Â鶹ԼÅÄ

Help / Cymorth

Archifau Medi 2010

Blodau, Bagiau a Hen Lyfr Cownt

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Hywel Gwynfryn | 12:19, Dydd Mercher, 29 Medi 2010

Sylwadau (0)

Fel pob pregethwr da, 'dwi wedi dewis tri phen i'r bregeth heddiw.

Mae'r blodau'n cyfeirio at gystadleuaeth 'Cymru yn ei Blodau', ac eleni eto
fe enillwyd y gystadleuaeth yn yr adran i bentrefi efo llai na 300 o drigolion
gan bentref Casblaidd, sir Benfro, sydd rhyw saith milltir i'r gogledd o Hwlffordd.

Plant Ysgol Casblaidd, Sir Benfro yn weithgar yn yr ardd

Fe fu plant yr ysgol, dan arweiniad y pennaeth Wendy Raymond yn weithgar iawn hefyd, a'r newyddion da ydi, fod gerddi Casblaidd wedi eu henwebu ar gyfer y wobr gyntaf drwy Ynysoedd Prydain.

Felly ym Mirmingham heno (nos Fercher Medi 29ain) efallai y bydd Geoffrey Eynon, Gwenda Williams, Brynmor Harries a Wendy, yn codi gwydryn o siampên i ddathlu.
Fe gewch wybod ar Radio Cymru fore Iau (Medi 30ain), ar raglen Nia Roberts rhwng hanner awr wedi deg a hanner dydd.

Parch Geoffrey Eynon, Wendy Raymond, Gwenda Williams a Brynmor Harries a fydd yn cynrychioli pentre' Casblaidd yng nghystadleuaeth 'Prydain yn ei Blodau' yn Birmingham

A beth am y bagiau a'r hen lyfr cownt?
Wel 'roedd yn rhaid i mi deithio o Gasblaidd i Bumsaint, ger Llambed am yr ateb. Yn y pentref bychan hwnnw mae 'na ddau fusnes sy'n dyddio'n ôl i'r ddeunawfed ganrif.

Un ydi busnes D. Lloyd a'i feibion, a sefydlwyd ym 1797. Busnes coed a cherrig, a glo - a dyna esbonio'r bagiau.

Tecwyn Lloyd a'i chwaer Ceinwen, sy'n gofalu am y busnes

A'r llall yn fusnes Garnet Rees sefydlwyd fel gefail y gof ym 1756, ond sydd bellach yn fusnes atgyweirio peiriannau.

Garnet Rees (ar y dde), gyda'i fab Arwyn

Ac mae gan Garnett gopi o hen lyfr cownt yn dyddio'n ôl i ddechrau'r bedwaredd ganrif ar bymtheg. Fe fydd hanes y ddau fusnes ar raglen Geraint Lloyd cyn bo hir, ac fel un sy'n hoffi busnesu ym musnes pobol, os wyddoch chi am fusnes sy'n hyn na'r ddau ym Mhumsaint, cysylltwch efo fi ac fe aiff y fan a fi i'r fan a'r lle i gael yr hanes.

Niwl ar fryniau Dyfed

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü: ,Ìý

Hywel Gwynfryn | 13:02, Dydd Gwener, 17 Medi 2010

Sylwadau (0)

Yn ddiweddar fe aeth y fan a fi ar daith o amgylch Sir Benfro. Pentre Llanychaer uwchlaw Abergwaun oedd y lle cynta' i mi barcio, ar fferm Gronllwyn, lle mae Eurig Evans, y mab, wedi arallgyfeirio a sefydlu busnes sy'n gwerthu darnau o lechi ar gyfer yr ardd, a'r rheini wedi 'u cloddio o'r chwarel sydd wedi bod ar dir y teulu ers trigain mlynedd.

Mae ei fam, Rian, yn hanesydd lleol a chanddi hi, a'i merch Elin, sy'n brifathrawes Ysgol Blaenconnin, Llandisilio, y cefais i hanes y digwyddiad diddorol sy'n cael ei gynnal y penwythnos yma yn yr ardal sef 'Taith yn ôl i'r Pedwardegau'.

