Â鶹ԼÅÄ

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Y Sioe Amaethyddol Frenhinol, Ddiddorol, Amrywiol

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Hywel Gwynfryn | 10:33, Dydd Mawrth, 26 Gorffennaf 2011

Er mai mewn tÅ· cownsil ym Mron-y-Felin Llangefni y ces i fy ngeni, mae 'na 'chydig o anian yr amaethwr yn fy nghyfansoddiad. Ddim llawer mae'n wir, ond digon mae'n amlwg i mi gael pedwar diwrnod wrth fy modd yn y Sioe Frenhinol yn Llanelwedd eto eleni.

Porthmon oedd fy nhaid wrth ei alwedigaeth, ac fe'i ganwyd yn Felin Fadryn ar dir Love Jones Parry ym Mhen Llyn. Pan oeddwn i'n fychan adroddai straeon amdano yn cerdded hwyaid efo col-tar o dan eu traed i farchnad Pwllheli.

Mae gen i go' da iawn o fynd efo fy nhaid yn ystod gwyliau ysgol i'r farchnad yn Llangefni, ac i Bentraeth hefyd i aros ar fferm Yncl Frank ac Anti Stephanie. 'Sdim rhyfedd mod i'n gwybod mae brîd o wartheg ydi Limousin, ac nid car mawr du i gario sêr Holywood i'r Oscars.

Dyma bellach y sioe amaethyddol ora' yn Ewrop meddai'r gwybodusion, ac fe ddaeth dros chwarter miliwn o'r rheini i'r sioe yn ystod yr wythnos. Mae hi'n cynnig rhywbeth i bawb- o bot o fel, i geffyl gwedd, o darw urddasol, i fyrgyr flasus. Fe synais i at frwdfrydedd y ffermwyr ifanc, ac amrywiaeth y cystadlaeuthau ar y llwyfan. Yn ol Nigel Owens, y dyfarnwr rhyngwladol, a Llywydd Clybiau Ffermwyr Ifanc Cymru. roedd safon y rygbi saith- bob- ochor yn uchel iawn.

Llongyfarchiadau i Sir Gaernarfon, noddwyr y sioe eleni, am Å´yl i'w chofio.
Un nodyn trist i gloi. Ar ddechrau'r sioe fe fu farw'r, bardd a'r ysgolhaig Geraint Bowen. Ym mil naw pedwar chwech, ei awdl o i'r Amaethwr, enillodd y gadair yn eisteddfod Aberpennar. Meddai Alan Llwyd : 'Fe'i lluniwyd mewn cyfnod a oedd ar y ffin rhwng amaethu traddodiadol ac amaethu yn y dull newydd. Awdl gywrain ryfeddol' Ac fe fyddai pawb ddaeth i Lanelwedd eleni yn cytuno efo'r gwirionedd yng nghwpled ola' englyn cynta'r awdl honno

'Y gwr a arddo gweryd
A heuo faes-gwyn ei fyd.'

Lluniau o'r Sioe

Mwy o’r blog hwn…

Pynciau dan sylw

    °ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

    Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

    Cyfranwyr diweddaraf

    Â鶹ԼÅÄ iD

    Llywio drwy’r Â鶹ԼÅÄ

    Â鶹ԼÅÄ Â© 2014 Nid yw'r Â鶹ԼÅÄ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

    Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.