Â鶹ԼÅÄ

Help / Cymorth

Archifau Mawrth 2010

Clirio'r sbwriel yn Abercaseg

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü: ,Ìý

Hywel Gwynfryn | 11:49, Dydd Mercher, 31 Mawrth 2010

Sylwadau (0)

Mae 'na griw o bobol yn ardal Bethesda mor falch o'u bro, maen nhw'n fodlon mynd allan yn ddi dâl, a chwilio o dan gloddiau, mewn caeau, mewn ffosydd, unrhyw le, am sbwriel, sydd wedi cael ei adael gan bobol sydd yn malio dim am hagru un o lecynnau prydferthaf Cymru.

casglu_sbwriel.jpg

'Balchder Bro' ydi enw'r mudiad ac maen nhw bob amser yn chwilio am wirfoddolwyr, a phan ges i gyfle i gael sgwrs efo nhw, fe ges i f'atgoffa gan Neville Hughes, un o'r criw - ac wrth gwrs aelod blaenllaw o Hogiau Llandegai - 'u bod nhw wedi bod yn canu am y 'Giaffar yn hel lludw'.

"Rŵan" medda' Neville "yn lle canu am hel sbwriel, mae 'na giang ohonon ni sy'n falch iawn o'r fro lle 'da ni'n byw yn mynd allan yn wythnosol i geisio tacluso'r lle."

Os oes 'na rywun yn yr ardal am helpu yna ffoniwch Neville ar 01248 600853.

Botymau mewn hen gapel yn y Felinheli

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü: ,Ìý

Hywel Gwynfryn | 11:34, Dydd Mercher, 31 Mawrth 2010

Sylwadau (0)

botymau_felinheli.jpg

Be 'di'r cysylltiad rhwng dyffryn yr Indus yn yr hen Bacistan, ac afon Menai?

Mewn gair yr ateb ydi botymau. Fe ddarganfuwyd botymau bach yn nyffryn yr Indus oedd yn dyddio'n ôl i'r flwyddyn 2000 cyn Crist.

A chwestiwn arall i chi. Pan oeddech chi hogyn bach, ddaru chi chwara tric ar y rhai oedd yn mynd o gwmpas i hel casgliad yn y capel, drwy roi botwm ar y plât, yn lle pishyn chwe cheiniog!

Wel mae 'na gapel yn y Felinheli sy'n edrych ar draws y Fenai i Fôn, sy'n llawn o fotymau. Siwan Haf sy'n eu casglu nhw. Nid oherwydd ei bod hi wedi gwirioni ar eu siâp a'i maint a'i lliw, ond oherwydd ei bod hi a'i ffrindiau wedi sefydlu busnas bach sy'n troi rhes o fotymau yn gadwyn i fynd am y gwddf neu'n freichled liwgar i fynd am y fraich.

Felly mae'r capel yn y Felinheli yn gartre' ac yn weithdy, ac mi faswn i'n hoffi clywed ganddoch chi am unrhyw adeilad sydd wedi cael ei adfywio. Fe fyddai'n hwyl mynd draw i gael ei hanes.

Cysylltwch efo fi ar yr e-bost. hywel@bbc.co.uk

Stand by, Gwilym, ACTION!

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü: ,Ìý

Hywel Gwynfryn | 11:13, Dydd Mercher, 31 Mawrth 2010

Sylwadau (0)

Mae Gwilym Hughes o Ddolgellau am geisio torri record y byd am y nifer o ffilmiau y mae unrhyw un wedi ei gweld mewn blwyddyn.

Yn ei atig y ces i sgwrs efo fo am ei gasgliad anhygoel o ffilmiau hen a newydd, ar gasét, a DVD.

Casglodd dros fil o lyfrau ar hanes y sinema, ac mae o hefyd yn cadw toriadau o bapurau newydd a chylchgronau sy'n son am sêr y sgrin arian.

gwilym.jpg

Yn ogystal â'i ddiddordeb ym myd y ffilm, mae o hefyd wedi casglu hanes am bobol a thref Dolgellau, ac fe fyddai'n rhaid adeiladu estyniad newydd petai o'n cyflwyno'r cyfan i'r Llyfrgell Genedlaethol.

