麻豆约拍

Help / Cymorth

Archifau Hydref 2010

Ar y tr锚n i Gaernarfon

颁补迟别驳辞谤茂补耻:

Hywel Gwynfryn | 11:38, Dydd Mawrth, 26 Hydref 2010

Sylwadau (0)

Fel hyn y disgrifiwyd taith ar y tr锚n gan fardd yn 'sgwennu o gwmpas 1890.
Gyda llaw, 'roedd Ceiriog yn orsaf feistr wrth ei alwedigaeth, ond 'dwi ddim yn credu mai fo 'di'r awdur:

'R么l lapio'm traed mewn hugan llwyd, fel pawb oedd yn y tr锚n
Ac ysgwyd llaw ac Wmffra Llwyd, a chanu'n iach i Jane
Chwibanodd y peiriant yn gryf ac yn groch
Fel gwichiad soniarus pum ugain o foch
'Olreit' medda rhywun. A chanwyd y gloch!

'Doedd fy nghyd-deithiwr, ar y tr锚n stem o orsaf Dinas i Gaernarfon y diwrnod o'r blaen ddim yn gyfarwydd 芒'r gerdd aruchel, ond mae o'n gwybod am hanes dyfodiad y tr锚n i Gymru a'r chwildro cymdeithasol a ddaeth yn sgil hynny.

David Gwynne ar blatfform gorsaf Dinas, ger Caernarfon

Mae David Gwynne yn archeolegydd a hanesydd, ond mae o hefyd wedi gwirioni ar drenau stem, a bellach mae o'n un o gyfarwyddwyr Rheilffordd Ffestiniog ac Eryri.

Unwaith yr wythnos, mae o'n diosg ei siwt ac yn gwisgo'i ofer么ls, gan mai fo ydi stocar rheilffordd Llyn Tegid.

Hwlti heltar, sgiltar sgeltar ffwrdd a ni
Fel rhai ar badellau, neu res o degellau
Linc linc wrth gynffon ci.

Dyna ymgais y bardd yn y gerdd i ddisgrifio s诺n y tr锚n Fictorianaidd yn mynd dros y cledrau, ac fel esboniodd Dafydd, er bod y trenau yn teithio'n gymharol ara' deg, roedd taith ar y tr锚n dipyn yn gynt na cherdded o le i le.

Ac 'roedd pobol y pentrefi yn arfer sefyll bob ochor i'r lein yn chwifio fflagia' wrth i'r tr锚n chwyrnellu heibio ar gyflymdra o ugain milltir yr awr!

David Gwynn ymysg y st锚m ar blatfform Dinas

Gyda llaw, fe enillais i hanner coron yn 'steddfod Llannerchymedd, am adrodd 'Y Tr锚n', ac mae'r bardd wedi llwyddo i gyfleu hisian y stem, wrth iddi arafu a chyrraedd pen ei thaith, yn effeithiol iawn:

Dacw efail, dacw siop, dacw Gymru
S..S..STOP. S....S...STOP...S...S...STOP.

Ond pwy ydi'r awdur?
Os wyddoch chi, cysylltwch efo fi
hywel@bbc.co.uk

Ar droed i Ysgol Felinwnda

颁补迟别驳辞谤茂补耻:

Hywel Gwynfryn | 11:34, Dydd Llun, 25 Hydref 2010

Sylwadau (0)

Fe ddaeth yr atgofion yn llifo'n 么l y bore o'r blaen wrth i mi groesi buarth Ysgol Felinwnda, Llanwnda ger Caernarfon.

Atgofion o ddyddiau cynnar yr Ysgol Gynradd yn Llangefni, flwyddyn neu ddwy yn 么l erbyn hyn. Cofio'r t芒n mawr yn y dosbarth a'r athro Stephen Edwards yn rhoi poteli llefrith o flaen y gr芒t i gynhesu.

Cofio cael y gansen hefyd am ddeud pethau cas wrth Iorwerth Roberts, ac am gael ffeit efo fo. Cofio mynd allan i'r caeau tu 么l i'r ysgol i gasglu blodau a phlanhigion ar gyfer y bwrdd natur. Dyddiau difyr.

A theithio'n 么l i'r gorffennol fu hanes plant ysgol Felinwnda y bore o'r blaen wrth iddyn nhw gamu i mewn i'r dosbarth a chamu'n 么l i Oes Fictoria.
Yn ddirybudd, fe ganodd cloch yr ysgol a daeth yr athro i mewn, wedi ei wisgo mewn du, a chanson yn ei law. 'Stand' medda fo.

Rhai o blant Ysgol Felinwnda yn cael profi gwers Fictorianaidd

Ac fe safodd pob un yn syth bin, wrth i'r athro eu hannerch yn Saesneg , a gofyn i bob un ohonyn nhw ddangos eu dwylo er mwyn gneud yn si诺r eu bod nhw wedi ymolchi cyn cerdded y tair milltir i'r ysgol. "Don't forget" meddai "Cleanliness is next to Godliness".

