Â鶹ԼÅÄ

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Joio efo'r Jacs

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü: ,Ìý

Hywel Gwynfryn | 15:09, Dydd Mawrth, 7 Mehefin 2011

Cyn mynd dim pellach - cwestiwn. Pam mae pobol Abertawe yn cael ei galw'n Jacs? Un esboniad ges i ar faes Eisteddfod yr Urdd ar gyrion y ddinas, gan neb llai na Heini Griffith, oedd mae yr un 'jac' ydi o a'r 'jac' yn 'jac-tar', sef hen enw ar longwr. Un o ddyletswyddau'r llongwr ar yr hen longau hwyliau oedd 'tario' gwaelod y llong i wneud yn siwr na fyddai dŵr y môr yn llifo i mewn i'r howld. Os wyddoch chi am esboniad arall, anfonwch ebost i hywel@bbc.co.uk.

Diolch i Abertawe am eu croeso. Diolch i bawb oedd yn gysylltiedig a threfnu'r
Eisteddfod am sicrhau wythnos gofiadwy arall i ni, a diolch i Aled Sion a Sheelagh a'r tîm am ofalu fod yr holl gystadlu yn digwydd ar amser ac i'r funud. Llyfn iawn- fel alarch yn nofio ar wyneb y llyn. Mae'r Elyrch wedi hedfan yn uwch na'r 'Nefol Eroplen' erbyn hyn, i fyny i'r Uwch Gynghrair at Lerpwl, Man U. ac Arsenal. Beth amdani Caerdydd? Flwyddyn nesa'?

Beth oedd uchafbwynt yr wythnos i chi? Mi alla i ateb y cwestiwn yna mewn dau air-Miriam Evans. Pan ddaeth yr eisteddfod i'r De am y tro cynta ym 1931, roedd Miriam yn un o'r cystadleuwyr, ac mae hi'n dal i gofio'r eisteddfod honno er ei bod hi erbyn hyn yn 92. Roedd hi'n bleser cael ei chwmni ym mhabell ddarlledu Radio Cymru, a gwrando arni yn hel atgofion.

Edrach ymlaen at y 'steddfod nesa' rwan. 'Steddfod Llangollen fydd honno, a wedyn y Genedlaethol yn Wrecsam. A chyn hynny fe fyddwn ni'n ymweld a sioeau led led Cymru. Wela i chi yn sioe Aberystwyth ddydd Sadwrn.

Mwy o’r blog hwn…

Pynciau dan sylw

    °ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

    Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

    Cyfranwyr diweddaraf

    Â鶹ԼÅÄ iD

    Llywio drwy’r Â鶹ԼÅÄ

    Â鶹ԼÅÄ Â© 2014 Nid yw'r Â鶹ԼÅÄ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

    Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.