Â鶹ԼÅÄ

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

O Gaernarfon i Borthmadog ar y trên

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Hywel Gwynfryn | 14:30, Dydd Gwener, 15 Ebrill 2011

Mae'r ugeinfed o Ebrill 2011 yn ddiwrnod hanesyddol yn hanes rheilffordd Eryri.
Ar y diwrnod yma y bydd y rhan ola o'r lein rhwng Caernarfon a Phorthmadog yn cael ei hagor yn swyddogol.

Trên bach Eryri yn barod i fynd ar ei daith

Ond fe fues i'n ddigon ffodus i fynd ar y daith wythnos yn ôl yng nghwmni'r archifydd Gareth Heulfryn, a dau o'r gwirfoddolwyr brwd, Elwyn Jones a Tony Williams, taith oedd yn mynd a ni drwy un o'r ardaloedd harddaf yng Nghymru.

Gareth Heulfryn, Elwyn Jones a Tony Williams yn sgwrsio yn ystod y daith i Borthmadog ar y trên

Drwy barc Eryri, heibio godre'r Wyddfa, a'r pentre' lle claddwyd un o gŵn enwoca'
Cymru - Beddgelert, trwy Fwlch Aberglaslyn, gan gynnwys pen y daith ddwy awr a
hanner yn ddiweddarach.

Mae golygfeydd anhygoel i'w gweld ar y daith ar y trên o Gaernarfon i Borthmadog

Mae hanes y 'lein' yn cychwyn yn y flwyddyn 1863 pan oedd tramiau yn cael eu tynnu gan geffylau o Borthmadog i chwareli Croesor.

Yna ym 1877, agorwyd Rheilffordd Fechan Gogledd Cymru i gario teithwyr o Dinas, rhyw dair milltir o Gaernarfon i Rhyd Ddu.

Ac yn ôl Gareth Heulfryn, fe fyddai Syr Tomos Parry Williams yn teithio ar y trên bach yn aml iawn, yn ôl i Ryd Ddu, gan feddwl am odlau i'w sonedau ar y ffordd, mae'n bur debyg.

Ym 1923 ffurfiwyd The Welsh Highland Railway, ('doedd 'na ddim enw Cymraeg ar y pryd) ond oes fer iawn fu i'r fenter ac ar ôl 4 blynedd aeth yr hwch drwy'r siop, a'r trên i'r seidin!

Bu'n rhaid aros am y trên nesa am ddeugain mlynedd, fwy neu lai, ac aethpwyd ati i ail agor y lein ac ychwanegu darnau ati, nes iddi hi gyrraedd gorsaf Dinas yn 2003.

Felly llongyfarchiadau i'r holl wirfoddolwyr sydd wedi gweithio mewn hindda a
drycin i sicrhau, fod y lein fach wedi cyrraedd pen ei thaith yn 2011, a hi roes i
rheilffordd Eryri.

Cewch glywed y sgwrs ges i gyda Gareth Heulfryn, Elwyn Jones a Tony Williams ar y daith o Gaernarfon i Borthmadog ar raglen Nia Roberts ar ddydd Mercher Ebrill yr 20fed.

Prysurdeb Trenau Eryri

E-bostiwch fi gyda'ch straeon - hywel@bbc.co.uk

Mwy o’r blog hwn…

Pynciau dan sylw

    °ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

    Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

    Cyfranwyr diweddaraf

    Â鶹ԼÅÄ iD

    Llywio drwy’r Â鶹ԼÅÄ

    Â鶹ԼÅÄ Â© 2014 Nid yw'r Â鶹ԼÅÄ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

    Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.