Â鶹ԼÅÄ

Help / Cymorth

Archifau Tachwedd 2010

Sioe Aeafol Ond Croeso Cynnes.

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Hywel Gwynfryn | 13:28, Dydd Mawrth, 30 Tachwedd 2010

Sylwadau (0)



Eira yn gorchuddio prif Sgwâr Sioe Llanelwedd yn ystod y Ffair Aeaf

'Roedd 'na garthen dew o eira yn gorchuddio'r prif gylch ar safle'r sioe yn Llanelwedd a'r hen dractor yn edrach yn reit drist, pan gyrhaeddais i'r Sioe Aea' ddydd Llun.

Y pryder oedd y byddai'r tymheredd arctigol (-13 o dan y pwynt rhewi) yn cadw'r ymwelwyr draw. Ond gan fod gan bob ffarmwr gwerth ei halen, a chyflwynydd call, bâr o Long Johns yn y wardrob rhag ofn, ddaru'r tywydd oer ddim llawer o wahaniaeth i'r niferoedd ddaeth i'r sioe.

Gyda llaw wyddoch chi o le daeth yr enw 'long johns`?
Fei' henwyd ar ôl y trôns-coese-hir yr oedd y bocsiwr John L. Sullivan, yn eu gwisgo yn y sgwâr bocsio.

Telulu o Frynaman yn mwyhau'r Ffair Aeaf eleni

.

Fe ddaeth y teulu yma i'r sioe o Frynaman, ac os edrychwch chi'n ofalus, fe welwch fod y bachgen bach yn glyd a chynnes tu mewn i arth wen fechan wedi ei gweu yn bwrpasol ar ei gyfer.

Roedd digon o ddewis penwisgoedd yn y Ffair eleni

'Doedd na ddim prinder stondinau yn y Sioe yn gwerthu dillad cynnes, gan gynnwys hetiau wedi eu cynllunio i edrych fel pen llew. Go lew, wir!

O dan do, 'roedd 'na gannoedd o wahanol stondinau yn gwerthu amrywiaeth aruthrol
o wahanol nwyddau, o glustog gyfforddus i'r ci, cot wlân i'r wraig, caws o flas marmalêd, gwirodydd o oes y Celtiaid - roedd y dewis yn ddiddiwedd.

Enfys ac Olive ar eu stondin caennau yn y Ffair Aeaf

A'r stondin gynta' i mi ymweld â hi oedd stondin Popty Bach y Wlad.
Fe fu Enfys (ar y chwith) yn gweithio mewn popty am gyfnod cyn iddi hi a'i mam Olive, benderfynnu sefydlu busnes yn gwneud pob math o gacennau, pice ar y ma'n, pwdinau Nadolig, mins peis, chytnis a jam.
A chredwch chi fi, roedd y pice ar y ma'n yn toddi yn eich ceg chi fel menyn

Rhai o'r beiciau 'cwad' oedd ar werth yn y Ffair Aeaf

Fedrwch chi ddim gadael sioe fel hon - yr orau drwy Ynysoedd Prydain yn ôl rhai - heb fynd ac anrheg efo chi i'r wraig neu i ffrind.

Gan fod Geraint Lloyd yn cyflwyno ar Radio Cymru o ddau tan bump yn y prynhawn, ac felly'n methu mynd i'r sioe, fe benderfynais i brynu un o'r beiciau 'cwad' iddo fo.

Wedi'r cyfan dim ond £5000 oedan nhw, a be' 'di hynny rhwng ffrindiau? Yn anffodus 'doedd ganddyn nhw ddim papur Nadolig pwrpasol er mwyn lapio'r beic fel parsel.
Ac wrth gwrs, fedrwch chi ddim cyflwyno anrheg Nadolig i rywun heb 'i fod o wedi ei lapio'n ddel mewn papur lliwgar.

Felly Geraint, tanjerîn amdani eto 'leni, mae gen i ofn!

Diolch i'r trefnwyr am sicrhau sioe lwyddiannus arall, ac i bob un ddaeth draw i ddweud helo wrtha i.

Roedd hi'n braf cael sgwrs dros baned cynnes yn Sioe Aea' cofiadwy Llanelwedd.

