Â鶹ԼÅÄ

Help / Cymorth

Archifau Chwefror 2009

Plasty, pysgod, palu a malu...

Hywel Gwynfryn | 14:16, Dydd Gwener, 27 Chwefror 2009

Sylwadau (0)

IMG_04791.jpg

Llun y van yn ymyl Llyn y Fan? Wel, Llyn Clywedog fel mae'n digwydd
ar fan a fi ar y ffordd i Blas Glynllifon.


IMG_0473.jpg

'Roeddwn i wedi cael gwahoddiad i barti yn y Plasdy nos Fercher i ddathlu penblwydd dosbarth Cynghanedd Karen Owen (hi 'di'r Ledi in red ar y chwith)
yn 5 oed. Wrth ochor Karen mae Annes Glyn, bardd cadeiriol, Steddfod Chwilog yn ddiweddar. Braich John Benjamin sydd am ysgwydd ei wraig Mary. Ieuan Parry ydi'r bardd barfog a Gwynfryn o Fôn sy'n y cefn.


IMG_0474.jpg

Mae Coleg 6ed. Dosbarth Meirion Dwyfor ar yr un safle a'r Plasdy
a chriw o'r coleg oedd yn dewis "Can cyn cychwyn" ar raglen Eleri a Dafydd
am 8.30 y bore ar ôl y dathlu yn y Plas. Big Leaves yn canu Meillionen oedd y dewis.
Addas iawn i fyfyrwyr amaethyddol.


IMG_0468.jpg

O'r plasdy wedyn i'r felin. Hen Felin y Cim. Nid malu mae'r felin y dyddiau yma ond
croesawu. Ac mae na le clyd tu mewn i ymwelwyr aros ar lan yr afon Llyfni.


IMG_0467.jpg

A dyma rai o aelodau Cymdeithas Pysgotwr Seiont a Gwyrfai sydd tu ol i'r fenter.
Y trydydd o'r chwith yn y siwmper goch ydi un o sêr cynnar S4C- Huw Geraint- y Fet.

IMG_0476.jpg

Panad o de wedyn yng Nghanolfan arddio Frongoch, ger Caernarfon yng nghwmni, dwy o flodau Pencaenewydd, Lizabeth Hughes a Gwyneth Jones.


IMG_0478.jpg

Ac ar ol y banad, sgwrs am y Ganolfan ar raglen Nia efo Justin a'r tîm.

Os 'da chi, am i ni, y fan a fi, ddwad acw i weld beth sy'n digwydd a rhoi sylw cenedlaethol i'r diwgwyddiad lleol ar Radio Cymru, ebostiwch hywel@bbc.co.uk

Defaid Dai

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü: ,Ìý

Criw Fan Hyn | 16:00, Dydd Llun, 23 Chwefror 2009

Sylwadau (0)

Roedd paratoadau munud olaf yn cael yn gwneud ym mhafiliwn Pontrhydfendigaid Ddydd Gwener ar gyfer treialon cwn defaid dan do cyntaf Prydain.

boisybont.jpeg

Dyma'r criw oedd wrthi'n cael trefn ar y neuadd, a Charles Arch, sydd i'w weld ar y chwith, oedd y prif drefnydd. Wyneb adnabyddus arall oedd un o gyflwynwyr Radio Cymru - Dai Jones.

hyweladai.jpeg

Digwyddiad hanesyddol a diolch am y gwahoddiad i ddod draw - a rhoi cynnig ar gorlannu ambell ddafad. DIolch arbennig i Mic - ci ffyddlon Dai am ei gymorth parod! Dani'n edrych ymlaen at gael dychwelyd i'r Bont y flwyddyn nesaf.

