Â鶹ԼÅÄ

Help / Cymorth

Archifau Mehefin 2010

Gŵyl y Gwenlli

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Hywel Gwynfryn | 10:31, Dydd Mawrth, 29 Mehefin 2010

Sylwadau (0)

Ar gae hen Ysgol y Gwenlli yn ymyl Synod Inn, b'nawn Sadwrn y cynhaliwyd Gŵyl y Gwenlli -gŵyl fechan, deuluol, gartrefol, a'r croeso gefais i mor gynnes â'r haul tanbaid uwchben.

gwylygwenlli1.jpg

'Roedd 'na stondinau yno, yn llawn o gacennau, a chardiau a chrefftau, ac am £2, cyfle i fynd am dro ar gefn ceffyl.

Yna fe gynhaliwyd y sioe wisg ffansi a'r carnifal, ac roedd hi'n ddigon hawdd i mi ddychmygu mod i 'nôl yn Llangefni ym mhumdegau'r ganrif ddiwetha', mewn carnifal, wedi fy ngwisgo fel cowboi ac yn gorymdeithio rownd y dre ar lori fawr agored efo fy ffrindiau.

Un flwyddyn, mi gefais yr anrhydedd o fod yn 'page boy' i frenhines y carnifal. Dydw i ddim yn cofio pwy oedd hi, ond y 'page boy' arall oedd Tony o'r ddeuawd enwog Tony ac Aloma.

gwylygwenlli2.jpg

Fe adewais i'r cae am bedwar a theithio 'nol ar hyd y 'long and winding road' ar gyfer cyngerdd Paul McCartney yn Stadiwm y Mileniwm, Caerdydd.

Carnifal a chwmni difyr yn y prynhawn, cyngerdd a chwmni ffrindiau yn y nos.
Y ddau achlysur fel ei gilydd yn lot fawr o hwyl. Diwrnod i'w gofio.

Jack a'i gariad, Lady White

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü: ,Ìý

Hywel Gwynfryn | 08:23, Dydd Sul, 27 Mehefin 2010

Sylwadau (0)

Mae Jack, wedi gwirioni. Mae o mewn cariad efo merch o dras bonheddig. Ei henw ydi Lady in White, ac fe enillodd hi un o'r prif wobrau yn y Sioe Frenhinol yn Llanelwedd y llynedd.

Ceffyl gwedd ydi Jack sy'n byw yn y cae drws nesa i stablau ei gariad, a phan alwais i draw i fferm Clos Bach, Llanegryn ger Tywyn, roedd Robert a'i fab Edward, yn hapus iawn i mi gael cyfarfod y gaseg hardd sydd wedi mynd a bryd Jack.

jack_ladywhite.jpg

Mae ei chot yn ddu i gyd efo ychydig o wyn ar ei thalcen ac unwaith eto eleni fe fydd hi'n brasgamu'n osgeiddig o gwmpas y prif gylch efo'i mwng a'i chynffon wedi eu plethu â rhubanau lliwgar, fel y stalwyni a'r cesig gwedd ym Mhrimin Môn ers 'talwm.

Mae gen i go plentyn o fynd i'r Primin yn llaw fy Nhaid, a fynta'n mynnu stopio i siarad efo'r ffermwyr i gyd a thrafod ansawdd y gwartheg a'r ceffylau, a'r defaid, a finna' jyst a marw isio cornet eis crîm! Er mae hogyn o'r dre ydw i, fe ges i bedwar diwrnod wrth fy modd yn y Sioe Frenhinol y llynedd, ynghanol cynnyrch gorau cefn gwlad Cymru, ac fe fydda i'n darlledu o'r Sioe bob dydd ar Radio Cymru, eto 'leni.

Pwy a ŵyr na fydda i'n llongyfarch Robert ac Edward, a Lady in White ar ennill y brif wobr eto 'leni?