Cafodd un ferch druan y gansen am luchio mwd at ffenestri un o'r tai cyfagos ar ei ffordd adre o'r ysgol, a 'doedd fiw i neb siarad Cymraeg yn ystod y wers neu fe fyddai'n rhaid iddo fo neu hi wisgo'r Welsh Not, sef darn o bren a'r llythrennau WN wedi eu cerfio i mewn iddo.


Dilwyn Williams gyda'r 'Welsh Not' yn Ysgol Felinwnda


Dilwyn Williams oedd yn actio'r 'athro cas', a hwyrach i chi ei weld o ar y rhaglen 'Snowdonia 1890' cyfres newydd 麻豆约拍 Cymru, sy'n dilyn hynt a helynt dau deulu wrth iddyn nhw geisio ymdopi 芒 bywyd caled yng nghesail mynyddoedd Eryri, fel y basan nhw wedi ei fyw, dros gant ac ugain o flynyddoedd yn 么l.

Yn sicr, roedd y profiad o gael Dilwyn o flaen y dosbarth wedi ei wisgo fel athro ysgol o'r cyfnod Fictorianaidd yn effeithiol dros ben, ac 'roedd 'na olwg bryderus iawn ar wynebau rhai o'r plant wrth iddo fo weiddi arnyn nhw "

"Training young minds. That's the whole point of education.. So let me hear you recite your five times table." Yn wir, mae 'na rai ym myd addysg yn credu fod angen mwy o ddisgyblaeth yn y dosbarth." Beth ydi'ch barn chi?

Fe fydd hanes yr ymweliad ac ysgol Felinwnda ar raglen Nia yr wythnos yma. Ffoniwch y rhaglen ar 03703500500, neu e-bostiwch Nia@ bbc.co.uk i ddeud eich barn.

Lle mae'r pentre?

颁补迟别驳辞谤茂补耻:

Hywel Gwynfryn | 11:01, Dydd Mawrth, 19 Hydref 2010

Sylwadau (0)

'Does 'na ddim byd o'i le mewn dwyn syniadau pobol eraill - os 'di o'n syniad da.
Ei ddwyn o, ond ei addasu o - dyna 'di'r g锚m.

'Stalwm 'roedd Geraint Lloyd yn gofyn i bobol oedd yn gwrando ar ei raglen - lle mae'r ciosg? Ar 么l rhoi nifer o gliwiau i'r lleoliad, enillydd y gystadleuaeth oedd yr un oedd yn codi'r ff么n pan oedd o'n canu yn y ciosg.

Wel, y cwestiwn heddiw ydi 'Lle mae'r pentre'?' Y cliw cynta' ydi Miles Richards.

Miles Richards tu allan i gapel Tabernacl

Cyfreithiwr saith deg a naw oed ydy Miles, sy'n dal i weithio'n ddyddiol fel cyfreithiwr, ac sy'n dal i siarad tafodiaith yr ardal, y Wenhwyseg.
Fe fues i'n ei holi o ym mynwent capel y pentref sef Capel y Tabernacl.

Yr ail gliw ydi Owain Morus. G诺r o Drefdraeth, sir Benfro yn wreiddiol, ond ar 么l cyfnod yn gweithio i'r diwydiant awyrennau, fe benderfynodd roi'r gorau i hedfan o amgylch Ewrop ac fe laniodd yn y pentref yma, ac erbyn hyn fo sy'n cadw'r swyddfa Bost, a'r siop.

Un o'r rhai sydd wedi bod yn gyfrifol am adfywio'r bywyd diwylliannol Cymraeg yn y pentref ydi'r Parch Eirian Rees, ac yn y llun isod, mae o a'i ferch yng nghyfraith Catrin yn sefyll ar brif stryd y pentref.

Parch Eirian Rees, a'i ferch yng nghyfraith Catrin

Un cliw arall i gloi. Fe enillodd parti bechgyn sydd 芒 chysylltiadau 芒'r pentre' yma un o brif wobrau yr Eisteddfod Genedlaethol eleni.
Enw'r parti ydi Parti'r Efail. Dyna'r cliwiau.

'Does 'na ddim gwobr - ond fe gewch yr ateb fore Iau yma (Hydref 21ain) ar raglen Nia Roberts ar Radio Cymru, pan fydda i'n crwydro'r pentref yng nghwmni rhai o'r trigolion.

