Â鶹ԼÅÄ

Help / Cymorth

Archifau Hydref 2008

Y Caban yn y Coed.

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü: ,Ìý

Hywel Gwynfryn | 14:38, Dydd Gwener, 31 Hydref 2008

Sylwadau (0)

Leusa Mererid, Mabon, Eluned a Dafydd Ellis - roeddan nhw'i gyd yn disgwyl amdana i ddydd Mercher yn y Caban, Brynrefail. Mae Caban yn gyrchfan i famau ifanc y cylch, yn le bwyta - diolch Eluned am y salad caws efo'r darnau chwadan, ac yn le o addoliad ar y Sul, fel y soniodd Dafydd Ellis, Cadeirydd Menter Fachwen, sy'n cefnogi'r Caban.

hywel_caban.jpg

Llongyfarchiadau gyda llaw i bawb sy'n gweithio yno - mae Caban ymhlith y deg bwyta llysieuol gorau drwy Brydain yn ol arolwg diweddaraf Which?a phenblwydd hapus i fenter Fachwen sydd yn ugain oed eleni.

Diolch i chi gyd am eich sylwadau a'ch gwahoddiadau. Mae modd i chi gysylltu a mi drwy e-bostio hywel@bbc.co.uk. Welai chi ar y ffordd!

O! Gwalia, fy Ngwalia.

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü: ,Ìý

Hywel Gwynfryn | 14:30, Dydd Gwener, 31 Hydref 2008

Sylwadau (0)

Doedd na yr un bwrdd gwag yng nghaffi Gwalia bnawn Mawrth. Roedd y si wedi mynd ar led fod y Brenin yn mynd i fod yno am 4, a roedd y ffans wedi ymgynull tu ol i'w sgons a'u brechdanau i'w groesawu. Ac yn wir ar yr awr, i mewn a fo yn ei siwt goch a'i sbectols haul - Elvis Presley o'i gorun i'w sawdl ac yn canu cystal a'r brenin pob tamad.

hywelacelvis.jpg

Dilwyn Jordan Roberts - o Lanbedrog yn wreiddiol, oedd yn ei siwt goch, ac os 'da chi am y profiad o'i weld yn mynd drwy'i betha', fe fydd ym Mhrestatyn ac yn Aberdaron cyn diwedd Tachwedd. Uchafbwynt y prynhawn oedd y ddeuawd "Suspicious Minds" gyda Sian, un o ferched caffi Gwalia.

caffigwalia.jpeg

Dwi'n amau yn ol y gymeradwyaeth fyddarol fod criw caffi Gwalia wedi cael p'nawn i'w gofio ac y bydd Elvis nol yn yr adeilad cyn bo hir.

Y Post yn cau - ond drws yn agor.

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Hywel Gwynfryn | 14:24, Dydd Gwener, 31 Hydref 2008

Sylwadau (0)

Cyn bo hir fe fydd swyddfa bost Llanbedrog yn cau ei drysau, ond fe fydd drws arall yn agor i Dafydd Tecwyn Ellis y Postfeistr, sydd yn aelod o Fand Trefor. Mae o'n bwriadu canolbwyntio ar ei hoff offeryn - y trombon, a rhoi gwersi i bobol ifanc y cylch.

dafyddtecwyn.jpeg

Ar ol i mi gael gwers gyflym ganddo fo, oedd yn profi ddigamsyniol nad George Chisholm m'ohnnof, fe drosglwyddais yr offeryn aur i ddwylo diogel Dafydd, ac fe chwaraeodd yntau'r darn cyffrous "Dewch i'r frwydr" yn fyw ar raglen Jonsi. Fe fydd hi'n dipyn o golled i'r ardal pan fydd Dafydd yn gadael y Post am y tro olaf. Ella y dylia prif gornetydd Band Trefor fod tu allan i'r Swyddfa y diwrnod hwnnw yn chwarae'r "Last Post?".

O Bwllheli i bellafoedd byd.

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Hywel Gwynfryn | 14:09, Dydd Gwener, 31 Hydref 2008

Sylwadau (0)


Mae gweithdy "Cerrig" Pwllheli wedi mynd o nerth i nerth ers i daid Glyn Williams ei sefydlu flynyddoedd yn ôl, ac mae'r cynnyrch i'w weld yn Rwsia, Tseina ac ar gopa'r Wyddfa.