micyci.jpeg

Mawredd y machlud

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü: ,Ìý

Hywel Gwynfryn | 15:46, Dydd Gwener, 13 Chwefror 2009

Sylwadau (0)

machludbeca.jpeg

...Yn addas iawn, roedd yr haul uwchben ardal Merched Beca yn machlud mewn
pelen o dan pan gyrhaeddais i Dafarn Beca yn Nhrelech. Dod yma i wybod mwy am rol y dafarn o fewn y gymuned - pa mor bwysig ydi cael lle i gymdeithasu, yn enwedig o feddwl fod yr ysgol a'r siop leol wedi cau.

awyrardan.jpeg

barybeca.jpeg

Mae Ryan a Veronica, y perchnogion, wedi bod yma ers ryw chwe blynedd ac mae'n amlwg fod y dafarn yn ganolfan gymdeithasol i bawb yn y pentre

canolbwyntio.jpeg

Tra 'roedd Ryan yn ymarfer ar gyfer ei fuddugoliaeth nesa ar y bwrdd pŵl...

merchedbeca.jpeg

Fe ges i gyfle i gael sgwrs am y pentre a'r dafarn yng nghwmni Ffion, Gwenllian, Manon, Menna, Margaret a Muriel yr hanesydd lleol ac fe gewch chi'r hanes i gyd ar raglen Nia fore Mawrth yr 17ef o Chwefror ar Radio Cymru.

Os am enwebu eich tafarn leol chi - cysylltwch a ni!
Ffoniwch - 03703 500500
E-bostiwch - Hywel@bbc.co.uk

Ar y ffordd

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü: ,Ìý

Hywel Gwynfryn | 15:36, Dydd Gwener, 13 Chwefror 2009

Sylwadau (0)

yfanfanhyn.jpeg

O Gastell Newydd Emlyn fe aeth y fan a fi i berfeddion Sir Gar. Heibio Capel Iwan a Chilrhedyn...

Castell, Pelican a Beca.

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü: ,Ìý

Hywel Gwynfryn | 15:27, Dydd Gwener, 13 Chwefror 2009

Sylwadau (2)

tafarnypelican.jpeg

Efallai eich bod chi'n adnabod wyneb perchenog Y Pelican yng Nghastell Newydd Emlyn, Maise Evans, yn dda - yn enwedig os oeddech chi'n mwynhau diod yn y Red Lion, Aberteifi, lle bu Maise yn tynnu peintiau am ddwy flynedd ar bymtheg.

Roedd bon braich Maise mor boblogaidd fel y cyfansoddodd y Prifardd Ceri Wyn Jones gywydd iddi ar ei ymadawiad, lle mae o'n dweud...

"Yn y peint o groeso pur
Maisie yw'r llinyn mesur."

Ar ol treulio awr ddifyr yn ei chwmni fe allai'ch sicrhau chi fod Maise yn Amaiseing!

Yn fy elfen!

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü: ,Ìý

Criw Fan Hyn | 15:06, Dydd Gwener, 13 Chwefror 2009

Sylwadau (0)

perfformio.jpeg

Ysgol Heol y Celyn, Pontypridd, oedd y lleoliad ddechrau'r wythnos, a hynny ar wahoddiad Lyn Morgan, i gael mwynhau ffrwyth llafur wythnosau o ymarfer caled criw Gweithdai Bro Taf.

Criw o bobl ifanc oed cynradd ac uwchradd sydd ym ymgynull yn wythnosol yma i fwynhau perfformio sioeau cerdd, ymarfer ar gyfer Eisteddfodau'r Urdd a hefyd dawnsio gwerin. Yn wir mi fydd y criw yn mynd i Mallorca yn Ebrill i ddawnsio mewn cystadleuaeth arbennig - pob lwc a cofiwch roi gwybod sut hwyl gawsoch chi!

Yn y fan a'r lle

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü: ,Ìý

Hywel Gwynfryn | 15:02, Dydd Iau, 5 Chwefror 2009

Sylwadau (0)

Fe gafodd y fan gyfle i oedi ar ochor y ffordd i fwynhau harddwch Pen Llyn cyn symud ymlaen...ond i ble? Wel, penderfynwch chi!

