Â鶹ԼÅÄ

Help / Cymorth

Archifau Ionawr 2010

Dilyn Dwynwen

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü: ,Ìý

Hywel Gwynfryn | 16:08, Dydd Iau, 28 Ionawr 2010

Sylwadau (0)

"Amser maith yn ol, ym Mrycheiniog, 'roedd yna frenin o'r enw Brychan" Dyna eiriau cyntaf stori Dwynwen sy'n cael ei hadrodd gan Sian Lewis mewn stori sydd newydd gael ei chyhoeddi yn y gyfres Merched Cymru.
Llyfr delfrydol ar gyfer y dosbarth i ddysgu'r plant am Santes cariadon Cymru. Ond fydd dim angen y llyfr ar blant Ysgol Gynradd Niwbwrch. Mae nhw'n gwybod yr hanes i gyd, ac ar ddydd y Santes, roeddwn i yn eu cwmni nhw mewn gwasanaeth yn hen eglwys San Pedr yn y pentref.
plantllan1.jpg

Dilyn ol traed sant arall y diwrnod canlynol, i Lanaelhaearn, a chyfarfod y Canon Idris Thomas, tu allan i Eglwys y pentref sydd newydd derbyn arian gan y Loteri Cenedlaethol ar gyfer adnewyddu'r adeilad. Atgoffa Idris am stori'r hen wr yn clywed fod y ficer lleol wedi cael ei wneud yn ganon "Jiw, Jiw" medda fo "Dim ond Pistol oedd Paul."
idris1.jpg


Pan alwais i weld Glyn Roberts yn ei sied yn Sarn - 'roedd y sparcs yn hedfan. Wrthi'n atgyweirio giat yr oedd o, ond y rheswm pam yr oeddwn i wedi galw oedd er mwyn gweld ei gasgliad unigryw. Wyddoch chi am rywun sy'n casglu seti hen beiriannau.
Ia! Dim ond y seti. Mae'n ymddangos fod na hyd yn oed Gymdeithas Hen Seti Prydain Fawr. Fe gewch chi'r hanes i gyd ar raglen Geraint Lloyd, 'Dwi wedi fy synnu beth mae pobol yn ei gasglu, ac yn eu cadw yn eu siediau.
Beth amdanoch chi? Gadewch i Geraint neu fi wybod ac fe ddown ni draw i'r sied
am sgwrs.
glynroberts1.jpg

Ac ar fy ffordd adre, dros y Bannau, fe welais arwydd sy'n amlwg yn hysbysebu'r
ffaith fod un o'n cylchronnau ni yn arallgyfeirio!
barn1.jpg

Cofiwch gysylltu os oes ganddoch chi stori ddiddorol, ac fe fydd y fan a fi yn y fan
a'r lle i gael yr hanes i gyd. Y cyfeiriad ebost ydi hywel@bbc.co.uk

Twrch Trwyth, Tractors a Tair Awyren

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü: ,Ìý

Hywel Gwynfryn | 15:59, Dydd Iau, 21 Ionawr 2010

Sylwadau (0)

farilwyd1.jpg
Baedd gwyllt a ffyrnig oedd y Twrch Trwyth, ac un o brif gymeriadau stori Culhwch ag Olwen (Dwi'n cofio W.R.Evans yn sgwennu pantomeim doniol iawn yn seiliedig ar y stori. Teitl y Panto - "Cuddiwch rhag Olwen."). Efallai fod Dawnswyr y Twrch Trwyth yn wyllt eu symudiadau, unwaith mae nhw'n cychwyn dawnsio, ond tydi eu hyfforddwr nhw Dewi Rhisiart ddim yn ymddwyn yn ffyrnig, o gwbwl. Yn wir 'roedd o'n dawel iawn y noson o'r blaen yn nhafarn y Mochyn Du, er fod y Fari Lwyd yn hwyr yn cyrraedd!
Oedd hi wedi oedi mewn tafarn neu ddwy ar y ffordd. Sgwn i? Ai dyna pam roedd ei llygaid yn wyrdd a'i dannedd yn clecian.

