Â鶹ԼÅÄ

Help / Cymorth

Archifau Rhagfyr 2010

Taith Nadolig

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Hywel Gwynfryn | 16:16, Dydd Llun, 20 Rhagfyr 2010

Sylwadau (0)

Fe ysgrifenwyd y penillion hyn gydag ysbrydoliaeth y Bardd Cocos o Borthaethwy

Diolch i Ysgol OM yn Llanuwchllyn
Am eu croeso ar ddechrau y teithio i Gwynfryn
A llongyfarchiadau hefyd i'r ysgol
Am lwyddo i sgwennu carol fuddugol


Criw o ddisgyblion Ysgol Syr OM Edwards Llanuwchllyn - nhw a enillodd cystadleuaeth Carol Nadolig rhaglen 'Wedi 7' ar S4C eleni

Ar ôl gweld coed 'Dolig ar fferm yn Llangollen
Fe alwais yn Ninbych a chartre' clyd Dolwen.
Erbyn bore dydd Mawrth wedi croesi i Fôn
Am hamperi Dothan y buom yn sôn.

Criw Hamperi Môn - Lois ac Elliw Jones

A rheini yn llawn o bob math o ddanteithion
Caws, chytnis a phicl a jam cyrants duon.
Cyn gadael yr Ynys, o Dothan fe es i
I Ysgol y Graig ar gyrion Llangefni.


Siôn Corn yn y Ceudyllau, Llechwedd, Blaenau Ffestiniog

Roedd Siôn Corn yn aros i'm gweld yn y Blaena'
Mewn ogof fawr liwgar yn llawn o bresanta'
I grombil y ddaear yr es ar y trên
Ac yn wir cefais anrheg. Mae o'n hynod o glên.

Rhai o ddisgyblion Ysgol Cefn Coch Penrhyndeudraeth ar ôl derbyn eu hanrhegion gan Siôn Corn

Heibio'r Cross Foxes, heb yrru'n wyrion
Drwy Fachynlleth i bentref bach tlws Aberaeron
Fe alwyd yn Llambed er mwyn torri gair
Efo'r doethion a Joseff, dau fugail a Mair.

Alan Fewster yn paratoi côr ar gyfer perfformiad o'r Meseia

Yn nhref Pontarddulais clywyd sŵn 'Haleliwia' Roedd Côr Alan Fewster yn perfformio'r Meseia. 'Roedd ein taith bron ar ben - ond och! yng Nghaerfyrddin Heb rybudd o gwbl, daeth yr eira mor sydyn.

Taith aeafol nôl i Gaerdydd

Ac felly yn ôl i Gaerdydd 'raeth y criw
A finna' i'w canlyn. Ond os byddwn ni byw
A'r eira'n diflannu bydd y teithio'n parhau,
Ar ôl y Nadolig ar hyd ffyrdd yr hoff bau.

Golygfa hudolus yng nghanol yr eira

Mwy o’r blog hwn…

Pynciau dan sylw

    °ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

    Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

    Cyfranwyr diweddaraf

    Â鶹ԼÅÄ iD

    Llywio drwy’r Â鶹ԼÅÄ

    Â鶹ԼÅÄ Â© 2014 Nid yw'r Â鶹ԼÅÄ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

    Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.