Cerdded er mwyn Dafi

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Hywel Gwynfryn | 12:46, Dydd Gwener, 25 Mehefin 2010

Sylwadau (0)


Flynyddoedd yn ôl fe gerddodd Gari Williams, Sulwyn Thomas a finna o'r de i Ddyffryn Nantlle i roi cyhoeddusrwydd i Steddfod yr Urdd. Ar y ffordd, roedd yn rhaid i ni gerdded i fyny rhiw serth Allt Walis.

Ar ôl llwyddo i gyrraedd y copa, fe drodd Gari at Sulwyn a finna gofyn "Ydach chi'n gwbod hogia, pam ma' nhw wedi galw honna yn Allt Walis? Wel, oherwydd, ma' dim ond tri wali fel ni fasa'n meddwl i cherdded hi!"

Fedrwn i ddim llai na meddwl am y daith gerdded honno heddiw ar draeth Ynys Las, wrth geg yr Afon Ddyfi yn ardal Machynlleth, a finna wedi fy amgylchynu efo tîm o gerddwyr eiddgar ifanc, yn wynebu taith o drigain milltir ar draws traeth o Ynys Las, i lawr llwybr yr arfordir, gan orffen y daith ar bont Aberteifi.

Ond nid criw dibrofiad ydi'r rhain mae'n amlwg. Mae'r dillad iawn ganddyn nhw - sgidia cerdded, dillad pwrpasol, digon o ddŵr a mwy na digon o gyhyrau i gwblhau'r daith.

cerdded_ynyslas2.jpg

Fe fyddan nhw'n cerdded drwy'r nos er mwyn diolch i Ysbyty Great Ormond yn Llundain, ac Ysbyty Bronglais Aberystwyth, am achub bywyd Dafi, brawd bach Jano a mab Eilir a Catrin.

Pan oedd Dafi yn y groth, fe ddangosodd sgan yn Ysbyty Bronglais fod 'na waedu ar yr ymennydd, ac fe aethpwyd ag o i Great Ormond Street. Ar ôl yr enedigaeth, fe gafodd y bychan nifer o lawdriniaethau, a dwy flynedd yn ddiweddarach mae'r teulu wedi cael newyddion da - yr 'all-clear'.

Eisoes mae cwmnïau ac unigolion yng Ngheredigion wedi cefnogi'r daith gerdded, a'r gobaith ydi y bydd y daith gerdded yma yn cynyddu'r gronfa, ac yn profi unwaith eto pa mor hael ydi'r Cardi.

Maen nhw'n gobeithio cyrraedd pont Aberteifi heno (Nos Wener, Mehefin 25ain) erbyn chwech o'r gloch. Fe fyddai'n braf iawn petai 'na griw yno i'w croesawu yn ôl yn fuddugoliaethus.

Cewch glywed y diweddaraf am y daith ar raglen Geraint Lloyd ar Radio Cymru heno (Nos Wener 25ain) rhwng 6.30pm ac 8pm

cerdded_ynyslas1.jpg

Chwarel lechi a Mochyn o Fietnam.

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü: ,Ìý

Hywel Gwynfryn | 10:42, Dydd Gwener, 25 Mehefin 2010

Sylwadau (0)

Oes 'na ffarmwr arall yng Nghymru sydd wedi arallgyfeirio i gymaint o gyfeiriadau
gwahanol a Rob Owen, Hen Chwarel Llanfair, ger Harlech?

chwarel_rob2.jpg

Os oes 'na, cysylltwch efo mi, er mwyn i mi ddŵad draw i gael eich hanes chi. Mae Rob Owen yn dal i ffermio wrth gwrs ond yn ychwanegol at hynny, mae o wedi creu atyniad cyffrous i ymwelwyr, sy'n cynnig cyffro'r twneli tywyll o dan ddaear yn yr hen chwarel, efo'r hwyl o fwydo geifr a hwyaid a moch mawr boldew du o Fietnam. Yn ogystal â hynny, os 'da chi'n teimlo'n heini yna mi fedrwch fynd o dan do a dringo a chroesi'r rhaffau yn yr hen shed, yn ogystal â thanio peli meddal at eich gilydd.