wdig1.jpg
Mae gen i ffrindiau yn byw yn Sir Benfro, ac fe ges i gyfle i fynd i'w gweld nhw yn ddiweddar - Abercastell ydi enw'r pentref bach lle mae nhw'n byw. Tydio ddim yn bentref a deud y gwir. Dim ond dyrnaid o dai uwchben y bae naturiol, ac ambell i gwch wedi cael ei suo i gysgu i swn y tonnau. Lawr y ffordd mae Ty Ddewi, ac fe fyddwn yn darlledu o'r ddinas leiaf ym Mhrydain ar Fawrth 1af. Wedi mynd i'r ardal yr oeddwn i i gyfarfod
Rob Rees, sy'n byw yn Llanrhian, oedd yn arfer anfon ei gwenith gwyn, derfyn haf, yn llwythi cras i gael ei malu ym Melin Trefin. Fe gewch chi hanes Rob y tenor a'r casglwr tractorau ar raglen Geraint Lloyd yn fuan.
robrees1.jpg

Efallai y bydda i'n codi i'r awyr cyn diwedd y flwyddyn ac yn hedfan uwchlaw tref Aberteifi mewn Gyro-copter, os bydd John Adams Lewis yn mynd ati i wireddu ei freuddwyd. Mae o eisoes wedi adeiladu tair awyren fechan yn ei sied anferth ar gyrion y dre, lle mae o'n cadw VW Beetle brynodd o 'nol yn y chwedegau. Yn y sied yma hefyd yr adeiladodd o Gadair Eistedfodol Gwyl Fawr Aberteifi 1992, a enillwyd gan y Prifardd Tudur Dylan Jones.

jadamslewis1.jpg

Cwestiwn i chi. Jibaru oedd enw'r awyren gynta' adeiladodd John. O lle doth yr enw?
Ateb: Mae o'n enw ar aderyn sy'n gynhenid i Awstralia ac mae ei adenydd yn ymestyn dros naw troedfedd pan mae o'n hedfan yn yr awyr.

Dim dianc

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü: ,Ìý

Hywel Gwynfryn | 13:44, Dydd Mercher, 13 Ionawr 2010

Sylwadau (0)

bbceira1.jpg

Ni chysgaf, nid af o dy
Ym mhoen ydd wyf am hynny

Dafydd ap Gwilym sy'n cwyno, yn ei gywydd i'r Eira. Mae'n amlwg ei fod o wedi cael llond bol. Dim gobaith gweld Morfudd gan fod ei four-by-four o dan afalansh o eira gwyn. Mi wn i'n iawn sut yr oedd o'n teimlo. Mae'r fan a finna' wedi methu mynd i nunlla. Ddoe 'roeddwn i wedi meddwl mynd i Aberteifi i gael sgwrs efo gwr sydd wedi adeiladu tair awyren a dwy gadair eisteddfodol. Heno, yn nhafarn Bessie yn Nghwm Gwaun, mae nhw'n dathlu'r Hen Galan, ac mi oeddwn i wedi trefnu i fod yno er mwyn codi gwydryn o'r Macsi cwrw, a dymuno'n dda i Geraint Lloyd ar ei raglen. Ond fydda i ddim yno, nac yn ysgol Plasmawr heno chwaith, lle mae nhw'n cynnal gwersi dawnsio Salsa, am y deng wythnos nesa, yng nghwmni Mari Wyn. A dyma fi, yn garcharor yng Nghaerdydd, heb fedru mynd o'r fan, yn y fan. Felly, er mwyn diddori fy hun, 'dwi wedi bod yn chwilio am ychydig eiria am yr eira.

hyweleira1.1.jpg

1. "Pam fod eira yn wyn" oedd cwestiwn mawr Dafydd Iwan. Wel, yr ateb ydi - tydio ddim yn wyn bob tro. Flynyddoedd yn ol, pan oedd cannoedd o dunelli o lo yn cael eu llosgi mewn ffatrioedd a thai, ac roedd llwch y glo yn codi i'r atmosffer, ac yn treiddio i mewn i'r cymylau, roedd unrhyw eira oedd yn disgyn yn llwyd. Ac ar ynys Prince Edward yng Nghanada, yn amal iawn mae 'na wawl binc i'r eira, gan fod pridd yr ynys yn goch ei liw.

2. Os yda chi'n dychryn wrth weld yr eira'n disgyn, yna 'da chi'n dioddef o Chionophobia.

3. Be' 'di'r cysylltiad rhwng y tywydd a rhywun gafodd ei gweld gan 16 miliwn o bobol ar Coronation Street, pan ganodd hi ei thelyn ym mhriodas Steve a Karen MacDonald. Enw'r delynores oedd Eira Lyn Jones.