Esbostiwch fi gyda'ch straeon

Merthyr a'r Chwildro Diwylliannol

颁补迟别驳辞谤茂补耻:

Hywel Gwynfryn | 09:45, Dydd Mawrth, 12 Hydref 2010

Sylwadau (0)

Yn 么l yr hanes, yn y flwyddyn 480, fe laddwyd, merch y brenin Brychan, o Frycheiniog, gan baganiaid ger tref Merthyr. Ei henw oedd Tydfil, ac ar ei hol hi yr enwyd y lle yn Merthyr Tydfil.

Wel, dyna mae'r llyfrau hanes yn ei ddweud beth bynnag, ac yn sicr mae Merthyr yn dref sydd 芒 lle pwysig iawn yn ein hanes ni fel cenedl.
Dyma'r dref fwyaf yng Nghymru ar un adeg, a chrud y chwildro diwydiannol yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Fe fu na chwildro arall yn y dref ym 1831 ac un o brif arwyr y chwildro hwnnw oedd yr enwog Dic Penderyn, anfarwolwyd gan Meic Stevens yn un o'i ganeuon.

Mae 'na arwyr ym Merthyr o hyd, yn creu chwildro tawel diwylliannol yn y dre. Pobol fel Lis Mclean a Les Davies, Einir Si么n a Phil Griffiths.

Y diwrnod o'r blaen fe es i draw i chwilio amdanyn nhw. Tydi hi ddim yn hawdd d诺ad o hyd i Gapel Soar. Mae o'n cuddio tu 么l i adeiladau eraill oddi ar y stryd fawr yng nghanol y dre'.


Einir Si么n a Lis McLean (ar y dde) tu allan i Ganolfan Soar

Ond y gobaith ydi y daw pawb yn Ne Cymru i wybod am Soar oherwydd mae Lis Mclean, prif swyddog Menter Merthyr, wedi bod yn arwain y frwydr i gael arian er mwyn addasu'r capel yn Ganolfan gymunedol, lle bydd 'na theatr a stiwdio dawns.

>


Einir Si么n, Lis McLean a Phill Griffiths yn siop Canolfan Soar

Eisoes, ar 么l brwydr galed, maen nhw wedi sicrhau yn agos at filiwn a hanner o bunnau, ac mae'r gwaith o addasu'r hen adeilad wedi dechrau. Fe ges i sgwrs dros baned efo Phill Griffiths, a Les Davies.

Phill sy'n gofalu am y siop lyfrau a recordiau, ac mae Les yn cynnal dosbarthiadau dysgu Cymraeg i griw eiddgar iawn.


Les Davies gyda'r dosbarth Cymraeg ynghyd 芒 rhai o weithiwyr Canolfan Soar

Gyda chymorth, yr actores Einir Si么n, fe ddylai'r perfformiad cyntaf yn y theatr newydd fod yn barod erbyn dechrau'r flwyddyn newydd, ac unwaith eto fe fydd capel Soar, ar ei newydd wedd, yn llawn.

Cofiwch y bydda i'n darlledu fy rhaglen arferol ddydd Sul nesa' (Hydref 17eg) yn fyw o Ferthyr am 1045am tan 1200pm
Ebostiwch fi gyda'ch straeon

T鈥徟 Siamas, Emyr Puw, Boccia

颁补迟别驳辞谤茂补耻:

Hywel Gwynfryn | 16:12, Dydd Gwener, 8 Hydref 2010

Sylwadau (0)

'Parch yw fy mhwrpas i Elis Shon Siamas
Telyniwr mawr urddas, dda fwynwas hy fedd.'

Wyddon ni ddim pwy 'sgwennodd y cwpled yna i Elis, dros dri chan mlynedd yn 么l.
Ond fe wyddon ni mai fo oedd y cerddor cyntaf i lunio telyn deires yng Nghymru.

Mae 'na s么n hefyd ei fod o'n delynor i'r Frenhines Anne. 'Sdim rhyfedd felly fod
y Ganolfan Genedlaethol i Gerddoriaeth Cymru, ar sgw芒r Dolgellau, sef T欧 Siamas wedi ei enwi ar ei 么l.

Galw heibio wnes i, i ddymuno pen-blwydd hapus i'r Ganolfan yn dair oed. Ac fe ges i groeso yno gan un o'r sylfaenwyr Ywain Myfyr, sy'n aelod o'r gr诺p Gwerinos,

Criw T欧 Siamas, Dolgellau

Heledd sy'n gofalu am y siop, sy'n gwerthu pob math o offerynnau a cherddoriaeth gwerin, a John Cadwaladr aeth a fi o amgylch yr adeilad. Bellach mae'r ganolfan yn cynnig gwersi cerddorol i offerynwyr ifainc ac roedd Rhiain Bebb o Fachynlleth wrthi'n rhoi gwersi i delynorion y dyfodol. Felly mae ysbryd yr hen Siamas yn fyw ac yn iach.