Eisoes mae 'na gwmni teledu a chwmni ffilmiau wedi bod draw i'r chwarel
i ffilmio ar gyfer drama deledu a'r ffilm First Knight, efo Richard Gere yn y brif ran.

Ond pan awgrymais i Rob dros banad, y gallai arallgyfeirio ymhellach, a dechrau actio, chwerthin 'nath o ."Mae gin fwy na ddigon i'w wneud fel mae hi, yn edrach ar ôl y busnas yma, a Radio Cymru wrth gwrs."

Diolch yn fawr Rob, mi gymra i banad arall a darn o fara brith os gwelwch chi'n dda.

chwarel_rob1.jpg

Gŵyl y Cwirc a'r Crefftwr, Pontrhydfendigaid

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü: ,Ìý

Hywel Gwynfryn | 09:54, Dydd Llun, 21 Mehefin 2010

Sylwadau (0)

Pwy Pia'r Rhaw Yn Y Baw?

pontrhydfendigaid_traed.jpg

Ydach chi'n adnabod traed a rhaw y dyn yma? Cliw i chi.

Fel arfer mae o'n gwisgo clocsia coch, ac yn y clocsia hynny yr oedd o'n cerdded o gwmpas Gŵyl y Cwircs ym Mhontrhydfendigaid ddydd Sadwrn. A gŵyl cwirci iawn
oedd hi hefyd., efo cystadlaethau, gwnïo botwm, smwddio crys, cario gwraig ac agor rhych o datws efo rhaw Aberaeron.. Mae honnon yn rhaw wahanol i bob rhaw arall yn y byd. Mae ganddi goes hir a blaen metal triongl. A'r gŵr sy'n pwyso ar ei raw ydi Russel Jones, cyflwynydd Byw yn yr Ardd.

pontrhydfendigaid_russeljon.jpg

Diolch yn fawr i Charles Arch, John Watkin, Selwyn a Nellie am drefnu gŵyl wahanol iawn yn wyneb haul llygaid goleuni ddydd Sadwrn

Y Sadwrn nesa fe fydda i yng Ngŵyl y Gwenlli, ond cyn hynny efallai welwn ni'n gilydd yn Harlech Tywyn neu Fachynlleth.

Ac os oes 'na unrhyw beth diddorol yn digwydd yn eich ardal chi, anfonwch e-bost ata i hywel@bbc.co.uk

pontrhydfendigaid_montage.jpg

Golden Gilrls Mynydd Mechell!

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü: ,Ìý

Hywel Gwynfryn | 13:39, Dydd Iau, 17 Mehefin 2010

Sylwadau (0)

mynydd_mechel1.jpg

'Doeddwn i erioed wedi cael cynnig llond plât o frechdanau samwn a theisennau yn llawn hufen am naw o'r gloch y bore tan i mi fynd i Lanfechell, neu i fod yn fanwl gywir i gopa Mynydd Mechell lle mae Elaine Rowlands yn byw.

Ond 'roedd 'na lond bwrdd o groeso yn fy aros i yn Fron Deg ac Elaine wedi gwahodd rhai o ferched y cylch draw am sgwrs, yn y 'stafell ffrynt, sydd hefyd yn Swyddfa Bost i bobol y cylch.

mynydd_mechel2.jpg

'Roeddwn i'n falch iawn o gyfarfod Audrey Mechell, neu Elisabeth Taylor fel dwi'n ei galw hi, oherwydd ei gwallt du trwchus, a'i llygaid glas tywyll.

Mae Audrey wedi bod yn ymwneud â'r ddrama amatur ym Môn ers blynyddoedd ac er ei bod hi'n ceisio perswadio pawb ei bod hi'n 82 oed- 'does 'na neb yn ei chredu hi, wrth gwrs!

Hip Hop - Hwre!

