Â鶹ԼÅÄ

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

O Bancffosfelen i Bangalore

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Hywel Gwynfryn | 13:23, Dydd Llun, 4 Gorffennaf 2011

Ydi mae hi'n dipyn o daith, ac yn beryglus iawn - yn enwedig rhwng Tymbl a Pontyberem!

Gadwch i mi esbonio. Dydd Sadwrn 'roeddwn i yn sioe Bancffosfelen,

Ìý

Yna, ar ôl galw heibio Parc y Scarlets, ddoe, lle roedd y Â鶹ԼÅÄ wedi trefnu diwrnod agored ddydd Sul, i fynny a fi i Langollen er mwyn treulio pedwar diwrnod yn yr Eisteddfod Ryngwladol-lle bydd 'na ddawnswyr o'r India(Bangalore, ella) corau o'r America(yn sicr), cantorion o Canton (hwyrach), a llond maes o liwiau llachar gwisgoedd cenedlaethol y gwahanol wledydd.

Yn rhyfedd iawn, 'tydi'r gefnogaeth Gymreig i'r Ŵyl ddim mor frwdfrydig ag y gallai fod, er fod unigolion a chorau fel Timothy Evans, Glanaethwy a Godre'r Arran wedi dangos eu bod nhw cystal bob tamed a chystadleuwyr unrhyw wlad yn y byd. Yn sicr fe fyddwn ni, ar Radio Cymru yn rhoi sylw i gystadleuwyr Gwlad y Gân, ac fe gewch chi glywed y cystadlu ar raglen Nia yn y bore a Geraint Lloyd yn y p'nawn ar ddydd Mawrth a dydd Mercher.

Erbyn dydd Sadwrn fe fydda i yng ngharnifal Llangefni, ac fel hogyn o'r dre rydw i'n hynod o falch fod y trefnwyr wedi gofyn i mi agor y carnifal, ond fydd dim rhaid i mi wisgo fel Mozart, fel y g'nes i yng ngharnifal Llangefni ym 1949. Ond ydach chi'n nabod yr hogyn bach diniwed arall yn y llun ar y dde?

Ìý

Neb llai na Tony, o'r ddeuawd Tony ac Aloma.

Felly mae 'na obaith y gwela i chi naill ai yn Llangollen neu Langefni yr wythnos hon, neu yn Sioe Fawr Llanelwedd ym mhen pythefnos.

Gyda llaw diolch i Doris a Meinir Teilio am y sgwrs yn sioe Bancffosfelen, Os 'da chi am wybod unrhwy beth o hyn ymlaen am ddefaid Balwen anfonwch at hywel@bbc.co.uk

Mwy o’r blog hwn…

Pynciau dan sylw

    °ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

    Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

    Cyfranwyr diweddaraf

    Â鶹ԼÅÄ iD

    Llywio drwy’r Â鶹ԼÅÄ

    Â鶹ԼÅÄ Â© 2014 Nid yw'r Â鶹ԼÅÄ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

    Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.