Eurig a Rian Evans

Ymlaen yr es i wedyn i Faenclochog i gyfarfod Hefin Wyn, a chael peth o hanes Waldo ganddo fo, a chan Alun Ifans, cyn brifathro Ysgol Casmal, lle bu Waldo ei hun yn brifathro.

Mae'r degfed ar hugain o'r mis yma yn ddiwrnod i gofio Waldo ar ddydd ei ben blwydd. Ac wrth garreg Goffa Waldo y daeth y daith y ben yng nghwmni Cerwyn Davies, Cadeirydd y Gymdeithas sy'n gweithio'n egnïol iawn i gadw'r cof am un o feirdd mwyaf Cymru yn fyw.

Cerwyn Davies ac Alun Ifans wrth Cofeb Waldo

Ar y nos Lun fe fues i draw yng nghwt Band Pres Wdig. Mae hi'n gyfnod cyffrous iawn yn hanes y Band, gan eu bod nhw'n cystadlu mewn Pencampwriaeth bwysig yn Harrowgate ymhen yr wythnos, ac fel y clywais i gan y Cadeirydd Tony Evans, maen nhw hefyd yn gobeithio cael cartre' newydd i'r band cyn diwedd y flwyddyn. Doedd Tony ddim eisiau chwythu ei drwmped ei hun (gan mai ewffoniwm mae o'n ei chwarae!) ond 'roedd o'n credu y byddai Band Wdig yn ennill y gystadleuaeth. Gobeithio'n wir. Pob lwc i'r bechgyn a'r merched.

Cwt Band Pres Wdig

Band Pres Wdig

Band Pres Wdig

A newyddion Da i gloi. Newyddion Da am Newyddion da a Chwmni Da dan arweinyddiaeth Marilyn Lewis. Yng nghapel y Tabernacl Abergwaun, maen nhw'n cynnal perfformiad o'r sioe gerdd am Mari Jones a'i Beibl. Ac mae Cymrodorion Abergwaun ym manteisio ar y cyfle heno i ddymuno'n dda i'r Parchedig Carl Williams ar ei ymddeolaid.

Marilyn Lewis a Cor Newyddion Da

Marilyn Lewis a Cor Newyddion Da

Cofiwch gysylltu os 'da chi am i'r fan a fi ddwad i'ch ardal hywel@bbc.co.uk

Plant Y Fflam

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Hywel Gwynfryn | 09:05, Dydd Llun, 13 Medi 2010

Sylwadau (0)

Plant Ysgol y Bannau yn eu gwisgoedd ffansi

Canu am 'gynnau'r fflamau' yr oedd plant Ysgol y Bannau, pan alwais i heibio'r
Ysgol Gymraeg, sydd ar gyrion tref Aberhonddu.

'Roedd pob un ohonyn nhw wedi eu gwisgo, fel yr oedden nhw'n dychmygu y byddan nhw'n gwisgo ymhen deng mlynedd ar hugain. Dyna pam yr oedd y neuadd yn llawn o ddoctoriaid, a nyrsys, Sam Tân neu ddau, un Indiana Jones a nifer o chwaraewyr rygbi.

Ddeng mlynedd ar hugain yn ôl y cynnwyd y fflam gyntaf, pan sefydlwyd yr Ysgol, drwy lafur caled Mr John Edwards, Gwilym Roberts ac eraill. Fe fu Mr Edwards yn bennaeth yr Ysgol am ddwy flynedd ar bymtheg a bellach mae'r ffagl wedi cael ei throsglwyddo i fachgen o Gwm Gwendraeth, pennaeth presennol yr ysgol, Emyr Jones.