4. Yn ol astudiaeth a wnaed ddwy flynedd yn ol, fe allai'r Wyddfa fod heb eira erbyn 2020. Mae'r gwaith ymchwil yn dangos bod lefelau eira wedi gostwng tua 35% dros y 10 mlynedd diwethaf.

5. Mae 'na chwech ochor i bob pluen eira ond mae patrwm pob un yn wahanol.

6. Fe ddisgynodd y bluen eira fwyaf erioed i'r ddaear yn Fort Keogh, Montana. 'Roedd hi'n mesur pymtheg modfedd ar draws ac yn 8 modfedd o drwch.

7. Mae pluen eira gyffredin yn disgyn i'r ddaear fel arfer ar gyflymdra o 5 cilometr yr awr.

8. Fe orchuddir 12% o arwynebedd y ddaear yn barhaol gan eira a rhew.

9. Prifddinas eira yr Unol Daleithau ydi Bwlch Stampede yn nhalaith Washington.
Bob blwyddyn mae 430 modfedd o eira yn disgyn yn yr ardal.

10. Ewch ati, cyn i'r eira ddiflannu, i adeiladu dyn eira. Ac os 'da chi am dorri record y byd am y dyn eira mwyaf erioed, yna mae'n rhaid i chi adeiladu un sy'n 122 o droedfeddi a 2 fodfedd o daldra, oherwydd record y byd ydi 122 o droedfeddi ac 1 fodfedd o daldra. Pobol Bethel sydd pia'r record. Nid Bethel, Sir Gaernarfon yn anffodus ond Bethel, Maine. Ac nid dyn eira adeiladwyd, ond dynes eira efo dwy goeden fel dwy
fraich, a dau deiar car fel gwefusau.

eirabbc1.jpg

Blwyddyn Newydd Oer iawn i chi.

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü: ,Ìý

Hywel Gwynfryn | 13:21, Dydd Gwener, 8 Ionawr 2010

Sylwadau (0)

Ac os yda chi'n athro neu athrawes, fe hoffwn gydymdeimlo yn fawr efo chi. Mae'n rhaid ei fod o'n torri'ch calon chi i feddwl fod na fwy o eira a rhew ar y ffordd ac y bydd 'na siawns go lew felly na fyddwch yn yr ysgol yr wythnos nesaf chwaith, ond yn hytrach yn gorfod aros adre efo dim byd i'w wneud ond darllen brochures gwyliau Pasg - "Sgio yn yr Alpau!" Ond mae'n bur debyg y byddwch chi a'r disgyblion yn cymeryd wythnos yn llai o wyliau Pasg eleni, er mwyn sicrhau na fydd addysg y plant yn dioddef. Mmm!

dinasmawddwy1.jpg
Dyma'r olygfa i gyfeiriad Dinas Mawddwy a finnau ar fy ffordd i Gaernarfon. 'Dwi'n gwybod fod yr eira a'r rhew yn bla, ond mae haenen denau o eira dros y wlad efo'r haul yn sgleinio arno yn ychwanegu at ei harddwch, tra'n creu problemau yr un pryd wrth gwrs. Er i mi fethu a mynd i Langadog fer lwyddais i i gyrraedd y Gogledd ddechrau'r wythnos, a chael sgwrs efo Walter Richards am ei gasgliad o memorabilia Elvis Presley, anwyd ar y dyddiad yma Ionawr 8fed, 1935.
Beth sydd yn y casgliad? Roedd yr hanes i gyd ar raglen Jonsi dydd Gwener, a gallwch wrando nôl ar yr iPlayer.

elvisp1.jpg
Yn ystod yr wythnosau nesaf, 'dwi'n gobeithio mynd i Gwm Gwaun i ddathlu'r hen galan, i Hwlffordd i gael hanes awyren go arbennig, i Fôn i ddilyn Dwynwen ac i Ysgol Lon Las i ddathlu penblwydd yr ysgol yn drigain oed. Beth sy'n digwydd yn eich ardal chi?

Cysylltwch efo mi ac fe fydd y fan a fi yn y fan a'r lle i roi sylw cenedlaethol i'r digwyddiad ar Radio Cymru. Y cyfeiriad ebost ydi
hywel.gwynfryn@bbc.co.uk

Mwy o’r blog hwn…

Pynciau dan sylw

    °ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

    Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

    Cyfranwyr diweddaraf

    Â鶹ԼÅÄ iD

    Llywio drwy’r Â鶹ԼÅÄ

    Â鶹ԼÅÄ Â© 2014 Nid yw'r Â鶹ԼÅÄ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

    Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.