Â鶹ԼÅÄ

Help / Cymorth

Archifau Mai 2010

Llawen a llon yn Llanllwni

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü: ,Ìý

Hywel Gwynfryn | 14:44, Dydd Gwener, 28 Mai 2010

Sylwadau (0)

"Pen-blwydd hapus i ti" oedd cyfarchiad y plant y bore o'r blaen pan gerddais i i mewn i Ysgol Llanllwni, sir Gaerfyrddin.

Nid i mi yr oedd y cyfarchiad ond i'w hysgol sydd newydd ddathlu ei phen-blwydd yn 140 o flynyddoedd oed, ac roedd Nans Davies y brifathrawes wedi fy ngwahodd draw i gyfarfod y plant a rhai o'r cyn disgyblion.

ysgol_llanllwni.jpg

Mae eleni yn flwyddyn o ddathlu, ac eisoes ym mis Chwefror cafwyd Cymanfa Ganu, a the parti Fictorianaidd ddechrau'r mis yma. A chofiwch y bydd 'na gyngerdd mawr yn yr ysgol ym mis Mehefin lle bydd cyn disgyblion yn ymuno â'r disgyblion presennol i ganu clodydd Ysgol Llanllwni.

Mae'n rhaid i mi ddweud fod ymweld â'r ysgol wedi dwyn atgofion melys iawn yn ôl i mi o Ysgol British Llangefni, yr ysgol Gynradd lle roeddwn i'n ddisgybl yn y pedwardegau. Miss Roberts, Cefnpoeth, Miss Williams Benllech, Miss Morgan, Brisge Street a Stephen Edwards oedd yr athrawon a Mrs. Simpson oedd y 'cwc' yn y gegin. A bob amser chwarae fe fyddai Mrs Simpson yn sefyll ar ganol yr iard efo padell fawr yn llawn o flociau bach o gaws coch a ninnau yn tyrru o'i chwmpas hi fel cywion yn awchus i gael eu bwydo.

I Stephen Edwards, fy athro dosbarth mae fy niolch am iddo fy nghyflwyno i'r gynghanedd. Sgwennodd englyn yn fy llyfr lloffion, pan oeddwn i'n gadael yr ysgol fach i fynd i'r Ysgol Fawr, a 'dwi'n dal i'w gofio:

Swyn hudol, sain ehedydd a glywn
Yn glir ar fore ddydd
Daear fad, yn deor fydd
A llwyni'n dai llawenydd.

Pen-blwydd hapus Llanllwni a diolch am y croeso.

Abergwaun a Loktudu

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü: ,Ìý

Hywel Gwynfryn | 14:42, Dydd Llun, 24 Mai 2010

Sylwadau (0)

y-llydawyr-yn-abergwaun.jpg

Pan laniodd y Ffrancod yn Abergwaun, nôl ym 1797, chawson nhw fawr o groeso gan Jemeima Niclas ac fe aeth y milwyr yn ôl i Ffrainc a'u cynffonau rhwng eu coesau. Ond pan laniodd y Llydäwyr ddydd Sadwrn Mai 22ain diwetha' fe gawson nhw groeso oedd mor gynnes â'r tywydd gan Rita Williams a phwyllgor gefeillio Abergwaun a Loktudu.

Fe fu Rita am gyfnod yn ddarlithydd yn adran Gymraeg y brifysgol yn Aberystwyth, ac mae hi'n siarad Llydaweg yn rhugl.

Mae gen i atgofion hapus iawn o fynd draw i Lydaw ar wyliau nôl yn saithdegau ac ymweld â Quimper a Corncarneau. Codi'n gynnar yn y bore a mynd lawr i siop y pentre' i gael bara ffres, a bwyta hwnnw wedyn efo lwmp o fenyn lleol a phaned o goffi, wrth fwrdd pren hynafol tu allan i'r Gite, yn yr heulwen. Barbiciw wedyn gyda'r nos - pysgodyn fresh o'r farchnad y bore hwnnw, efo salad a gwydraid neu ddau o'r vin rouge.

I ddyfynnu Pontshan "Hyfryd iawn, monsieur!"

Corau Waunarlwydd

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü: ,Ìý

Hywel Gwynfryn | 16:00, Dydd Mercher, 19 Mai 2010

Sylwadau (0)

Gyda'r nos, fe ges i gyfle i fynd draw i Waunarlwydd, ar gyrion Gŵyr, i ddymuno
pen-blwydd hapus i ddau o gorau Davida Lewis, sy'n enw cyfarwydd iawn i ddilynwyr Eisteddfodau Cymru.

davida_lewis_cor.jpg

Mae'r Côr hŷn yn ddeugain oed a'r Côr Plant yn ddeugain a phump.