Fe gariwyd clamp o garreg fawr i'r copa ar hofrennydd ar gyfer agoriad swyddogol canolfan Hafod Eryri fydd yn agor yn y dyfodol agos, ond y newydd mwyaf cyffrous ydi'r ffaith fod 'na bosibilrwydd y bydd gwenithfaen neu lechen o'r gweithdy yn harddu muriau stadiwm Gemau Olympaidd Llundain 2012.

'Dwi'n siwr y bydd Glyn ac Ian yn rhoi hwb cam a naid os yn llwyddianus.

Pib i foi y Bib.

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü: ,Ìý

Hywel Gwynfryn | 16:26, Dydd Gwener, 24 Hydref 2008

Sylwadau (0)

Fedrwch chi ddim galw yn Llanfihangel-ar-Arth heb alw i weld John Glenydd. Does dim rhaid i chi wybod lle mae o'n byw - dim ond dilyn swn y pibau mae o'n eu creu.

johnevans.jpeg


Fe gafodd John ddamain ddrwg i'w gefn rai blynyddoedd yn ol, ond yn hytrach na gorwedd ar ei gefn, fe frwydrodd i sefyll ar ei draed, a mynd ati i greu y pibau. Mae na alw amdanyn nhw yn America hyd yn oed.

Wrth droi trwyn y fan i gyfeirad Caerdydd, roeddwn i eisoes yn edrych ymlaen at fy ymwelad nesa a'r ardal ddiddorol hon. Cofiwch os oes ganddoch chi stori, neu eisiau ein gwahodd draw, cysylltwch efo fi ar hywel@bbc.co.uk neu drwy ffonio 03703 500 500.

Hedfan i'r Eagle.

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü: ,Ìý

Hywel Gwynfryn | 16:14, Dydd Gwener, 24 Hydref 2008

Sylwadau (0)

Drannoeth roeddwn i yn Llanfihangel-ar-Arth yn yr Eagle yng nghwmni Morfydd, Arwyn, Calvin, Meinir a'r criw. Mae un o gadeiriau Dewi Emrys yn y dafarn - Cadair Corwen, 1923.

eagles.jpeg

Pam ei bod hi yn yr Eagle? Oherwydd i Dewi Emrys, enillydd y gadair, ddefnyddio enw perchenog y dafarn ar y pryd, Daniel Jones, fel ffug enw. Ac er fod Y Bod Mawr wedi galw "Time" ar Dewi ers blynyddoedd, mae ei gadair yn dal yno "...a'i dwy fraich, fel pe'n difrif wrandaw."

Malu yn y Felin.

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Hywel Gwynfryn | 15:40, Dydd Gwener, 24 Hydref 2008

Sylwadau (0)

Fel y Terminator - 'Dwi nôl! Ond lle 'dwi 'di bod medda chi? Wel yn y fan ddu - fan yma a fan acw yn holi ac yn stilio, ond ddim yn procio na phryfocio gormod. Gwell gadael hynny i Gwilym Owen!

Diwrnod cyfan ddydd Iau yn crwydro ardal Drefach Felindre a Llandysul . Mi oedd na gofffi cynnes a chroeso c'nesach yn fy aros i yn y felin wlan, ac Ann, Joanna, Heledd, Keith a Non yn fwy na hapus i'm gwahodd yn nôl yn y dyfodol agos.

Mae'n amlwg fod na ddigonedd o bobol ddiddorol yn byw yn yr ardal - Brenda ac Alan Jones, Fferm Aberlleine a'u cwrw cartre a Bernard Evans o Lechryd sy'n arbenigwr ar wneud cyryglau. Mi fyddai taith ar reilffordd Henllan yn hwyl hefyd, ac efallai teithio'r holl ffordd i Landyfriog yng nghwmni'r hanesydd lleol Tywi Cole Jones (Dim perthynas i'r Old King!). Diwrnod pleserus a diolch i bawb am y croeso.

Y Ddol yn nhref Dolgellau

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü: ,Ìý

Hywel Gwynfryn | 11:39, Dydd Iau, 16 Hydref 2008

Sylwadau (0)

dolgellau.jpg

Ac enw'r ddol, ddel? Mair Jones, fydd yn dathlu ei phenblwydd ar Hydref y 26ain yn gant oed. Fe fuo hi'n rhannu ei hatgofion efo fi yn Nhy Meurig ac fe gewch chi glywed y sgwrs ar raglen Jonsi bnawn Gwener y 24ain rhwng 2 a 5pm.