Emyr Jones, prifathro Ysgol y Bannau gyda'r rhai a fu'n rhedeg 30 cliometr fel rhan o ddathliadau'r ysgol

I ddathlu'r pen-blwydd, fe aeth o, ac un o'r rhiant, Neil James i Graig y Nos, ac yna rhedeg y 30 cilomedr yn ôl i'r ysgol. Ac 'roedd rhai o'r rhieni yn teimlo'n ddigon brwdfrydig i reidio 'u beiciau o gwmpas yr ardal hefyd er mwyn gadael i bawb wybod, fod yr ysgol yn dathlu'i phen-blwydd.

Un arall sydd ar y staff ac yn edrych ar ôl gweinyddiaeth yr ysgol, ydi Catherine Roberts, ond mae ganddi hefyd weithdy, lle mae hi'n creu darnau cywrain mewn gwydr, ac yn wir fe ddangoswyd peth o'i gwaith hi yn yr Eisteddfod eleni.

Rhydian, un o gyn-ddisgyblion Ysgol y Bannau

Mae fflamau'r iaith a'r diwylliant Cymraeg, yn cael eu gwarchod yn ofalus yn Ysgol y Bannau a 'dwi'n siŵr y byddai dau o gyn disgyblion yr ysgol, yr actores Nia Roberts a'r canwr Rhydian, am i mi ddymuno pen-blwydd hapus i'w hen ysgol yn 30 oed.
Ymlaen i'r 30 nesa!

Cariad Rhwng Y Cloriau

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü: ,Ìý

Hywel Gwynfryn | 13:29, Dydd Llun, 6 Medi 2010

Sylwadau (0)

Pe bawn i'n cael fy alltudio gan Radio Cymru i Aberystwyth am flwyddyn, fe fyddwn yn hapus iawn am dri rheswm. Rydw i'n hoff iawn o'r dre', mae Geraint Lloyd bob amser yn gwmni da, ac wrth gwrs, Aberystwyth ydi cartre Fort Knox ein diwylliant, sef y Llyfrgell Genedlaethol.

Fe ŵyr unrhyw un sy'n gwybod unrhyw beth amdana i, fy mod i wrth fy modd mewn llyfrgell, yn enwedig y Llyfrgell Genedlaethol, a pheidied neb â meddwl mai Mecca i'r doeth, a'r deallus a'r academic yn unig ydi hi - dyna pam 'dw i'n teimlo'n gartrefol yno!

Ers rhai blynyddoedd bellach, mae'r sefydliad eiconig yma wedi bod yn ymdrechu i ddenu pawb yn ddiwahân i gerdded mewn drwy'r drysau. A dyna un rheswm pam y cynhaliwyd digwyddiad hanesyddol yn y llyfrgell bnawn Sadwrn (Medi'r 4ydd). Am y tro cynta' ers 1916 pan agorwyd drysau'r Llyfrgell Genedlaethol, fe gynhaliwyd gwasanaeth priodas yno, yn 'stafell grand y Cyngor.

Elin Jones, merch Bob Morus a'r delynores Bethan Bryn oedd yn priodi, a'r priodfab lwcus oedd Sean Garrel, peilot awyrennau o'r Unol Dalaethau America - gŵr ifanc sydd wedi glanio ar ei draed?
Roedd y ddau, wedi bod yn ddigon caredig i wahodd Radio Cymru i'r briodas, ac fe roedd yr hanes i gyd ar raglen Nia Roberts fore Llun Medi'r 6ed. Gyda llaw, os ydach chi'n byw yng Ngheredigion ac yn ystyried cymryd y cam mawr cyn bo hir, ond heb ddewis lle eto, fe fyddai Pedr ap Llwyd yn y Llyfrgell yn hapus i'ch cynghori.

Ar ôl y briodas, fe benderfynais fynd yn ôl i'r gwesty a gwylio noson o deledu. Ond, fel yr oeddwn i ar fin mynd i fyny'r grisiau, clywais lais y perchennog yn gweiddi "Paid â mynd i nun lle. Mae croeso i ti ddod i ginio tysteb Dafydd Jones o'r Scarlets, ac ymuno â 350 o westeion yn y Marquee" Derek a Scott Quinell, Stephen Jones, Gareth Jenkins, a Phill Bennett.