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü: ,Ìý

Hywel Gwynfryn | 13:25, Dydd Iau, 17 Mehefin 2010

Sylwadau (0)

Bob Nos Sadwrn, pan oeddwn i'n llanc ifanc tenau, efo mop o wallt cyrls, 'roeddwn i'n mynd i'r Town Hall yn Llangefni i 'jeifio' i gerddoriaeth roc a rôl, yr Anglesey Strangers, ac er bod 'na bron i hanner can mlynedd ers hynny, maen nhw'n dal i ddawnsio ar yr Ynys, ac yn cael llwyddiant mawr yn gwneud hynny.

Un o'r Ysgolion ddaeth i'r brig yn y cystadlaethau dawnsio yn Eisteddfod yr Urdd eleni oedd Ysgol Syr Thomas Jones, Amlwch, ac mae 'na nifer o'r dawnswyr buddugol yn cael eu dysgu gan Diane Hughes, yn yr hen ysgol ym Mhorth Amlwch.

dawns_llangefni.jpg

Fe enillodd Diane nifer o gystadlaethau dawnsio disgo pan oedd hi'n byw yn Llundain, a gobaith ei merch Lowri, sy'n fyfyriwr dawns yn Lerpwl ar hyn o bryd, ydi agor Ysgol Ddawns ar Ynys Môn. Fe gewch chi fwy o hanes dawnswyr ifanc egnïol Amlwch ar raglen Geraint Lloyd ar Radio Cymru yn ystod yr wythnos
Ebostiwch fi ar hywel@bbc.co.uk

Y Wên Na Phyla Amser

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü: ,Ìý

Hywel Gwynfryn | 13:13, Dydd Iau, 17 Mehefin 2010

Sylwadau (0)

"Galwch fi'n Bessie" Dyna'r gorchymyn gefais i gan Mrs. Bessie Owen, gan wenu'n ddireidus arna i'r un pryd.

hywel_bessie.jpg

Eistedd efo'n gilydd yr oedden ni yng ngardd gefn ei chartref yn Niwbwrch, yn hel atgofion am y pentref a'r ardal.

Roedd hi'n cofio Tywysog Cymru (Edward y seithfed!) yn agor yr ysgol fach. Hefyd, roedd hi'n cofio Demie Moore yn dod i Landdwyn i ffilmio a Griff Rhys Jones yn galw heibio pan oedd o'n gwneud rhaglen deledu yn y pentre'.

Diolch yn fawr iawn i chi am eich croeso Mrs. Owen...sori....Bessie!

Rhoi Llanpumsaint ar y map

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü: ,Ìý

Hywel Gwynfryn | 11:14, Dydd Llun, 14 Mehefin 2010

Sylwadau (0)

"Fe gollais i fy nghyfle
I roi'r pentre' ar y map."

Felly y canodd y grŵp Mynediad am Ddim yn y gân sy'n sôn am chwaraewr rygbi yn colli'r cyfle i wisgo'r cap cenedlaethol, a dod a chlod i'w bentre. Wel, 'dwi o leia wedi llwyddo i ddwad a sylw i bentre bach Llanpumsaint sy' ar y fordd rhwng Caerfyrddin a Chastell Newydd Emlyn. Ydi, mae Llanpumsaint ar y map yn barod - ond fuoch chi yno erioed?

Smotyn bach du ac enw oedd Llanpumsaint i mi tan yn ddiweddar . Ac mae 'na ganoedd o bentrefi diddorol fel Llanpumsaint, yng Nghymru, sy'n smotia' ac enwa' ar fap, a dim mwy na hynny, oni bai eich bod chi'n digwydd byw yno ac yn gwybod fod'na hanes diddorol i'r lle.

'Dwi'n gobeithio ymweld â rhai o'r pentrefi yma yn y dyfodol agos, yn hytrach na chwyrnellu heibio, a darganfod ychydig amdanyn nhw.

llanpumsaint.jpg

Yn y llun, mae Arwyn Thomas, Elfyn Lewis, Mali Lloyd, a Malcolm Howells

"Dowch draw i'n gweld ni" Dyna oedd gwahodiad Arwyn Evans, sy'n awdur llyfr ar hanes Llanpumsaint ac un arall ar Bronwydd.