Wythnos nesa, fe fydd y fan a fi, yn Llanfihangel-ar-Arth.

The good, the bad, and the undertaker

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü: ,Ìý

Hywel Gwynfryn | 11:32, Dydd Iau, 16 Hydref 2008

Sylwadau (0)

howatsons.jpeg

Tri Howatson. Clwyd, Huw, ac Ifor, a finna yn cael sgwrs ynghanol rowndabowt ar gyrion Dinbych. Yn ôl Clwyd, roedd y tŷ yno cyn y gylchfan, ac mae'r Howatson's wedi bod o gwmpas ers canrifoedd.

Aelod arall o'r teulu ydi Julie Howatson sydd wedi sefydlu ysgol harddwch, ac a oedd yn fodlon derbyn yr her o roi triniaeth harddwch i mi. A wyddoch chi be? Ar ôl chwech awr yn y gadair 'roeddwn i'n edrach yn well o lawar!!

julie.jpeg

Gwefr yn Ninbych

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Hywel Gwynfryn | 17:12, Dydd Mercher, 15 Hydref 2008

Sylwadau (0)

"Gwefr heb y gwifrau" oedd teitl yr arddangosfa ddiddorol iawn o hen setiau radio wedi eu casglu gan y diweddar David Jones, oedd i'w gweld yn y ganolfan iaith yn Ninbych yr wythnos yma.

Mi welais i un set fawr frown oedd yn dwyn atgofion o eistedd yn nhÅ· Nain ar Nos Fawrth a gwrando ar SOS Galw Gari Tryfan cyn rhedeg i'r Band of Hope.

Roedd na un ferch ifanc wedi teithio o bell i weld yr arddangosfa - Awen Jones Rebula, merch David Jones, sydd yn byw yn Ne America, a'r tro dwytha i ni gyfarfod oedd yn ei gweithdy yn Rio de Janeiro pan oeddwn i draw yno'n ffilmio Ar fy meic!

Ew, does 'na ddim byd fel mymryn o nostalgia!

Gwynfryn yn y Gwynfryn

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Hywel Gwynfryn | 17:02, Dydd Mercher, 15 Hydref 2008

Sylwadau (0)

gwynfryn.jpg

Gweld yr arwydd yma ar y ffordd i Ddinbych. 'Sgwn i sawl un sydd yng Nghymru? Efallai mai Gwynfryn ydi enw'ch tŷ chi? Os am roi'ch Gwynfryn chi ar ein map ni - cysylltwch â ni!

Ar ras i Wrecsam

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Hywel Gwynfryn | 16:41, Dydd Mercher, 15 Hydref 2008

Sylwadau (0)

Fore Sul roeddwn i'n eistedd rhwng y Daleks a'r Bobinogs ym Mhrifysgol Glyndwr yn Wrecsam. Roedd y Â鶹ԼÅÄ yn cynnal diwrnod agored ac fe ges i gwmni'r gŵr lleol Sion Aled Owen...

wrecsam.jpeg

...yn ogystal â Gareth Bryn Jones - un o aelodau Côr y Fron sydd yn rhyddhau CD newydd ym mhen tair wythnos. Côr arall ar gyfer Cornel y Corau yn fy rhaglen gerddoriaeth fore Sul rhwng 10.40am-12pm ar Â鶹ԼÅÄ Radio Cymru.

Cofiwch gysylltu os am roi cyfarchion, am gais arbennig neu roi hysbys. Y rhif ffon fore Sul yw 03703 500 500 neu e-bostiwch hywel@bbc.co.uk.

Cân cyn cychwyn yn Llangynwyd

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Hywel Gwynfryn | 16:22, Dydd Gwener, 10 Hydref 2008

Sylwadau (0)

Cyfarfod Tomos a Catrin yn eu ysgol newydd sbon -Ysgol Gyfun Gymraeg Llangynwyd. Ar ol cael gair cyflym efo nhw, a darganfod fod Tomos am chwarae criced i Forgannwg a Catrin eisiau bod yn ddanswraig, fe gawson nhw ddewis Cân Cyn Cychwyn ar raglen Eleri a Dafydd.

A'r gân? Meinir Gwilym yn canu Wyt Ti'n Cofio. Cyn cychwyn am Faesteg, fe gefais wahoddiad i ddychwelyd i gynnal ocsiwn yn yr ysgol yn y dyfodol agos. Fel y dudodd y Tyrminator "I'll be back!"