'Roedd y mawrion i gyd yno. Yn wir, roeddwn i'n rhannu bwrdd â Phill, fy ffrind newydd. Noson hynod o hwyliog, Mor hwyliog yn wir, tua hanner nos fe gefais fy nhemtio i awgrymu i Gareth Jenkins sut y gallai'r Scarlets, o ddilyn fy awgrymiadau i, wella eu chwarae ac ennill mwy o gemau, ond fe fyddwch yn hynod o falch o glywed - na, 'wnes i ddim.

Ac yn y bore, 'roeddwn innau'n falch iawn hefyd! Ond fe wnes i'n siŵr fy mod i'n ffonio un o gefnogwyr mwyaf selog y Scarlets, fy nghydweithiwr, eiddigeddus, Mr Keith 'Bach' Davies, i ddweud yr hanes. Nid gweddus fyddai i mi ail adrodd ei ymateb.

Gŵyl y Banc yn Llansannan

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Hywel Gwynfryn | 09:13, Dydd Mercher, 1 Medi 2010

Sylwadau (0)

Dros yr ha', dw i 'di bod yn ymweld â sioeau Cymru - yn fach a mawr, ac ar Ŵyl y Banc, 'roeddwn i mewn cae yn Llansannan yn mwynhau'r heulwen efo ffermwyr y cylch, ac yn gwylio'r cobiau yn prancio o gwmpas y prif gylch.

Draw yng nghornel pella'r cae roedd beirniaid y defaid Texel yn edrych yn feirniadol ar y cystadleuwyr gwlanog. Erbyn canol dydd, roedd pob teisen, pot o jam, picls a chytni, wedi cael eu gosod ar fyrddau yn y Neuadd, wrth ochor y cae, a'r nionod mawr, a'r cennin mwy, y tomatos-maint-peli-criced, a'r tatws, fel peli rygbi, yn gorwedd wrth ochrau'i gilydd a phob un yn disgwyl am y cerdyn coch.

Llongyfarchiadau i ffermwyr ifanc Llansannan am drefnu'r Sioe, a diolch iddyn nhw hefyd am eu croeso i ni, ac i ferched y gegin am y salad blasus a'r banad!

O Lansannan fe es i draw i Tŷ Newydd, yn Llanystumdwy. Hwn oedd y tŷ olaf i Lloyd George fyw ynddo fo, ond ers blynyddoedd bellach mae o'n encil llenyddol i unrhyw un sydd â diddordeb mewn sgwennu rhyddiaith neu farddoniaeth, a'r penwythnos yma, mae Tŷ Newydd yn dathlu'i ben blwydd yn un ar hugain oed, ac yn ôl Bethan Jones Parry, sy'n trefnu cyrsiau Tŷ Newydd, fe fydd o'n barti i'w gofio.

Yn ei chwmni hi fe es i o amgylch y TÅ·, ac fe gewch chi hanes yr ymweliad ar raglen Nia, bore fory ar Radio Cymru.
Gyda llaw, ddydd Gwener 'dwi'n mynd draw i briodas yn Aberystwyth - y briodas gynta' erioed i gael ei chynnal yn y Llyfrgell Genedlaethol. Ac fe fydd yr hanes i gyd, efo pinsiad o gonffeti, unwaith eto ar raglen Nia, fore Llun.

Cofiwch gysylltu os 'da chi am i mi ddŵad i'ch ardal chi, i roi sylw cenedlaethol, ar wasanaeth cenedlaethol Radio Cymru, i'r hyn sy'n digwydd acw. Y cyfeiriad ydi hywel@bbc.co.uk

Mwy o’r blog hwn…

Pynciau dan sylw

    °ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

    Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

    Cyfranwyr diweddaraf

    Â鶹ԼÅÄ iD

    Llywio drwy’r Â鶹ԼÅÄ

    Â鶹ԼÅÄ Â© 2014 Nid yw'r Â鶹ԼÅÄ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

    Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.