Yn eglwys Llanpumsaint fe gladdwyd emynyddes sy'n cael ei chymharu ag Ann Griffiths. Ar sgwâr y pentre mae na dŷ a arferai fod yn dafarn lle 'r aeth Daniel Rowland i bregethu. Cofnodir cyfranaid aruthrol un o ferched yr ardal mewn carreg gerfiedig ar fur yr eglwys. Ei henw? Jennie Eirian Davies.

Ond does na ddim arwydd yn unman yn cofnodi fod 'na orsaf rheilffordd yn y pentre ar un adeg. Ac mae'r adeiladau, a'r rheiffordd ei hun wedi diflannu. Beth ddigwyddodd?

Mae 'na bentrefi eraill yng Nghymru sy'n gyforiog o hanesion tebyg ac yn haeddu dipyn o sylw. Eich pentre chi efallai?

Cysylltwch efo fi drwy ebost hywel@bbc.co.uk, os 'da chi am roi'r pentre acw ar y map.

Geraint Lloyd Mewn Leotard Pinc!

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü: ,Ìý

Hywel Gwynfryn | 14:09, Dydd Gwener, 11 Mehefin 2010

Sylwadau (0)

yoga4.jpg

Meddyliwch am yr olygfa.- Geraint Lloyd, mewn leotard pinc yn gorwedd ar fat glas mewn Neuadd yn Nhalybont, Ceredigion. A deud y gwir, mi fasa'n well gin i beidio meddwl am olygfa felly. Ond fe allai'r olygfa, ddod yn ffaith gan fod yr actores Sue Jones Davies - seren y ffilm Life Of Brian gyda chriw Monty Python - wedi gwahodd Geraint i'w dosbarth Yoga.

yoga1.jpg

"Mae Yoga yn dda i'r meddwl yn ogystal â'r corff" oedd y mantra glywais i pan alwais i draw y noson o'r blaen. "Mae Yoga yn ystwytho'r cyhyrau, ac yn ymlacio'r corff, gan roi noson dda o gwsg i chi." Gyda llaw 'does dim rhaid i chi wisgo leotard pinc, i wneud yr ymarferion - ond peidiwch â deud hynny wrth Geraint!

Yr wythnos nesa', fe fyddai'n teithio o amgylch Sir Fôn ac yn ymweld ag Amlwch, Bae Cemaes, Niwbwrch., a'r Benllech.

A beth am eich ardal chi? Anfonwch e-bost ac fe fydd y fan a fi yn y fan a'r lle yn adlewyrchu'r hyn sy'n digwydd yn eich ardal chi, ar Radio Cymru. Y cyfeiriad ydi hywel@bbc.co.uk

Robin Hood a fferm Dylasau

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Hywel Gwynfryn | 13:09, Dydd Gwener, 11 Mehefin 2010

Sylwadau (0)

Dros y blynyddoedd mae 'na sawl ffilm enwog wedi cael ei saethu yng Nghymru - Lawrence of Arabia a' r dwyni Merthyr Mawr, First Knight efo Richard Geere yn Nhrawsfynydd, Inn of the Sixth Happiness ym Meddgelert, Lion in Winter gyda Katherine Hepburn a Peter o'Toole yn Sir Benfro, ac wrth gwrs Carry On Up the Kyber ym mynyddoedd Gogledd Cymru.

Yn ddiweddar fe fu Russell Crowe a'i 'merry men' yn ffilmio ar draethau euraidd Sir Benfro hefyd. Ond mae 'na gysylltiad arall rhwng y ffilm Robin Hood â Chymru. Defnyddiwyd ceffylau o Fridfa Dylasau Isaf, Betws y Coed ar gyfer y ffilmio, ac fe fu perchennog y fridfa Alun Davies, a'i dad Elwyn ym marchogaeth eu ceffylau yn y ffilm.

Ond aeth pethau ddim mor hwylus â hynny. 'Roedd y marchogion, gan gynnwys Elwyn, yn barod i garlamu'n wyllt i lawr y bryn, ond pan waeddodd Ridley Scott 'Action'- gwrthododd ceffyl Elwyn a symud, oherwydd bod y tir yn rhy llithrig. Call iawn.