Pan ofynnais i Davida, beth oedd yr uchafbwynt iddi hi hyd yn hyn, 'doedd na ddim amheuaeth- canu yn Stadiwm y Mileniwm bum mlynedd yn ôl cyn y gêm yn erbyn yr Ariannin, y côr cymysg cynta' i wneud hynny, meddai Davida - a 'does 'na neb yn dadlau efo Davida!

davida_lewis.jpg

Os ydych chi am glywed Côr Waunarlwydd yn dathlu eu pen-blwydd yn gerddorol, yna'r lle i fod ydi Capel y Tabernacl Treforys, Nos Sadwrn, Mai'r 22ain ac fe gewch chi glywed y sgwrs ges i efo Davida yn ystod yr ymarfer Nos Fawrth, ar raglen Nia fore Mercher.

Gerddi Llanarthne

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü: ,Ìý,Ìý

Hywel Gwynfryn | 10:20, Dydd Mercher, 19 Mai 2010

Sylwadau (0)

gerddi_botaneg1.jpg

O bell, fe allech dyngu fod 'na long ofod wedi glanio yn Llanarthne, fore Mawrth, Mai'r 18fed. Ond hwn ydi tÅ· gwydr y gerddi botaneg cenedlaethol, ac nid dynion gwyrdd o'r blaned goch oedd yn crwydro'r gerddi, ond Mr. Urdd yn ei wyrdd coch a gwyn a chriw o blant o ysgolion y Cylch.

Pwrpas yr ymweliad oedd gwrando ar bobol ifanc Ceredigion, yn darlledu Neges Ewyllys Da 2010 ar Radio Cymru am 11am.

gerddi_botaneg2.jpg

Yn y tŷ gwydr enfawr mae 'na blanhigion o chwe ardal yn y byd - California, Awstralia, yr Ynysoedd Dedwydd, Chile, De Affrica, Môr y Canoldir, lle mae 'na blanhigion sydd mewn perygl o ddiflannu.

Ac felly roedd hi'n hynod o addas iawn mai thema'r Neges eleni oedd newid hinsawdd a gwarchod yr amgylchedd.

Seren y 'Steddfod

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü: ,Ìý,Ìý

Hywel Gwynfryn | 12:31, Dydd Llun, 17 Mai 2010

Sylwadau (0)

Cofiwch yr enw Guto Lewis. Mae o'n canu, yn adrodd ac er mai dim ond tair oed ydi o,
mae ganddo fo farn bendant iawn. Oherwydd pan welodd o faint y cwpan yr oedd o wedi
ei hennill am adrodd yn eisteddfod Llandudoch, ei ymateb oedd "Fi moin cwpan fwy!" Ac fe ddaw 'na chwpanau mwy a medalau lu i Guto yn y dyfodol, yn sicr.

llandudoch_cwpan.jpg

Mae eisteddfod Llandudoch yn enghraifft perffaith o'r eisteddfod fechan lwyddiannus efo trefnwyr brwdfrydig, fel Melrose Thomas a Terwyn Thomas, sy'n bwydo'n eisteddfodau Cenedlaethol ni efo cystadleuwyr. Heb y rhain fydda 'na ddim dyfodol i'r Eisteddfodau mwy.

llandudoch_eisteddfod.jpg

Fe ges i brynhawn wrth fy modd yng nghwmni'r gynulleidfa a chyfle hefyd i adrodd y stori ar raglen Nia fore Llun. Gyda llaw, 'roedd y salad y pice ar y ma'n, a'r brechdanau wy yn y gegin yng nghefn y neuadd yn haeddu tystysgrif 'Highly Commended' hefyd!

Mae 'na fwy o deithio i'r fan a fi yr wythnos hon.

Ddydd Mawrth fe fydda' i yn y Gerddi Botaneg yn darlledu Neges Ewyllys da'r Urdd yn y bore a chyda'r nos yn galw heibio Côr Waunarlwydd i gael dymuno pen-blwydd hapus i'r côr yn ddeugain oed.

Yna, ddiwedd yr wythnos ymweliad ag Abergwaun i weld beth fydd yn digwydd pan fydd y Llydäwyr, nid y Ffrancod, yn glanio.

"Ond pam na tydi o ddim yn galw acw" meddach chi. Wel, os oes 'na unrhyw beth diddorol yn digwydd yn eich ardal chi, e-bostiwch fi, hywel@bbc.co.uk, ac fe fydd y fan a fi, yn y fan a'r lle.

Mae hi'n haeddu medal - o Lea !

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü: ,Ìý

Hywel Gwynfryn | 16:53, Dydd Iau, 13 Mai 2010

Sylwadau (0)

Enillydd medal Syr Thomas Parry Williams eleni ydi Lea Owen, am ei chyfraniad aruthrol ym maes cerddoriaeth yng Nghymru.