Mil a Mwy

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Hywel Gwynfryn | 11:22, Dydd Gwener, 26 Tachwedd 2010

Sylwadau (0)

Dyma'r cwestiwn. 'Lle mae dannedd gosod Taid'. Yr ateb wrth gwrs ydi, 'Ym myg y
Prins'. O leia', dyna ble roeddan nhw ym 1969 yn ôl Dafydd Iwan yn ei gân 'Croeso
Chwedeg Nain'.

Fe ddylai Catherine Woodward fod wedi cael yr ateb yn gywir, oherwydd ganddi hi mae'r casgliad mwya' o fygiau yng Nghymru, dros fil ohonyn nhw, yn crogi o'r to, yn hongian ar y waliau, yn ei chartref yn Tan y Graig, Bethania.

Catherine Woodward, gyda dim ond ychydig o'i chasgliad o fygiau

Mygiau efo lluniau tractorau arnyn nhw, mygiau Radio Cymru, mygiau o'r Swistir,
mwg i goffáu Mileniwm newydd, mwg i longyfarch Catherine, neu Cati fel mae hi'n
hoffi cael ei galw, ar ôl iddi ymddeol o'i swydd fel cogydd Ysgol Penuwch.
Cyn bo hir fe fydd na fwg i goffáu priodas William a Kate yn cael ei ychwanegu at y casgliad anhygoel yma.

Mae'n cymryd deuddydd i Catherine lanhau ei chagliad cyfan o fygiau

Oes oes ganddoch chi gasgliad diddorol, cysylltwch efo mi hywel@bbc.co.uk

Gyda llaw cyn gadael Tan y Graig, roedd yn rhaid i mi flasu powlen o gawl yr oedd
Cati wedi ei baratoi ac yna darn o deisen afal i ddilyn, efo hufen wrth gwrs.
Ew, wyddoch chi be? Mae bywyd yn galed!

Artherchog!

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Hywel Gwynfryn | 16:37, Dydd Llun, 22 Tachwedd 2010

Sylwadau (0)

Mewn gair, dyna oedd ymateb Pudsey yr Arth fach felen efo'r sbotiau lliwgar i'r ymdrech a wnaed ledled Cymru, i gasglu gymaint o arian a phosib i Gronfa'r Plant Mewn Angen.

Fe gynhaliwyd ocsiwn ar Radio Cymru, lle gwerthwyd pâr o 'sgidia pêl droed Gareth Bale am chwe chant o bunnau ac fe gyhoeddodd Geraint Lloyd ar ei raglen yn y prynhawn fod disgyblion Ysgol Gymraeg Aberystwyth wedi casglu'r un swm yn union drwy dalu am ddod i'r ysgol wedi eu gwisgo fel athrawon, a'r athrawon yn gwisgo fel disgyblion.

Athrawon a disgyblion Ysgol Gymraeg Aberystwyth yn cyfnewid dillad am y diwrnod er mwyn codi arian ar gyfer Plant Mewn Angen

Yn ychwanegol at hynny, 'roedd 'na stondinau o amgylch Neuadd yr ysgol yn gwerthu pob math o nwyddau, a'r arian i gyd yn llifo i mewn i Fanc Mawr.
Gyda llaw, mae'n amlwg pwy ydi athro mwyaf poblogaidd yr ysgol - Mr Aled Morgan - a'i wallt dy cyrliog.
Y fo sydd ar y chwith yn y llun gyda llaw.

Mr Aled Morgan (ar y chwith), Ysgol Gymraeg Aberystwyth yn ei wisg ffansi

Yr wythnos yma, fe fyddai'n teithio i Lanelli i ddysgu am ddiwylliant lliwgar y sipsiwn, ac yn mynd draw i ysgol Bro Morgannwg i ddymuno pen-blwydd hapus i'r ysgol yn 10 oed.

Beth sy'n digwydd yn eich ardal chi? Gadewch i mi wybod drwy anfon e-bost ata i hywel@bbc.co.uk.