Mae'r ddau wedi ymddangos mewn ffilmiau eraill hefyd gan gynnwys Merlin a Dragonslayer. Os gewch chi gyfle i weld Robin Hood ewch ar bob cyfri' mae hi'n wych. Ond os 'da chi am weld Alun ac Elwyn a'u cobiau Cymreig, fe fyddan nhw yn Sioe Amaethyddol yn Llanelwedd am yr wythnos ym mis Gorffennaf.

Coch, Gwyrdd Gwyn A Gwych!

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü: ,Ìý,Ìý

Hywel Gwynfryn | 10:11, Dydd Mawrth, 8 Mehefin 2010

Sylwadau (1)

Heb os, un o uchafbwyntiau Eisteddfod yr Urdd yr wythnos ddiwetha' i mi oedd rhannu'r platiaid boreol o'r pice ar y ma'n fwyaf blasus a brofais i erioed efo fy ffrind a'm cyd-gyflwynydd yn yr Ŵyl, Rhiannon Lewis. Cofiwch chi, tydi hi ddim yn hawdd deud "Ensemble llinynnol sydd ar y llwyfan" efo'ch ceg yn llawn. Ond fe lwyddon ni rhywsut. A llongyfarchiadau i barti Rhiannon, Aelwyd Llambed, am ennill yn canu'r gân 'Sgorio Gôl'.

Ma' pob steddfod yn steddfod wych - ond mi oedd hon yn wychach! Y safle ar gaeau Llanerchaeron yn berffaith. Y tywydd yn braf, a phob stondin ar y maes yn cynnig rhywbeth gwahanol o Fwyd Indiaidd i dylluan wedi 'i stwffio. Ond petai rhaid i mi ddewis un uchafbwynt o'r holl uchafbwyntiau, yna mi faswn i'n dewis seremoni'r cadeirio. LlÅ·r Gwyn Lewis enillodd y gadair hardd a gynlluniwyd gan Glan Rees.

eisteddfod_2010_cadair.jpg

Teulu'r diweddar Dic Jones oedd yn cyflwyno'r gadair hardd ac roedd Dic wedi gweithio efo Glan ar y cynllun. Yr hyn sy'n drawiadol am y gadair ydi'r ffenest liw yn ei chefn. "Ffenest i edrych mas, i edrych i'r dyfodol" dyna oedd dymuniad Dic. A'r llun oedd gan Glan yn ei feddwl oedd llun drwy ffenest storws yr Hendre, cartre' Dic, lle gwelwch chi ar yr olwg gynta' y môr a'r amaethu. Yn y canol, y dywysen dri lliw i gynrychioli lliwiau'r Urdd - gwyrdd y ddeilen, coch y coesyn yn cynrychioli cyd-ddyn, a'r had gwyn - y Creawdwr yn sicrhau ffrwyth a dilyniant. Ac ar gefn y gadair 'mae 'na gwpled o waith Dic Jones:

"A wel y gamp, geilw i go'
Swyn y gymdeithas honno."

Diolch Ceredigion am 'steddfod gofiadwy, a rŵan mae'r teithio'n ailgychwyn. Dydd Mawrth, Mehefin yr 8fed fe fydda i'n crwydro o gwmpas Bronwydd a Llanpumsaint, cyn symud i Aberystwyth, gwisgo fy leotards a mynd i ddosbarth Yoga!

Os 'da chi am i'r fan a fi ddŵad i'ch ardal chi, cysylltwch efo mi drwy e-bost hywel@bbc.co.uk

Mwy o’r blog hwn…

Pynciau dan sylw

    °ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

    Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

    Cyfranwyr diweddaraf

    Â鶹ԼÅÄ iD

    Llywio drwy’r Â鶹ԼÅÄ

    Â鶹ԼÅÄ Â© 2014 Nid yw'r Â鶹ԼÅÄ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

    Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.