwy o’r blog hwn…

Pynciau dan sylw

    °ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

    Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

    Cyfranwyr diweddaraf

    Â鶹ԼÅÄ iD

    Llywio drwy’r Â鶹ԼÅÄ

    Â鶹ԼÅÄ Â© 2014 Nid yw'r Â鶹ԼÅÄ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

    Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.