Â鶹ԼÅÄ

Help / Cymorth

Archifau Gorffennaf 2010

Y tîm i gyd wedi cyrraedd y Maes

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü: ,Ìý

Hywel Gwynfryn | 12:05, Dydd Sadwrn, 31 Gorffennaf 2010

Sylwadau (0)

Pan oeddwn i'n ddim o beth 'dwi'n cofio dysgu darn adrodd am Y Trên, ar gyfer eisteddfod y capel:

"Rôl lapio'm traed mewn hugan llwyd fel pawb oedd yn y trên
Ac ysgwyd llaw ag Wmffra llwyd a chanu'n iach i Jên
Chwibanodd y peiriant yn gryf ac yn groch
Fel gwichian soniarus, pum ugain o foch"... ac yn y blaen.

Yn y pendraw mae'r trên yn cyrraedd pen y daith:

"Dacw efail, dacw siop, dacw Gymru, stop, stop STOP!!"

Mam oedd yn fy hyfforddi, a 'dwi'n ei chofio hi'n dweud:

"Cofia ddefnyddio 'S' yn 'STOP' i greu effaith y stêm yn cael ei ryddau. SSSSSSSSTOP!"

Yn anffodus fe ges fy rhoi yn y 'siding' gan y beirniad am berfformiad oedd yn orddramatig. Ond dyna ni, un felly fues i erioed.

Pam dwi'n son am y trên? Wel oherwydd mai ar y trên, ddi-stêm, y bydda i'n teithio drwy'r wythnos o Gaerdydd i'r Eisteddfod. Cychwyn o Gaerdydd bore ma (Sadwrn) am ugain munud i wyth. Cyrraedd Glynebwy am ugain munud i naw, a bws y wennol wedyn o'r orsaf i'r Maes. Y llais eisteddfodol cyntaf i mi ei glywed oedd llais fy nghydgyflwynydd Rhiannon Lewis, ar y mobeil: "Fi wedi cyrraedd y maes parcio," mewn llais oedd yn awgrymmu y dylai car mawr du y Maer fod wedi bod yno yn disgwyl amdani a deg o blismyn ar eu motorbeics i'w hebrwng i'r cae, gan mai hi wedi'r cwbwl yw y Countess o Cwmann!

Rhiannon a Hywel

Mae'r tîm i gyd wedi cyrraedd - Nia Lloyd Jones, yn crwydro cefn y llwyfan, Geraint Lloyd yn crwydro'r Maes a finna a Rhiannon yn gadw golwg ar y cystadlu. Heddiw y bandiau a'r corau sy'n cael sylw, ac fe fyddwn ni'n darlledu yn fyw ar Radio Cymru o 12.30 tan ddiwedd y cystadlu tua hanner awr wedi pump.

Y Sioe Ore 'To!

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü: ,Ìý

Hywel Gwynfryn | 13:19, Dydd Gwener, 23 Gorffennaf 2010

Sylwadau (0)

"Wedai wrthoch chi", medda Picton Jones "Dyma'r siow ore 'to. Dim whare."

O leia' 'dwi'n credu mai dyna ddywedodd o, oherwydd ar y pryd 'roedd sŵn clochdar y ceiliogod yn y Pafiliwn 'Ffwr a Phlu' yn ein byddaru ni.

Picton Jones ydi un o gymeriadau mawr y Sioe ac wedi bod yn arddangos yn ddi-dor ers 1947, felly fe gymera i ei air o. Eleni 'roedd Pencampwriaeth Cneifio'r Byd yn cael ei chynnal yn Llanelwedd, a phwy fasa'n meddwl y byddai gweld dyn yn dinoethi defaid mewn llai na hanner munud yn gallu bod yn gyffrous i'w wylio. Ond mi oedd o.

2010-llanelwedd-3.jpg

Y dorf yn gweiddi eu cefnogaeth i'r cneifwyr o bob rhan o'r byd - Iwerddon, Seland Newydd, De Affrica, Awstralia a Chymru wrth gwrs. Y sylwebyddion yn mynd dros ben llestri wrth ddisgrifio'r cneifwyr wth eu gwaith, a'r dorf yn ymateb yn frwdfrydig i'w hanogaeth i gefnogi eu gwlad. Seland Newydd aeth a hi.