Llandudoch, Llandoch a St. Dogmael's.

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Hywel Gwynfryn | 14:44, Dydd Mercher, 8 Hydref 2008

Sylwadau (0)

Tri enw ar un pentref yng ngwaelodion Sir Aberteifi - "Yr ail bentref mwyaf yng Nghymru..." meddai Melrose Thomas wrtha i tu allan i'r garej sydd wedi ennill gwobr am fod y garej fwyaf lliwgar ei blodau am y pumed tro yn olynol. Gyda llaw, pa bentref ydi'r mwyaf yng Nghymru? Ateb ar y diwedd.

Cinio yn y Cartws sydd newydd gael ei ail-adeiladu, a chwerthin llond fy mol yng nghwmni Mair Garnon a Nia Siggins. Mair ydi brenhines hiwmor Sir Benfro,wel, dyna mae o'n ddeud ar glawr ei llyfr sy'n gasgliad o jocs y cylch. Beth am hon? Barnwr mewn llys yn dweud wrth Wil ..."Odi e'n wir eich bod chi wedi bod mewn damweiniau efo pump o geir? " "Nag yw" meddai Wil, "Pedwar. Wnes i daro un car ddwywaith!"

Wedd lot fowr o 'werthin yn y Cartws pnawn ddo'. Wedd, glei.

O.N.Pentref mwyaf Cymru? - Rhosllanerchrugog.

Gwefr yn Llanberis, cawl pys yn y Trallwng.

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Hywel Gwynfryn | 11:29, Dydd Mawrth, 7 Hydref 2008

Sylwadau (0)

Cyrraedd pentre bach Llanber a mynd ar goll! Cyfarfod Jim ar y stryd a chael cyfarwyddiadau i ddod o hyd i Ysgol Dolbadarn, i gyfarfod Ralph Jones(79) a Len Jones (69), gan ei bod hi'n Ddiwrnod Pobol Hyn.

llanberis.jpeg

Gyda llaw ydi o'n iawn eu bod nhw wedi penodi hogan ifanc yn ei deugeiniau i fod yn Gomisiynydd Pobol Hyn, ac i ofalu am eu buddiannau nhw? Onid gwahaniaethu ar sail oedran ydi hynny? (medda' Victor Meldrew Gwynfryn!). Roedd Len wedi dwad a'i wyrion efo fo - Billy, Danny, Mari, Cerys a Cian, ac mi 'roedd o a Ralph yn enghraifft berffaith o sut i fynd yn hyn heb fynd yn hen. Yn wir, o bell, mae'r tebygrwydd rhwng Ralph a Clark Gable yn anhygoel.

Draw wedyn i gyfarfod Awel, sy'n gofalu am y Mynydd Gwefru. Fedar rhywun ddeud wrtha i pwy ddaru fathu'r enw? Arbennig! Gwell o lawer na Electric Mountain. Pwy bynnag oedd o mae o'n haeddu medal a dwy gryno ddisg gan Hogia'r Wyddfa.

Sgwrsio efo Awel yn y prynhawn, a chael holl hanes cyffrous y pwerdy, (a salad), cyn cychwyn o'r Llan yn y fan, am y Trallwng, a chyfarfod dau o gymeriadau'r dre y bore wedyn am sgwrs: Len Griffiths a Len Davies.

Y ddau Len!

Fe fuom ni'n browlan fel cawl pys - ymadrodd lleol am siarad yn ddi-stop. Wyddwn i ddim, gyda llaw, mai ystyr Trallwng ydi pwll budur, man corsiog. Dyna o lle doth y pool Saesneg, ac yna fe ychwanegwyd y gair Welsh, rhag cymysgu efo Poole yn Dorset. Ew! Tydwi'n swnio'n wybodus?! Ac yn wir efo'r holl deithio 'ma, fe ddaw rhywun i wybod dipyn golew am Gymru. Ar fy ffordd i Landudoch nesa, a wedyn ddydd Gwener, Maesteg.

Mwy o’r blog hwn…

Pynciau dan sylw

    °ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

    Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

    Cyfranwyr diweddaraf

    Â鶹ԼÅÄ iD

    Llywio drwy’r Â鶹ԼÅÄ

    Â鶹ԼÅÄ Â© 2014 Nid yw'r Â鶹ԼÅÄ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

    Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.