Clic! Dwbl Clic! A Dyna Ni

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Hywel Gwynfryn | 12:57, Dydd Gwener, 12 Tachwedd 2010

Sylwadau (0)

Clic ydi enw ymgyrch ddiweddara'r Â鶹ԼÅÄ i berswadio pobol hÅ·n i fwynhau, yn
hytrach, nag ofni, eistedd o flaen y sgrin gyfrifiadurol, a dysgu sut i e-bostio, sut i
grwydro'r we fyd eang yn darganfod pob math o wybodaeth ddiddorol a hynny
drwy roi clic i'r llygoden fach lwyd!

Eisoes, mae rhai o bobl hÅ·n Cwm Gwendraeth wedi bod yn mynychu dosbarthiadau cyfrifiadurol sy'n cael eu trefnu gan Fenter Cwm Gwendraeth, a phan es i draw yno y noson o'r blaen,'roedd 'na griw da iawn wedi dod i'r dosbarth ar waetha'r tywydd garw, ac Alan Jones yn ei dysgu.

Alan Jones gyda dosbarth cyfrifiaduron Menter Cwm Gwendraeth

Moelwyn Morgan, cyn aelod o'r heddlu, Erica Samuel, cyn athrawes, ac Angela Jones, cyn prifathrawes Ysgol Mynydd y Garreg a fu'n siarad efo mi am y pleser a'r hwyl maen nhw'n ei gael yn dysgu sut i wella lluniau digidol drwy ddefnyddio'r cyfrifiadur.

Disgyblion diwyd y dosbarth cyfrifiaduron

Cofiwch eu bod hi'n ddiwrnod Plant Mewn Angen ddydd Gwener nesa' (Tachwedd 19), ac fe fydda i yng nghanol plant Ysgol Gymraeg Aberystwyth sy'n codi arian i Gronfa Plant Mewn Angen, drwy wisgo gwisg ffansi.

Os ydach chi'n codi arian a chael sylw ar Radio Cymru, ffoniwch 03703500500.

Ac os oes 'na stori leol sy'n haeddu sylw cenedlaethol anfonwch e-bost at
Hywel @bbc.co.uk
Fe ddaw'r fan a fi draw i'ch gweld chi.

Stori Ysbrydoledig

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Hywel Gwynfryn | 12:47, Dydd Gwener, 12 Tachwedd 2010

Sylwadau (0)

Adeilad crand a llwyd yr olwg ydi plasty Gelli Aur, Llandeilo, hen gartre teulu'r
Cawdor ers talwm, ond bellach mae'r lle yn llawn ysbrydion.

O leia' dyna ydi honiad Geraint Hopkins. Mae o wedi treulio sawl noson yn y plasty, ac wedi clywed sŵn canu jazz yn y seler, ond dim band i'w weld yn unman, ac wedi gweld merch ifanc mewn gwisg Fictorianaidd yn sefyll tu ôl iddo.

Dro arall fe glywodd riddfannau ar yr ail lawr, a chael ar ddeall gan y bobol leol fod un o forynion y Plas wedi lladd ei hun flynyddoedd yn ôl .

Geraint Hopkins yn chwilio am ysbrydion tu allan i blasty Gelli Aur

Felly 'roeddwn i'n teimlo'n bryderus iawn wrth gamu drwy ddrysau'r Plasty y diwrnod o'r blaen yng nghwmni Geraint, a cherdded i lawr y grisiau cerrig i'r selerydd tywyll.

A wyddoch chi be welais i yno?

Wel, fe gewch yr ateb ar raglen Nia yr wythnos yma.

Gyda llaw, os wyddoch chi am straeon ysbrydion yn eich ardal ch i - gadewch i mi wybod drwy anfon e-bost at hywel@bbc.co.uk .

Fe fyddai'n siŵr o ddŵad draw - beth bynnag fydd y 'ghost'

Ffandango y dail

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü: ,Ìý

Hywel Gwynfryn | 14:57, Dydd Gwener, 5 Tachwedd 2010

Sylwadau (0)

Ymgais ydi'r geiriau uchod i ddisgrifio'r olygfa pan mae'r gwynt yn chwythu a dail yr Hydref sy'n gorwedd yn garped lliwgar ar y lôn, yn codi i'r awyr ac yn chwyrlio'n wyllt 'gan ddawnsio ffandango y dail' fel merch ifanc nwydwyllt o Sbaen.. Fe welais i fwy nag un ddawns debyg y diwrnod o'r blaen ar fy ffordd ar hyd lonydd cefn cul a choediog i Lanymddyfri, i gyfarfod John Huw Thomas.

