Â鶹ԼÅÄ

Help / Cymorth

Archifau Rhagfyr 2009

Taith Nadolig

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü: ,Ìý

Hywel Gwynfryn | 13:17, Dydd Mawrth, 22 Rhagfyr 2009

Sylwadau (0)

Yn ddiweddar fe fu'r fan a fi o gwmpas Cymru, o lan i lan, ac o gynhyrchiad i gynhyrchiad. Dyma gerdyn Nadolig neu ddau i chi oddiwrth

bartiddu1.jpg

Fe fues i'n gweiddi efo llond theatr o blant swnllyd yn y Lyric, Caerfyrddin - "Mae o tu ol i chi!" Dwy awr o hwyl ac antur ar fwrdd llong Barti Ddu. Ac mae'r cast i gyd yn dymuno Nadolig Llawen i chi.

bethanantur1.jpg

Nadolig Llawen hefyd ydi'r neges o Ysgol y Gader Dolgellau, fu'n perfformio
yng Nghapel Seion o dan arweiniad Bethan Antur.

bleddynhughes1.jpg

Efallai mai un o dyrcwn Bleddyn, sy'n ffermio ym Modedern, Ynys Mon, fydd ar y bwrdd acw eleni. Un arall o'r bobol ddifyr y ces i sgwrs efo nhw ar fy nhaith o amgylch Cymru yn ddiweddar.

donaldthomas1.jpg
Fe fyddai'n wir i ddisgrifio Donald fel gwr goleuedig. Mae'r goleuadau tu allan i'w gartre yn Llanddarog, yn denu ymwelwyr bob blwyddyn, ac mae o wedi casglu miloedd
o bunnau dros y blynyddoedd at achosion da. Nadolig hapus Donald.

llanddarog1.jpg

Roedd yr Eglwys yn Llanddarog yn werth i'w gweld hefyd, wedi ei haddurno efo 25 o goed Nadolig. Mae'r eglwys yn cynnal Gwyl y Coed Nadolig bob blwyddyn ac mae'r addurniadau ar bob coeden yn cynrychioli geiriau carol adnabyddus. Vilna Thomas oedd yn fy nhywys o gwmpas yr eglwys

vilnathomas1.jpg

Ac ar ran, y fan a fi, a'r tim, diolch yn fawr i chi gyd ymhob rhan o Gymru am eich croeso i ni yn ystod y flwyddyn, ac yn enwedig am y tê a'r mins peis yr wythnos dwetha.
Mae teithio drwy Gymru wedi cadarnhau i mi fod na doreth o bethau diddorol yn digwydd ymhob cwr o'r wlad, ac fe fyddwn ni'n adlewyrchu'r digwyddiadau a'r gweithgareddau amrywiol yn ystod 2010, gyda'ch cymorth chi. Cysylltwch efo mi, os oes ganddoch chi syniadau ar gyfer ein rhaglenni ni ar e-bost hywel@bbc.co.uk
Blwyddyn Newydd Dda.

Mwy o’r blog hwn…

Pynciau dan sylw

    °ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

    Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

    Cyfranwyr diweddaraf

    Â鶹ԼÅÄ iD

    Llywio drwy’r Â鶹ԼÅÄ

    Â鶹ԼÅÄ Â© 2014 Nid yw'r Â鶹ԼÅÄ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

    Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.