E bostiwch ni ar hywel@bbc.co.uk ac fe fydd y fan a fi yn y fan a'r lle.

fanhywel.jpeg

Creme de la creme

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü: ,Ìý

Hywel Gwynfryn | 14:54, Dydd Iau, 5 Chwefror 2009

Sylwadau (0)

Doedd dim angen teithio ymhell o Nefyn i gyfarfod a'r criw yn Hufenfa De Arfon. Diolch i Haf am drefnu'r ymweliad, ac i Rose Jones, Trevor Morris a Brian Evans am y sgwrs a'r croeso.

Dewis y criw o Gan cyn cychwyn ar gyfer rhaglen 'Leri a Daf oedd Ceidwad y Goleudy gan Bryn Fon.

digonosioe.jpeg

Fi 'di'r un yng nghefn y llun sy'n edrych fel Ena Sharples!

naw naw naw

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü: ,Ìý

Hywel Gwynfryn | 14:48, Dydd Iau, 5 Chwefror 2009

Sylwadau (0)

"Your country needs you!" ...Dyna oedd y gri adeg y rhyfel. Erbyn heddiw... "Mae
Brigad Dân Nefyn eich angen chi" ydi'r cais. Mae nhw'n chwilio am ddiffodwyr tan - yn ddynion a merched - i ymuno a'r tim.

gorsafdannefyn.jpeg

Terry Hoff sydd yn y llun, y fo sy'n gofalu am yr orsaf ac wedi bod yn ddiffoddwr tan ers chwarter canrif union. Penblwydd hapus Terry a gwyliwch ganhwyllau'r gacen!

Llond platiad o jips!

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü: ,Ìý

Hywel Gwynfryn | 12:16, Dydd Iau, 5 Chwefror 2009

Sylwadau (0)

Bob p'nawn Sadwrn pan oeddwn i'n hogyn, fe fyddwn i'n mynd i sinema yr Arcadia yn Llangefni a wedyn yn mynd draws y ffordd i siop jips Wini Welch am bryd o fish, chips a phys slwdj - heb anghofio potel o Vimto i olchi'r cyfan i lawr.

Fe ddaeth yr atgofion yna'i gyd yn ol i mi yn siop jips Stuart Lloyd yn Llambed ddechrau'r wsnos - siop sy'n dathlu ei phenblwydd yn drigain oed eleni, er 'di'r sglodion ddim cweit mor hen a hynny!

mwynhausglodion.jpeg

Fe gewch chi'r hanes i gyd ar raglen Jonsi ddydd Llun nesaf wrth ei bod hi'n "Wythnos Genedlaethol Sglodion"...ond peidiwch a deud wrth William Jones! Mwynhewch!

Ffermwyr Dolgellau

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü: ,Ìý

Hywel Gwynfryn | 15:42, Dydd Mawrth, 3 Chwefror 2009

Sylwadau (0)

Pwy ddywedodd nad ydi ffermwyr yn cael bywyd braf?! Roedd gan ffermwyr mart Dolgellau ddigon o amser i fwynhau paned a sesiwn o dynnu coes, a pha well ffordd o dreulio awr neu ddwy ar fore Gwener na' yn eu cwmni nhw.

martgwenerdolgellau.jpg

Roedd Tom Gwannas yno hefyd - yn gwerthu yn hytrach na phrynnu.

tomgwannas.jpeg

Gwerthu tocynnau ar gyfer cyngerdd go arbennig ar yr 8fed o Chwefror yn Ysgol y Gader, Dolgellau er coffa am y diweddar dalentog Aeron Gwyn.

Yr wythnos yma mi fyddai'n teithio i Gaerfyrddin, Llambed, Pwllheli a Nefyn, ac os ydych chi am i mi ddod draw i'ch ardal chi - yna cysylltwch a'r tim.