Un stori wir cyn cloi. 'Roeddwn i'n darlledu'n fyw bob dydd i wahanol raglenni Radio Cymru a phnawn dydd Mercher 'roeddwn i lawr ym mhen pellaf y Sioe wrth lan y llyn yn gwylio'r pysgotwyr, a hynny yng nghwmni tair o aelodau Tîm Pysgota Merched Cymru - Audrey, Gwen a Wynora. 'Doedd dim rhaid i mi gofio eu henwau gan eu bod nhw'n gwisgo crysau T, efo'u henwau arnyn nhw. Ac fe ymunodd un gŵr dewr efo ni hefyd, sef Gari Evans, ac unwaith eto roedd yr enw ar ei grys.

Gofynnais i Gari am ei ymateb i'r ffaith fod 'na gymaint o ferched yn pysgota. Wedyn fe fu'r merched yn sôn am eu profiadau nhw. Wynora er enghraifft yn cofio dal pysgodyn deuddeg pwys. Ychydig o dynnu coes am hynny. Nôl at Gari am ei ymateb eto. Ac yna ar y diwedd, diolch i bawb gan gynnwys Gari. A'r cyfan yn fyw ar Radio Cymru.
Yna fe ddaeth 'Gari' ata i a gwen lydan ar ei wyneb "Hywel;" medda fo "Nid Gari ydi f'enw i. Edwin ydw i. Cwmni Gari Evans sydd yn ein noddi ni. A dwi'n siŵr ei fod e'n ddiolchgar am y cyhoeddusrwydd"

Oedd, roedd hi'n Sioe i'w chofio- am fwy nag un rheswm!


2010-llanelwedd-2.jpg

2010-llanelwedd-1.jpg

Taran Tudweiliog

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü: ,Ìý

Hywel Gwynfryn | 10:52, Dydd Mercher, 14 Gorffennaf 2010

Sylwadau (0)


Dyna enw'r Å´yl oedd yn cael ei hail sefydlu dros y penwythnos diwetha' (Gorffennaf 10fed) yn Nhudweiliog, pentre' bychan ym Mhen LlÅ·n ar y ffordd i Nefyn.

Roedd yr hwyl wedi cychwyn y noson cynt efo gig yn y babell ar y cae, a'r ddeuawd boblogaidd John ac Alun wedi sicrhau fod y babell fawr yn llawn.

taran_tudweiliog1.jpg

Ddydd Sadwrn, roedd 'na blant yn dynwared gwaith yr arlunydd Jackson Pollock, drwy daenellu paent efo gynnau dŵr.

Draw yn y Ganolfan 'roedd 'na weithdai clocsio yn cael eu cynnal a drws nesa i'r babell gwrw, roedd 'na fochyn yn cael ei rostio a hambyrgyrs yn cael eu sglaffio.

taran_tudweiliog3.jpg

Fe alwodd Band Chwyth Pwllheli draw hefyd a gyda'r nos 'roedd Cowbois Rhos Botwnnog, yn diddori'r bobol ifanc.

Llongyfarchiadau i bawb sydd wedi mynd ati i ailsefydlu Taran Tudweiliog.
Mae'n braf gweld y gwyliau llai yn llwyddo ac yn tynnu cymunedau at ei gilydd.

'Roeddwn i fodd bynnag yn poeni ar un adeg, wrth ddarlledu'r digwyddiadau ar Radio Cymru, y byddai rhaid ailfedyddio'r Ŵyl yn 'Taiffŵn' Tudweiliog. Ond, 'dwi'n falch o ddeud fe drechwyd y glaw man gan yr haul, a benderfynodd wneud ymddangosiad tua diwedd y pnawn.

taran_tudweiliog2.jpg

Hanes Y Winllan Goll

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü: ,Ìý

Hywel Gwynfryn | 10:17, Dydd Mercher, 14 Gorffennaf 2010

Sylwadau (0)

plasglynyweddw1.jpg

Mae Arddangosfa Ha' Oriel Plas Glyn y Weddw, Llanbedrog wedi agor y penwythnos diwetha. Fe alwais i heibio'r Oriel ddydd Sadwrn ar fy ffordd i Å´yl Taran Tudweiliog, nid i weld y lluniau yn benodol (er mod i wedi cael cyfle i wneud hynny hefyd) ond yn hytrach i gael clywed hanes y Winllan Goll.

plasglynyweddw2.jpg

Yn 2008 fe ddaeth y goedwig ar ochor Mynydd Tir y Cwmwd, yn ôl i feddiant y Plas.