Mae o'n byw uwchben siop, sy'n cyhoeddi mewn llythrennau bras, du, uwchben y drws ffrynt ei bod hi'n siop ddillad i blant, ond pan ewch chi i mewn 'does na ddim golwg o ddilledyn yn unman, dim ond milltiroedd o silffoedd yn llawn llyfrau cerddoriaeth a chryno ddisgiau.

Cerddoriaeth ydi cariad cyntaf Huw, ac mae o wrth ei fodd yn teithio Ewrop yn mynd o dÅ· opera i dÅ· opera, ac yn 'sgwennu am ei brofiadau. Ar y teithiau hyn, mae o hefyd wedi casglu offerynnau - dwy biano 'grand', dwy harpsicord, un bas dwbl a cello.

Mae o wedi perfformio yn Neuadd y Brangwyn Abertawe ac wedi chwarae organ Eglwys Gadeiriol Chatre a Notre Dame, felly roeddwn i'n teimlo'n freintiedig iawn yn cael clywed Huw Thomas yn chwarae darn gan Handel ar ei harpsicord.

Fe gewch chi hanes yr ymweliad a mwy o hanes Huw hefyd ar raglen Nia yn ystod yr wythnos.

Brodyr y llaeth a'r beics

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Hywel Gwynfryn | 13:47, Dydd Mawrth, 2 Tachwedd 2010

Sylwadau (0)

Y dydd o'r blaen, fe aeth y fan a fi i bentre' Pennant yn ardal Aberaeron, i gartre' Dafydd Edwards a'i wraig a'u mab Gwilym - Laburnham Hall. Yn ôl bob sôn, Dafydd ydi'r dyn llaeth hyna' yng Ngheredigion - os nad yng Nghymru.

Yn 81 oed, mae o'n mynd o gwmpas ei gwsmeriaid yn ei fan fach wen yn gwneud yn siŵr fod 'na botel o laeth ar stepen y drws yn ddyddiol, ac mae'n gwneud hyn ers deugain mlynedd a mwy.


Dafydd Edwards yn barod i fynd ar ei lownd laeth ym mhentre Pennant

Wrth ddisgwyl i'r fan gyrraedd, fe fues i'n sgwrsio efo Gwilym y mab, sy'n gofalu am y fferm hanner can erw, ond gyrfa ym myd cerddoriaeth oedd wedi ei gynllunio ar ei gyfer.

Oherwydd yn 8 oed, fe aeth i Ysgol St. Paul's yn Llundain, sy'n enwog am ei chanu corawl, ac am feithrin talentau ifanc yn gerddorol. Mae o'n dri deg erbyn hyn ac er na wireddwyd y freuddwyd gerddorol, mae o'n dal i gael pleser yn canu mewn cyngherddau lleol.

Lawr y ffordd mae Tom, brawd Dafydd yn byw. Yn ystod y rhyfel, ac yn sŵn y blitz hefyd, 'roedd Tom yn gweithio mewn labordy yn arbrofi ar lygod mawr er mwyn ceisio darganfod brechlyn i wella'r ffliw.

Fe arhosodd yn y byd gwyddonol a dod yn ôl i Gymru i weithio yn y Fridfa blanhigion yn Aberystwyth.

Ar ôl ymddeol, fe aeth ati i gasglu motor beics ac erbyn hyn mae'r garej yn llawn o feiciau BSA a Triumph a thri thractor.

Tom Edwards, gyda'i gasgiad o hen dractors a motobeics

Dau frawd diddorol iawn - Dafydd a Tom - ac fe gewch chi fwy o'i hanes
nhw ar raglen Geraint Lloyd cyn bo hir.

E-bostiwch fi gyda'ch straeon

Yng ngholau'r lamp

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Hywel Gwynfryn | 12:28, Dydd Llun, 1 Tachwedd 2010

Sylwadau (0)

Yn flynyddol, mae Tsieina yn dathlu Gŵyl y Lanternau ac mae rhai o'r lanternau yma yn codi i'r awyr ac yn hedfan i ganol y tywyllwch yn cario negeseuon at aelodau o'r teulu sydd wedi marw.