Mae hi wedi hyfforddi degau o unigolion, partïon a chorau dros y blynyddoedd, a phan alwais i draw yn ei chartre' ym Mhrion, ger Dinbych 'roedd hi wrthi'n ymarfer Enfys, y parti fydd yn canu cyn bo hir yng Ngŵyl y Gobaith efo Rhys Meirion.

lea_owen_enfys.jpg

Dydd Mawrth nesa fe fydda' i'n galw heibio'r Ardd Fotanegol er mwyn darlledu Neges Ewyllys Da yr Urdd, yn fyw ar Radio Cymru fore Mawrth, ac os 'da chi am i mi alw yn eich pentref chi, a rhoi sylw cenedlaethol i'r ardal acw ar raglenni Radio Cymru, cysylltwch efo fi drwy e bost hywel@bbc.co.uk

Helo, Pws sy' 'na

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü: ,Ìý

Hywel Gwynfryn | 16:44, Dydd Iau, 13 Mai 2010

Sylwadau (0)

Ac yn wir mae'r pwyslais ar y Pws, yn nhÅ· Helen Smith, oherwydd mae hi wedi gwirioni ar gathod.

helen_smith.jpg

Fel Helen Miaw, mae hi'n cael ei hadnabod, ac fe allech chi ei disgrifio hi fel fersiwn fenywaidd fodern o Dic Aberdaron, gan ei bod hi'n ieithydd ac yn caru cathod ac unrhyw beth yn ymwneud â chathod.

Cyfieithydd yng Nghanolfan Bedwyr ydi Helen wrth ei gwaith, ac mae ei swydd yn caniatáu iddi weithio gartre yn ei stydi wedi ei hamgylchynu gan ei chathod a'i cherddoriaeth, sy'n ei gwneud hi'n hapus iawn!

Ac wrth gwrs mae ei chwaeth gerddorol yn GATHolig dros ben. A chofiwch, "nid yw pawb yn gwirioni'r un fath".

Sied Fawr Nantlle

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü: ,Ìý

Hywel Gwynfryn | 16:37, Dydd Iau, 13 Mai 2010

Sylwadau (0)

Ers dechrau'r flwyddyn, ar gyfer rhaglen nosweithiol Geraint Lloyd ar Radio Cymru,
'dwi wedi bod yn busnesu tu ôl i ddrysau siediau ledled y wlad.

Siediau mawr, yn llawn tractors a hen geir, siediau bach lle mae'r perchennog wrth ei waith yn cerfio llwyau caru, neu'n turnio powlenni, ac un shed yn Aberteifi lle adeiladwyd dwy awyren.

Os oes ganddoch chi (neu'r dyn drws nesa') shed yn llawn pethau diddorol, cysylltwch efo fi hywel@bbc.co.uk ac fe ddaw Geraint a finna' draw am sgwrs.

Fe gyrhaeddais i shed fawr fferm ger Nantlle erbyn tua hanner awr wedi wyth y bore, mewn pryd i weld y defaid a'r ŵyn yn cael eu bwydo gan Glenda a Gwawr ei merch.

sied_defaid.jpg

Craffwch yn ofalus ar y llun, ac efallai y byddwch chi'n nabod wyneb Glenda.

Roedd hi'n un o'r cystadleuwyr yn y gyfres boblogaidd Fferm Ffactor ar S4C yn ddiweddar, ac mae Gwawr, a'i chwaer Mari wedi bod yn gystadleuwyr llwyddiannus iawn dros y blynyddoedd hefyd yn barnu ŵyn, ac mae Gwawr yn dipyn o arbenigwraig ar y defaid duon, sy'n f'atgoffa fi'n syth o Geraint Lloyd, unwaith eto.

Cysylltwch efo Geraint, geraint@bbc.co.uk, neu fi, os wyddoch chi am shed sydd â stori ddiddorol tu ôl i'w drysau.

Plasdy Llanerchaeron

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü: ,Ìý,Ìý

Hywel Gwynfryn | 11:48, Dydd Gwener, 7 Mai 2010

Sylwadau (0)

plasdy_llanerchaeron.jpg

Mae maes Eisteddfod yr Urdd eleni, drws nesa' i safle Plasdy Llanerchaeron, ac fe fydd y plas, yn agor ei ddrysau hefyd i'r miloedd fydd yn mynychu'r Wyl.

Ym 1634 fe brynodd Llewelyn Parry y 500 erw o dir, yn cynnwys y tŷ a'r ardd am £140!

Yna ganrif a hanner yn ddiweddarach fe gomisynwyd John Nash i gynllunio'r ty presenol ar yr hen safle, ac yn y flwyddyn 2002, fe wariwyd 4 milwin o bunnau yn adfer y ty a'r gerddi, i'w gyflwr presenol.