Gobeithio Gwilym y byddwch chi'n llwyddo i dorri'r record. CUT!

Taith o amgylch Bro'r Eisteddfod

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü: ,Ìý

Hywel Gwynfryn | 18:07, Dydd Gwener, 19 Mawrth 2010

Sylwadau (0)

sirhowy1.jpg

"Conglfaen gwareiddiad" dyna ddisgrifiad un aelod seneddol o'r Eisteddfod Genedlaethol. Cyfeirio 'rodd o at yr Eisteddfod yng Nglyn Ebwy yn 1958 a'r siaradwr (siaradodd yn Saesneg gyda llaw gan dorri'r rheol Gymraeg sefydlwyd wyth mlynedd ynghynt yng Ngaerffilli) oedd neb llai na'r aelod seneddol lleol Aneurin Bevan. Eleni mae'r Eisteddfod yn dychwelyd i'r ardal, ac o dan arweiniad bywiog a ffraeth, Frank Olding, fe gawsom ein tywys o gwmpas yr ardal ddiwydiannol o hen waith dur Sirhowy i Amgueddfa tre'r Blaina.
Mae dalgylch yr Eisteddfod wedi cynhyrchu dau brifardd, Crwys a Robat Powell, a phwy a wyr na fydd na drydydd yn ennill un o'r prif wobrau eleni. Yn ol arweinydd cyngor Blaenau Gwent, y gobaith yw y bydd dyfodiad yr Eisteddfod yn dod â phobl o bob cenhedlaeth at ei gilydd, siaradwyr Cymraeg, rhai sy'n dysgu'r iaith a phob un sy â diddordeb yn eu treftadaeth Gymreig a Chymraeg "

frankolding1.jpg

Gwallt gwirion ym Mangor

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü: ,Ìý

Hywel Gwynfryn | 15:16, Dydd Llun, 15 Mawrth 2010

Sylwadau (0)

Nol yn yr wythdegau mewn moment o wendid, fe benderfynais y byddwn yn cael 'perm' fel Kevin Keegan. Ac yn wir 'doedd na fawr o wahaniaeth rhwng y "perm" ar gwallt osodwyd ar fy mhen yn siop gwisg ffansi Carys a Denise ym Mangor. Os da chi am wisgo fyny,fatha clown neu Easter Bunny, neu unrhyw gymeriad dan haul, mae na siwt i'ch siwtio chi.

Hywelffansi1.jpg

Yr wythnos yma dwi'n teithio draw i ardal Hendygwyn ac yna yn mynd ar daith o amgylch bro'r Eisteddfod Genedlaethol yng Nglynebwy.

Os 'da chi am i mi alw yn eich ardal chi yna cysylltwch a fi ar hywel@bbc.co.uk

Bocsio ym Mhwllheli

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü: ,Ìý

Hywel Gwynfryn | 13:34, Dydd Llun, 15 Mawrth 2010

Sylwadau (0)

Os ewch chi am dro ar hyd glan y mor ym Mhwllheli, ac yna troi am Ysgol Glan y Môr fe ddowch chi ar draws adeilad sy'n edrych yn debyg i gapel. Ond tydi hi ddim yn dangnefeddus y tu mewn o bell ffordd. Oherwydd dyma gartre Clwb Bocsio Pwllheli sydd newydd ei sefydlu. Mae 'na bron i gant o fechgyn ifanc y dre wedi ymaelodi yn barod, ac yn ol y trefnwyr mae'r syniad wedi bod yn 'knockout'.

Wrth wylio'r bechgyn yn y sgwar, fedrwn i ddim llai na chofio am y bachgen ifanc dwy ar hugain oed aeth draw i Lundain ym 1964 i weld Cassius Clay. yn paratoi ar gyfer gornest yn erbyn Henry Cooper. Fe roddais gyfrol o farddoniaeth i'r pencampwr gan esbonio mai awdur y cerddi, oedd un o feirdd mwyaf Cymru - Syr Tomos Parry-Williams. A meddai Cassius Clay gan fyseddu'r gyfrol
"I know the guy".
Esboniais wedyn fod y cerddi wedi ei sgwennu yn yr iaith Gymraeg a meddai'r pencampwr...
"Don't worry son - I'll have 'em, translated."