E-bostiwch - hywel@bbc.co.uk neu ffoniwch 03703 500500

Criw'r ffactri

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü: ,Ìý

Hywel Gwynfryn | 15:36, Dydd Mawrth, 3 Chwefror 2009

Sylwadau (0)

Erbyn wyth fore Gwener, roeddwn i wedi cyrraedd ffactri drelyrs enwog Corwen i gael sgwrs fo'r gweithlu hwyliog - Gwyn Lloyd, David Jones a Sian Bostock.

criwffactri.jpg

Mae'r criw yma'n gesys a hanner, ond bron iddi fynd yn fler wrth i'r tri frwydro dros yr hawl i ddewis Can cyn cychwyn ar gyfer rhaglen 'Leri a Daf ar Â鶹ԼÅÄ Radio Cymru rhwng 8.30am a 10.30am.

Catatonia enillodd y dydd y tro hwn, ond cofiwch os ydych chi am i'ch dewis chi gael ei chwarae, yna cysylltwch a'r tim ar 03703 500500. Neu'n well fyth, beth am roi gwahoddiad i ni ddod acw i'r swyddfa/ysgol/cartref i gael eich dewis wyneb yn wyneb.

Gair o rybudd gan Sian cyn cloi, gwyliwch eich cyflymder os yn gyrru drwy'r Rhos - rhag ofn i'w gwr eich stopio am sgwrs!

Criw Cywain

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü: ,Ìý

Hywel Gwynfryn | 15:26, Dydd Mawrth, 3 Chwefror 2009

Sylwadau (0)

Ar gyrion Y Bala, mae 'na Ganolfan newydd sbon, Canolfan y Cywain. Roedd 'na ocsiwn arbennig nos Iau, nid ocsiwn ddodrefn na' anifeiliaid, ond yn hytrach cardiau post wedi eu darlunio gan artistiaid o'r cylch, a'r cyfan i gasglu arian at gronfa Eisteddfod Genedlaethol Meirion, fydd yn cael ei chynnal yn Y Bala eleni.

criwcywain.jpeg

Dyfrig Siencyn o Ddolgellau oedd yng ngofal y morthwyl, ac yn cadw cwmni iddo yn y llun mae Lona Puw, cadeirydd y Ganolfan, Nansi Thirsk sydd yn aelod o'r pwyllgor Celf, a Glyn Baines, yr artist adnabyddus, sydd yn weithgar gyda'r paratoadau hefyd.

cyfeddachcywain.jpeg

Mae'r Aelod Seneddol lleol - Elfyn Llwyd, wrth ei fodd yn cadw cwmni i'w golomenod yn ei amser sbar. 'Sgwn i sawl colomen fuasai'n rhaid iddo fo'u gwerthu er mwyn cael prynnu llun gan Iwan Bala?!

celfcywain.jpeg

elfynynedmygu.jpeg

Cyn-athro Lladin ydi Gareth Jones a roedd o wedi rhoi un o'i luniau dyfrlliw yn rhodd i'r ocsiwn. Llun o ffordd yn mynd drwy'r coed yn yr Hydref, neu fel y dywedodd Gareth..."y via yn mynd drwy'r arbor yn Octobris."

yrartistgarethjones.jpeg

'Dani'n edych ymlaen at Eisteddfod Meirion yn barod. Pob hwyl gyda'r trefniadau - mi fyddwn yn mentro i ymarfer Cor yr Eisteddfod dan arweiniad Eirian Owen y mis nesaf, ac mi gewch chi ymuno yn yr hwyl ar raglen Geraint Lloyd. Cofiwch gadw llygad ar y blog am fwy o fanylion.

Mwy o’r blog hwn…

Pynciau dan sylw

    °ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

    Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

    Cyfranwyr diweddaraf

    Â鶹ԼÅÄ iD

    Llywio drwy’r Â鶹ԼÅÄ

    Â鶹ԼÅÄ Â© 2014 Nid yw'r Â鶹ԼÅÄ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

    Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.