Rhiain Bebb gyda'i disgyblion yn T欧 Siamas

Ymlaen wedyn o Ddolgellau i Dalybont yn Harlech i gyfarfod ag Emyr Puw, sydd bellach yn ei wythdegau, ond yn edrych dipyn yn 'fengach, er ei fod o wedi treulio tair blynedd, pan oedd o'n fachgen ifanc iawn mewn Sanatoriwm yn Nhalgarth, oherwydd ei fod o'n dioddef o'r dic谩u, neu'r TB.

Emyr Puw

Yn dilyn ei arhosiad yn yr ysbyty bu'n rhaid iddo gael llawdriniaeth oedd yn golygu colli ysgyfant. Ac eto mae Emyr, ('gyda chymorth y wraig') wedi byw bywyd llawn a phrysur, ac mae'r blodau a'r llysiau yn deyrnged i'w waith caled rhwng y rhesi.

Enillodd fedal y BEM, pan oedd yn gweithio yn Atomfa Trawsfynydd, a'r flwyddyn nesa' fe fydd o'n dathlu'r ffaith ei fod o wedi bod yn flaenor yn ei gapel ers hanner can mlynedd. Os wyddoch chi, am rywun fel Emyr sy'n haeddu sylw a sgwrs, cysylltwch efo mi hywel@bbc.co.uk

Porthmadog oedd diwedd y daith yr wythnos yma, yng nghanolfan Glasynys yn gwylio Marcus, Mark, Ashley, Jackie a'r criw, yn chwarae g锚m o'r enw Boccia.

G锚m debyg iawn i fowls ydy Boccia , ond fod y chwaraewyr yn defnyddio peli llai wedi eu gwneud o ledr, ac yn ceisio cael y peli mor agos i'r 'jack' a phosib.

Marcus, Mark, Ashley (ar y chwith) , Jackie a'r criw, yn chwarae g锚m o'r enw Boccia

Eisoes mae Ashley - ar y chwith yn y llun - yn un o'r chwaraewyr gorau yng Nghymru, ac fe fydd y g锚m yn cael ei chynnwys yn y Mabolgampau Paraolympaidd
yn Llundain yn 2012. Pob hwyl i ti Ashley.

Penblwydd Hapus Aneurin yn 105

颁补迟别驳辞谤茂补耻:

Hywel Gwynfryn | 12:04, Dydd Llun, 4 Hydref 2010

Sylwadau (0)

Yn y flwyddyn 1905 fe aeth asbrin ar werth am y tro cynta'. Fe benodwyd Lloyd George yn Lywydd y Bwrdd Masnach, ac roedd pawb yn canu c芒n boblogaidd y dydd
'I loved a Lassie' gan Harry Lauder.

Ac yn Fochriw, tu allan i Gaerffili, fe anwyd Aneurin Thomas. Mae Lloyd George a Harry Lauder wedi'n gadael ni ers blynyddoedd, ond mae Aneurin Thomas 'Yma o Hyd' ac yn byw erbyn hyn yng Nghaerffili, lle'r es i i'w weld o yr wythnos ddiwetha' i ddymuno pen-blwydd hapus.iddo fo yn gant a phum mlwydd oed.

Aneurin Thomas o Gaerffili sy' newydd ddathlu ei benblwydd yn 105 oed

'Roedd ganddo nifer o straeon i'w hadrodd wrth olrhain hanes ei fywyd prysur. Bu'n athro, ac yn arweinydd band, yn ogystal 芒 chyfeilio ar y piano yn y sinema leol i ffilmiau Charlie Chaplin a Buster Keaton.

'Roedd ei dad yn awyddus iddo fynd i'r Brifysgol yng Nghaerdydd i astudio cerddoriaeth, ac roedd o'n cofio eistedd yn y parc yng Nghaerdydd, yn aros am y cyfweliad, wrth ochor merch ifanc o'r Barri, ddaeth yn un o gyfansoddwyr enwoca' Cymru - Grace Williams.

A beth ydy cyfrinach Aneurin?
"Bod yn brysur" medda' fo "a bwyta be' chi moin."

Cyngor hawdd iawn i mi ei dderbyn, fel un sy'n mynd drwy'r amser, ac yn hoffi llenwi i fol!

Bydd hanes Aneurin i'w glywed ar raglen Nia Roberts ar Radio Cymru ddydd Llun, Hydref 4ydd.


Ebostiwch fi gydag unrhyw hanesion

Mwy o鈥檙 blog hwn鈥

Pynciau dan sylw

    颁补迟别驳辞谤茂补耻

    Dyma rhai o鈥檙 pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

    Cyfranwyr diweddaraf

    麻豆约拍 iD

    Llywio drwy鈥檙 麻豆约拍

    麻豆约拍 漏 2014 Nid yw'r 麻豆约拍 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

    Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.