Hyd at 1946 roedd llwybrau cerdded hardd yn troelli drwy'r 'Winllan' (fel roedd hi'n cael ei hadnabod gan drigolion Llanbedrog) gyda seddi gwylio yn edrych allan ar olygfeydd godidog dros Fae Ceredigion a Mynyddoedd Eryri.

A rŵan mae'r gwaith o glirio'r goedwig o goed llawryf a rhododendron sydd wedi tyfu'n wyllt yno ers trigain mlynedd wedi cychwyn.

plasglynyweddw3.jpg

DIMITRI, AMAURI, A HOGIA BAND PRES KAWARA.

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü: ,Ìý,Ìý

Hywel Gwynfryn | 11:46, Dydd Llun, 12 Gorffennaf 2010

Sylwadau (0)

Yn ei gerdd 'Cwm Tawelwch' mae Gwilym R. Jones yn sôn amdano'i hun yn
"Chwilio am y cwm tu draw i'r cymoedd
Am Gwm Tawelwch.
Rhyw bowlen fach o ddyffryn rhwng ymylon du y pîn".

A dyna ddisgrifio safle Eisteddfod Ryngwladol Llangollen i'r dim - ar wahân i'r tawelwch
wrth gwrs.

2010-llangollen9.jpg

Yn y bowlen yma ers 1947 mae 'na gawl diwylliannol blasus wedi cael ei baratoi, gan ddawnswyr a chantorion a cherddorion o bob rhan o'r byd, ac am un wythnos bob blwyddyn mae tref dawel Llangollen yn deffro ac yn croesawu goreuon y gwledydd i lwyfan yr Å´yl.

Nôl ym 1947 y sefydlwyd yr Eisteddfod er mwyn hybu heddwch ac ewyllys da rhwng y gwledydd ar ddiwedd yr ail ryfel byd.

'Dwi wrth fy modd yn darlledu o Eisteddfod Llangollen i raglenni byw Radio Cymru - rhaglen Nia yn y bore (yn cael ei chyflwyno gan Heledd Cynwal, gan fod Nia yn yr Eisteddfod), a rhaglen Jonsi yn y prynhawn.

2010-llangollen10.jpg

Ar ei raglen o yr ymddangosodd Dimitri o'r Wcráin yn chwarae'r accordion ac aelodau band pres Kawara o dalaith Jaipur yn yr India. Bore Mercher, ar ôl iddyn nhw gystadlu ar y llwyfan fe gefais i air efo arweinydd Côr Iau Glanaethwy, Rhian Roberts, a chael dipyn o hanes y daith i Tsieina. Maen nhw'n mynd draw yno'r wythnos nesa' i gystadlu mewn Mabolgampau Cerddorol, ac yn y gystadleuaeth i Gorau Iau yn Llangollen fe ddaethon nhw o fewn marc i ennill y wobr gynta'.

Enillwyd y gystadleuaeth gan Gôr Ieuenctid Ceredigion, gyda chôr o Gwmbrân yn drydydd. Y fedal aur, a'r arian , a'r efydd i Gymru. Anhygoel! Dyna pam da ni'n haeddu'r teitl 'Gwlad y Gân'

Ond efallai mai arwr yr Å´yl oedd yr unawdydd o Ffrainc, Amauri Vassili. Fo oedd yn rhannu'r llwyfan yn y cyngerdd agoriadol efo Kathryn Jenkins.
Yn anffodus i Amaury, er iddo fo gyrraedd yn ddiogel, 'doedd 'na ddim golwg o'i ddillad yn y maes awyr. Ond fe ddaeth y Prif Weithredwr i'r adwy, rhoi benthyg ei siwt i'r canwr, ac fe gafwyd cyngerdd 'formidable'