bocsio1.jpg

Peldroed ym Mhontnewydd

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü: ,Ìý

Hywel Gwynfryn | 11:50, Dydd Llun, 15 Mawrth 2010

Sylwadau (0)

ioloevans1.jpg
Ers stalwm, pan oeddwn fachgen, 'roeddwn i wrth fy modd yn casglu cardiau o luniau arwyr y maes peldroed. Stanley Mathews, Joe Mercer, Tommy Lawton, ac wrth gwrs Trevor Ford. 'Roeddwn i'n chwarae peldroed i'r ysgol ac yn hynod o beryglus yn y cwrt cosbi. Unrhyw bel yn yr awyr ac fe fyddwn yn ei phenio yn syth i'r rhwyd.

Yn anffodus, 'doeddwn i ddim cystal am ergydio'r bel, efo fy nhraed. Yn wir fe ddywedodd fy athro Ymarfer Corff, Jim Roberts un diwrnod "Lad. If you had a head on both your feet- you could be dangerous."

Yn wahanol i mi roedd gan Iolo Evans, o'r Bontnewydd, draed cyflym, oedd yn medru taro'r bel yn galed ac yn gywir pan oedd o'n chwarae peldroed i dim enwog Llanberis. Ac mae ei gasgliad o raglenni peldroed, dipyn gwell na'r casgliad pitw oedd gen i. Mae ganddo fo ddwy fil ohonyn nhw, ac mae o'n dal i gasglu. Un rhaglen fodd bynnag y basa fo'n hoffi ei hychwanegu at ei gasgliad ydi rhaglen y gem enwog rhwng Cymru a Brazil yng nghwpan y byd pan sgoriodd Pele yr unig gol. Mae'r rhaglen yn werth ffortiwn medda' Iolo.

Felly os oes ganddoch chi gopi i'w gwerthu - Iolo Evans ydi'ch dyn chi!

Y Cardi'n cydio'n dynn

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü: ,Ìý

Hywel Gwynfryn | 11:24, Dydd Llun, 8 Mawrth 2010

Sylwadau (0)

900mlwyddiant1.jpg
Mae eleni yn flwyddyn bwysig iawn yn hanes Aberteifi, gan fod y dref yn dathlu ei phenblwydd yn naw can mlwydd oed. Ac mae na ddegau o ddigwyddiadau yn cael eu cynnal drwy'r sir i goffau'r penblwydd, ac er mwyn hel arian at achosion da.

Ar Ddydd Gwyl Dewi, roedd Cylch y Merched yn y dref, wedi trefnu fod Aberteifi yn cael ei hamgylchynnu gan bum cant o bobol a phlant yn gafael yn dynn yn nwylo'i gilydd. Eira Jukes oedd y trefnydd tu ol i'r digwyddiad.ac am hanner awr wedi dau ar ei ben, fe gwblhawyd y dasg i swn ein hanthem genedlaethol ni.

Bydd y fan a fi yn siwr o ddychwelyd i'r dre yn ystod y misoedd nesa. Cofiwch os 'da chi am i ni roi sylw cenedlaethol i'r digwyddiadau yn eich ardal chi, neu os oes ganddoch chi stori dda i'w rhannu cysylltwch efo fi hywel@bbc.co.uk

Dathlu Gwyl Ddewi

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü: ,Ìý

Hywel Gwynfryn | 11:13, Dydd Llun, 8 Mawrth 2010

Sylwadau (0)

dewisant1.jpg
Yn Ysgol Dewi Sant, Llanelli yr oeddwn i ar Fawrth y cyntaf yn dathlu gwyl ein nawddsant yng nghwmni pedwar cant o blant, i gyd wedi eu gwisgo yn addas ar gyfer yr achlysur. Y merched mewn gwisgoedd Cymreig, a'r bechgyn yn eu crysau rygbi coch, a'r pennaeth Gethin Tomas(ar y chwith yn y rhes flaen) yn gwisgo crys gwyn wedi ei smwddio'n ofalus ar gyfer y diwrnod mawr.

