Â鶹ԼÅÄ

« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Cymry a Saeson y ffin yn casglu i ddathlu'r Calan

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Elin Meredith Elin Meredith | 11:15, Dydd Iau, 17 Ionawr 2013

Y penwythnos hwn bydd cannoedd o Gymry yn casglu yng Nghas-gwent fin nos i fartsio tuag at y ffin â Lloegr â baner y Ddraig Goch yn cyhwfan uwch eu pennau.

Byddan nhw'n mynd yno'n uchel eu croch i wynebu criw o Saeson â'u hwynebau wedi eu paentio ac yn martsio dan faner San Siôr.

Ond nid ail-greu hen frwydr o'r gorffennol fyddan nhw ond cwrdd i gynnal dathliad heddychlon sydd wedi'i wreiddio mewn dau draddodiad hynafol sy'n byw ochr yn ochr ar y ffin - Y Fari Lwyd yng Nghymru a'r Wassail yn Lloegr.


Y Fari Lwyd yn yfed diod seidr y Wassail (Llun: Paul Johnson)

Dyma ddathliad blynyddol y Cyfarfyddiad ar y Bont lle mae'r Cymry a'r Saeson yn cyd-yfed, cyd-ddawnsio a chyd-ganu i ddathlu'r Flwyddyn Newydd.

Mae'r digwyddiad yn rhan o ŵyl Wassail a Mari Lwyd Cas-gwent sydd wedi ei chynnal ers saith mlynedd bellach mor agos â phosib at Nos Ystwyll, sef Ionawr 6.

Mae'r Fari Lwyd, penglog ceffyl wedi ei addurno, yn rhan bwysig o draddodiadau dathlu'r flwyddyn newydd yn Nghymru a bydd tua chwech Mari wahanol o bob rhan o Gymru yn dod i'r digwyddiad ddydd Sadwrn, Ionawr 19.

Traddodiad sy'n perthyn i ardaloedd cynhyrchu seidr de a gorllewin Lloegr yw'r 'Wassail' sef yr arfer o fendithio'r coed afalau a gofyn am gynhaeaf da yn y flwyddyn sydd i ddod.

Gallwch weld lluniau o'r digwyddiad y llynedd fan hyn.

Yn ogystal â chyfuno'r Fari a'r Wassail, mae na gymysgu a chreu pob math o draddodiadau eraill.


'Pwnco' - neu ganu'r Sosban Fach - ar risiau'r Amgueddfa (Llun: Paul Johnson)

"Dyma'r traddodiad newydd hynaf yng Nghymru!" meddai Mick Lewis, un o'r sylfaenwyr.

"Ar ôl rhannu diod y Wassail a chyfnewid baner y Ddraig Goch a baner San Siôr ar y bont," meddai Mick, "rydyn ni'n dawnsio gyda'n gilydd ac yn gwahodd y Saeson i mewn i Gymru i yfed a dawnsio.

"Mae 'na gannoedd yn dod i'r Cyfarfod ar y Bont, mae'r lle'n llawn.

"Yna rydyn ni'n arwain prosesiwn i'r Amgueddfa i ganu - neu 'pwnco' - gyda'r Fari Lwyd."

Yn draddodiadol her-ganu byrfyfyr rhwng criw y Fari a pherchennog y tŷ oedd pwnco ond mae'r criw yng Nghas-gwent yn ffafrio'r gân rygbi gyfarwydd, Sosban Fach, medd Mick.

Wedi rhoi llwnc destun i'r tÅ· bydd y dathlwyr yn mynd i fwynhau band byw a dawnsio yn nhraddodiad Gwyddelig y Ceilidh.

Mae'r dathliadau'n gymysgedd o rialtwch, cyflwyno dramâu, dawnsio, canu a dathlu ac eleni, mae'r Dyn Gwyrdd yno hefyd sy'n cael ei gysylltu'n bennaf â'r Gwanwyn.


Mae sawl math gwahanol o benglog ceffyl o bob rhan o Gymru a Lloegr yn ymddangos yn y dathliadau (Llun: Paul Johnson)

Cafodd Mick a'i gyfaill Tim Ryan help ariannol gan y Llywodraeth drwy Trac Cymru i adfywio traddodiad y Fari Lwyd yng Nghas-gwent yn wreiddiol. Er fod Trac Cymru bellach yn cynnig Mari Lwyd 'flat pack' aeth Mick ati i baratoi penglog ceffyl yn y ffordd draddodiadol a'i gosod ar bicwarch drwy ddarllen hen gofnodion a llyfrau.

Yr ysbrydoliaeth tu ôl i'r digwyddiad yng Nghas-gwent ydy'r Dawnswyr Morris 'Cymreig' lleol, y Widders - criw o ffrindiau a chyn feicwyr sy'n dawnsio Morris ac yn gwisgo dillad rhacsiog, het uchel ac yn paentio eu wynebau'n ddu. Maen nhw'n cyd-drefnu'r diwrnod ac yn rhan fawr ohono.

Daeth y syniad o gyd-ddathlu gyda'r Saeson pan sylwon nhw ar y coelcerthi a'r dathliadau Wassail ar ochr arall yr afon a'u gwahodd i ymuno â nhw gan fynd ati i'w gwneud yn ŵyl flynyddol.

Un peth diddorol mae'r ŵyl yn ei amlygu ydy fod 'na draddodiadau gwahanol yn ymwneud â phenglog ceffyl yn perthyn i rannau o Loegr a thu hwnt hefyd, fel yr Obby Oss yng Nghernyw, y Laare Vane (Y Gaseg Wen) o Ynys Manaw a'r Poor Awd Oss o Ogledd Lloegr sy'n gwneud ymddangosiad yn yr ŵyl hon.

Mae gwreiddiau'r symbol hwn yn ddwfn mewn arferion hynafol o'r cyfnod cyn-Gristnogol ac, yn ôl rhai, yn adlewyrchiad o'r cyfnod pan ddaeth y ceffyl yn anifail mor werthfawr i ddyn. Cred eraill ei fod yn gysylltiedig â chwedl Rhiannon yn y Mabinogi neu â seremonïau ffrwythlondeb.

Â鶹ԼÅÄ iD

Llywio drwy’r Â鶹ԼÅÄ

Â鶹ԼÅÄ Â© 2014 Nid yw'r Â鶹ԼÅÄ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.