2010-llangollen11.jpg

Lluniau Hywel yn Eisteddfod Llangollen

Moch Llanrug

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Hywel Gwynfryn | 08:30, Dydd Llun, 5 Gorffennaf 2010

Sylwadau (0)

Mae 'na fwy a mwy o Gymry yn mentro i fyd busnes. Ond mae mentro yn golygu buddsoddiad ariannol a gwaith caled cyn i'r freuddwyd o redeg busnes llwyddiannus gael ei gwireddu, ac mae Jack Bee a'i wraig Sonia yn barod am y dasg.

Ar ôl gweithio drwy'r nos ar y rheilffordd tan ryw bedwar o'r gloch y bore, a chael rhyw ychydig oriau o gwsg, mae Jack yn cychwyn ar waith y dydd. Efo'i wraig Sonia, mae o wedi sefydlu busnes cadw moch a gwerthu'r cynnyrch sef y cig a'r selsig.

moch1.jpg

Mae o'n awyddus i hyrwyddo'r hen fridiau fel y brid Cymreig a'r Saddleback, ac mae 'na gynlluniau hefyd i ymweld â sioeau amaethyddol a gwyliau yn y Gogledd yn cynnig brechdanau cig moch wedi ei rostio.

Pan alwais i draw yn y fferm yn Llanrug, fe ges i groeso cynnes gan yr hen hwch Gymreig a'i pherchyll. Am fy mod i'n fochyn o Fôn, mae'n siŵr!

Gewch chi glywed y sgwrs ges i gyda Jack a Sonia'n ar raglen Nia Roberts ar Â鶹ԼÅÄ Radio Cymru rhwng 1030 a 12pm fore Llun Gorffennaf 5ed.

moch2.jpg

Mam Cymru a'i phlant

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Hywel Gwynfryn | 11:15, Dydd Gwener, 2 Gorffennaf 2010

Sylwadau (0)

hywel_mamcymru1.jpg

Primin Môn. Mae gen i go' plentyn o fynd yno i weld y ceffylau gwedd a'r gwartheg a'r defaid.

Y stondinau yn llawn llysiau a mêl, a'r beirniaid yn ei hetiau bowler du a'u cotiau gwynion. A dyma fi, bron i drigain o flynyddoedd yn ddiweddarach yn ôl ar gae'r Sioe mewn Gŵyl i bobol ifanc.

Gŵyl i roi syniadau i ieuenctid yr Ynys o'r cyfleoedd sydd ar gael yn y gweithle. Ynghanol y berw fe ddois i ar draws fy hen ffrind Ed Holden, sydd yn gallu creu sŵn offerynnau a rapio yn defnyddio dim byd ond ei geg a'i ddychymyg byw.

mon_chwaraeon.jpg

'Sgwn i a fydd o yng Ngŵyl Cefni sy'n cael ei chynnal ymhen yr wythnos yn Llangefni, fy nhref enedigol o dan gysgod y Town Hall?


Fyddwch chi yng Ngŵyl y Gwendraeth yn Nhrimsaran fory? (dydd Sadwrn Gorffennaf 3ydd)
Welai chi yno, oherwydd fe fydd Radio Cymru yn darlledu drwy'r pnawn. Ac mae Jonsi yn picio draw i'r Å´yl yn Rhuthun hefyd.

Yr wythnos nesaf, fe fyddai'n dawnsio o gwmpas Maes Eisteddfod Ryngwladol Llangollen - efo meicroffon yn fy llaw wrth gwrs, Ydi, mae hi'n gyfnod prysur a chyffrous.

Mwy o’r blog hwn…

Pynciau dan sylw

    °ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

    Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

    Cyfranwyr diweddaraf

    Â鶹ԼÅÄ iD

    Llywio drwy’r Â鶹ԼÅÄ

    Â鶹ԼÅÄ Â© 2014 Nid yw'r Â鶹ԼÅÄ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

    Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.