Ond sut le sydd y tu mewn? Pa flodau a llwyni sydd yn y gerddi?

Mae'r atebion i gyd gan Janice Thomas fydd yn fwy na hapus i ateb eich cwestiynau chi.

Ian yn Parrotoi ...

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü: ,Ìý,Ìý

Hywel Gwynfryn | 11:43, Dydd Gwener, 7 Mai 2010

Sylwadau (0)

Mae Ian Parrot wedi bod yn paratoi safleoedd Eisteddfodau'r Urdd, ers deuddeng mlynedd ac efo tair wythnos ar ôl, mae pafilwin yr Eistedfod ar ei draed, mewn llecyn hardd iawn ar y ffordd i Aberaeron.

Yn ôl Ian, dyma un o'r llecynau gorau eto ar stâd Llanerchaeron, ac fe fydd y plasdy ar agor hefyd i groesawu'r ymwelwyr.

ian_parrot.jpg

Gyda llaw, 'does dim rhaid i garafanwyr Cymru boeni mae'r maes carafannau o fewn taflaid tôst wedi 'i losgi i'r maes.

Felly beth am air o ddioch, i Ian a phob un o'r tîm sy' wedi gweithio mor galed i sicrhau y byddwn ni'n cael mwynhau hwyl yr Ŵyl yn yr heulwen yn Llanerchaeron..

Etifeddiaeth ar werth yn Nhalyllyn

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü: ,Ìý

Hywel Gwynfryn | 15:49, Dydd Mercher, 5 Mai 2010

Sylwadau (0)

Onibai am y cyfle ges i yn y capel i berfformio mewn gwahnaol ffyrdd yn y set fawr, 'dwi'n ama faswn i'n ddarlledwr heddiw.

Ac mae cerdded i mewn i gapel bob amser yn dod ac atgofion yn ol o fynd i'r capel yn llaw fy nhad dair gwaith ar y Sul. A dyna pam y buaswn i wedi bod yn hapus iawn yn dweud rhyw air o brofiad o bwlpud bychan capel bychan Ystradgwyn sydd ar ochor y ffordd i Dalyllyn. Beth fyddai'r testun? Un adnod syml.
"Yr hyn a allodd hon - hi a'i gwnaeth."

Mae Marion Rees, wedi bod yn arolygu'r gwaith o adfer yr hen gapel i'w stad wreiddiol,ers 2006. Dyna pryd y dymchwelodd y to, ac yr aeth y capel ar werth. Er mwyn sicrhau na fyddai'r capel yn cael ei werthu a'i droi'n dy ha', fe benderfynodd Marion y bydda hi'n prynu'r capel ac yn eil ail agor fel Canolfan Treftadaeth . Bwriad Marion ydi creu arddangosfa Gymreig sy'n adrodd ein hanes fel cenedl. A dwywaith yr wythnos fe fydd Marion yn tywys yr ymwelwyr o amgylch yr arddangosfa ac yn adrodd ein stori ni wrthyn nhw. Y gobaith ydi y bydd y Ganolfan ar agor ddiwedd y mis, a breuddwyd Marion wedi ei wireddu.

marian1.jpg

Gwarchod ein hetifeddiaeth i swn organ yr Alltwen

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü: ,Ìý

Hywel Gwynfryn | 14:35, Dydd Mercher, 5 Mai 2010

Sylwadau (0)

Yn y flwyddyn 2007 fe ddathlodd capel yr Alltwen ei benblwydd yn ddau gant a hanner oed. Tair blynedd yn ddiweddarach mae gan yr achos le i ddathlu unwaith yn rhagor. Dathlu'r ffaith fod yr organ yn gant oed eleni.

Pan alwais i draw fe ges i hanes y capel gan y gweinidog presennol Gareth Morgan Jones, un o hoelion wyth Radio Cymru yn nyddiau cynnar y gwasanaeth fel ein llais ni yng Ngwmtawe. Wedyn fe fu Rhydwen James, un o gefnogwyr mwya' brwd tim peldroed yr Elyrch. yn hel atgofion am un o aelodau a enwoca'r capel yr actores Rachel Howell Thomas. Ac i gloi fy ymweliad, ar ol cael darn o deisen (dau a deud y gwir!) a phaned o de cry', yn y festri, fe ges i'r pleser o glywed Delyth Evans yr organydd presennol yn rhoi datganiad o waith Bach i gynulleidfa ddethol iawn sef Gareth, Rhydwen a finna'.

alltwen1.jpg

Mwy o’r blog hwn…

Pynciau dan sylw

    °ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

    Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

    Cyfranwyr diweddaraf

    Â鶹ԼÅÄ iD

    Llywio drwy’r Â鶹ԼÅÄ

    Â鶹ԼÅÄ Â© 2014 Nid yw'r Â鶹ԼÅÄ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

    Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.