Ond wyddech chi fod 'na Å´yl y Lanternau yn cael ei chynnal yn flynyddol yma yng Nghymru, ym Machynlleth?

Rhai o'r lanternau tu allan i Blas Machynlleth nos Sadwrn Hydref 30ain

Eleni mae'r Å´yl yn dathlu ei degfed pen-blwydd a phan alwais i draw ym Mhlas Machynlleth, roedd y lle yn ferw gwyllt o blant a mamau wrthi'n creu'r lanternau allan o wiail a phapur tenau lliwgar.

Crëwyd lanternau, crwn, hirsgwar, siâp roced, siâp pabell, mewn gwirionedd pob siâp dan haul a lloer a sêr.

Trigolion ardal Machynlleth wrthi'n brysur yn paratoi'r lanternau ar gyfer yr Å´yl

Yna, nos Sadwrn diwetha' (Hydref 30ain) fe orymdeithiodd y lanternwyr, drwy dre' Machynlleth i'r cae pêl droed ar gyfer y beirniadu ac arddangosfa anhygoel o dan gwyllt.

Fe ges i'r fraint o gyflwyno cwpan i'r lantern orau, lantern Hogiau Cae Lloi, ac roedd honno ar siâp clamp o bry' mawr efo adenydd oedd yn bymtheg troedfedd o hyd.

Hogiau Cae Lloi enillodd y wobr am y Lantern orau ym Manchynlleth


Os oes 'na ddigwyddiad diddorol yn eich pentref chi o rŵan i'r Dolig, cysylltwch efo mi: hywel@bbc.co.uk

Dysgu Adrodd wrth draed y meistr

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Hywel Gwynfryn | 11:57, Dydd Llun, 1 Tachwedd 2010

Sylwadau (0)

Rhyd y Felin, Tregaron oedd dechrau'r daith.

Cartre' Mair Lloyd Davies sydd wedi bod yn hyfforddi cenedlaethau o blant i adrodd. 'Adrodd', sylwch, nid llefaru. "Sa i'n lico llefaru," medde Mair, pan ofynnais i iddi hi i ba ysgol yr oedd hi'n perthyn
"Adrodd y darn, a hynny'n llawn mynegiant. Dyna ddylech chi wneud."

A dyna wnaeth Mair am y tro cyntaf yn y flwyddyn 1925.

Y flwyddyn honno y ganwyd Richard Burton. Fe laniodd Amelia Earhart ei hawyren fregus ym Mhorth Tywyn ar ôl hedfan ar draws yr Iwerydd - y ferch gynta' i wneud hynny. Elfed oedd yr Archdderwydd yn Eisteddfod Genedlaethol Pwllheli - lle yr enillodd Wil Ifan y goron. A'r flwyddyn honno yn bump oed, mewn eisteddfod leol y cychwynnodd yrfa adrodd Mair yn bump oed.

Byth ers hynny drwy adrodd a hyfforddi mae hi wedi cefnogi cannoedd o eisteddfodau bach dros y blynyddoedd, ac mae rhai o'i disgyblion wedi cael llwyddiant ar y llwyfan Cenedlaethol yn ogystal.

Mair Lloyd Davies (yn y gadair) gyda rhai o'i disgyblion adrodd. O'r chwith i'r dde - Ffion, Catrin ac Elin

Ar ôl paned o de, llond plât o frechdanau samwn, pice ar y man, bara brith a spynj fach, fe fu Mair yn hel atgofion efo mi am 'steddfodau'r gorffennol. Fe ges i weld a chlywed yr athro wrth ei gwaith yn hyfforddi Catrin, Elin, a Ffion ac fe ges i wers adrodd ganddi hi hefyd

Ac fe gewch chi'r holl hanes ar raglen Nia cyn bo hir, pan fydd Eisteddfodau bychain Cymru yn cael dipyn o sylw ganddi.


Ebostiwch fi gyda'ch straeon

Mwy o’r blog hwn…

Pynciau dan sylw

    °ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

    Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

    Cyfranwyr diweddaraf

    Â鶹ԼÅÄ iD

    Llywio drwy’r Â鶹ԼÅÄ

    Â鶹ԼÅÄ Â© 2014 Nid yw'r Â鶹ԼÅÄ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

    Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.