Yn ogystal a chlywed y plant yn ein hatgoffa ni, mae "Dyn da oedd Dewi" a bod Cymru yn "wlad o feirdd a chantorion" fe ges i ychydig o hanes cyffrous yr ysgol. Hon oedd yr ysgol benodedig Gymraeg gyntaf yng Nghymru i gael ei chynnal yn llwyr gan yr Awdurdod Addysg, a Miss Olwen Williams oedd y brifathrawes gyntaf, pan agorodd yr ysgol ei drysau dros ddeugain mlynedd yn ôl.

'Roedd yn rhaid i mi adael yr ysgol yn syth bin ar ol darlledu ar raglen Nia, a gyrru'r fan i Aberteifi. Ac felly yn anffodus 'doedd na ddim amser i fwynhau'r cawl cennin blasus oedd wedi cael ei baratoi gan staff y cantin. Mae'n rhyfedd fel y daeth yr atgofion yn ol i mi am ddyddiau ysgol yn Llangefni yn ystod y cyngerdd yn Ysgol Dewi Sant Llanelli. Canu "Y Mae Afon" yng nghôr Miss Willias, Benllech , ac actio stori Dewi Sant yn pregethu, a'r tir yn codi o dan ei draed o, yn nosbarth Mr. Stephen Edwards. 'Roedd cael y tir i godi yn hawdd. Dim ond dringo o'r llawr i ben cadair wedi ei gorchuddio a charthen werdd oedd raid. Ond 'dwi ddim yn cofio i Mr. Edwards geisio cael y golomen i ddisgyn ar ei ysgwydd! Dyddiau dedwydd a dyddiau pwysig iawn hefyd.

Pleidiol wyf i Evan James

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü: ,Ìý

Hywel Gwynfryn | 15:16, Dydd Mercher, 3 Mawrth 2010

Sylwadau (0)

Roedd na ddigwyddiad hanesyddol yng Nghaerffili ddydd Gwener dwetha.
Na!.'Toeddan nhw ddim yn sythu tŵr y castell, ond yn hytrach yn dadorchuddio cofeb i awdur ein hanthem genedlaethol Evan James. Draig enfawr ydi'r gofeb wedi ei cherfio allan o hen goeden yn y parc gyferbyn a'r castell, gan Rhys Harris artist amgylcheddol o Fargoed. Ac mae'n addas iawn mai artist o Fargoed wnaeth y gwaith gan fod teulu Evan James wedi symud i ardal Bargoed, sef Llwyncelyn, yn fuan iawn ar ol i Evan gael ei eni yng Nghaerffili.

evanjames1.jpg

Llyfrau ar bedair olwyn!

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü: ,Ìý

Hywel Gwynfryn | 11:29, Dydd Mawrth, 2 Mawrth 2010

Sylwadau (0)

llyfyrgelldeithiol1.jpg


Mae 'na ddau ddyddiad pwysig iawn ym Mis Mawrth (tri os 'newch chi gynnwys penblwydd fy ngwraig ar Fawrth 14eg!). Mawrth 1af, Dydd Gwyl Dewi, a Mawrth 4ydd - Diwrnod y Llyfr. Ac ar y diwrnod hwnnw fe gewch chi hanes fy nhaith yng nghwmni Jo Mitchell sy'n gweithio i Lyfrgell Ceredigion, ac yn gyrru'r fan fawr felen. Mae o'n yrrwr gofalus iawn. Mae'n rhaid i chi fod os 'da chi'n cario 4 mil o lyfrau i bob cornel o Geredigion. 'Sgwn i pa lyfr 'da chi'n ei ddarllen ar hyn o bryd? 'Dwi newydd ddechrau darllen llyfr am Wil Sam a'i gyfraniad pwysig i fyd y ddrama yng Nghymru. Teitl y llyfr ydi Y Dyn Theatr, a Gwasg Carreg Gwalch sydd wedi ei gyhoeddi. Diddorol iawn.


Mwy o’r blog hwn…

Pynciau dan sylw

    °ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

    Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

    Cyfranwyr diweddaraf

    Â鶹ԼÅÄ iD

    Llywio drwy’r Â鶹ԼÅÄ

    Â鶹ԼÅÄ Â© 2014 Nid yw'r Â鶹ԼÅÄ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

    Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.