Â鶹ԼÅÄ

« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

OMA - Canu clodydd gwÅ·r enwog

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü: ,Ìý,Ìý

Glyn Evans | 13:43, Dydd Gwener, 16 Rhagfyr 2011

Does yna ddim amheuaeth am boblogrwydd Only Men Aloud. Nid yn unig dyblu’r gân yng nghyngerdd agoriadol Eisteddfod Genedlaethol Glynebwy ddwy flynedd yn ôl ond hefyd fwy na dyblu’r gynulleidfa.

Ìý

Yn ôl y ffigurau fe wnaethon nhw ddenu tair mil a chant o bobol o gymharu â mil a hanner y tri thenor yn Wrecsam eleni a mil dau gant cyngerdd agoriadol Y Bala dair blynedd yn ôl.

Ìý

Ac yr oedd y gynulleidfa ar ei thraed rhwng eitemau yn cymeradwyo. Gwefreiddiol.

Ìý

Ac yng Nglynebwy – lle cyflwynwyd Only Boys Aloud – fel ag ym mhob perfformiad arall yr oedden nhw yn dra arbennig a’r arweinydd, Tim Rhys-Evans yn ddiferol o chwys yn cerdded oddi ar y llwyfan.

Only Men Aloud: Y Llyfr/The BookÌý gan Bethan Mair ac Emyr Young. Gomer. £14.99.

ÌýErs cychwyn mewn capel dinod yn Nhredegar Newydd mae’r côr hwn wedi gwefreiddio a chreu argraff gyda’i newydd-deb gwreiddiol ym mhobman mae wedi perfformio. Dim rhyfedd iddo gipio gwobr Last Choir Standing ar ei ffordd.

Ìý

A nawr, ar gyfer y Nadolig cyhoeddir llyfr y côr. Cyfrol ddwyieithog, fel y côr ei hun, wedi ei chyhoeddi gan Wasg Gomer.

Ìý

Mae’n gyfrol ysblennydd, deilwng, wedi ei phacio’n dynn â lluniau trawiadol gan Emyr Young, nad yw’n gaelÌý cydnabyddiaeth hanner digon amlwg o fewn y llyfr.

Ìý

Yn wir rhaid wrth grib go fân i ddidoli awduriaeth y lluniau er mai nhw sy’n gwneud y gyfrol yn un mor apelgar a chyffrous. Hoffais yn arbennig y lluniau anffurfiol heb eu ‘gosod’ ar gyfer y camera.

Ìý

Does ond rhaid agor y clawr i ddwy ddalen o draed i weld bod tynnwr lluniau â llygaidÌý am y gwreiddiol a'r gwahanol ar waith yma. Mae’r safon yn glodwiw. ÌýÌý

Ìý

Ochr yn ochr â hwy datgelir mewn print ffeithiau am aelodau unigol trwy ddull cwestiwn ac ateb digon ystrydebol – Pa gerddoriaeth sydd wedi cael dylanwad arnat ti? Wyt ti wedi profi unrhyw droeon trwstan ar lwyfan ac yn y blaen.

Ìý

Yn eu hamser hamdden prin chwaraeant bêl-droed pump bob ochr yn erbyn ei gilydd y baritôns Ìýyn erbyn pawb arall!

Ìý

Mae Cian Brennan Gavin, bariton, yn dwli ar golff a thenis. Ganwyd Andy Mulligan, baswr, yn Warrington ac mae’n mwynhau coginio a chadw ieir! Gwrando ar ÌýOasis yw diléit Dafydd Rhys, bariton, ac un tro bachodd ei droed yn ffrog Shan Cothi wrth ddawnsio mewn fersiwn o Hello Dolly.Ìý

Ìý

ÌýLlysenw Tim Nelson, baswr, ydi ‘The Admiral’ ar ôl y Nelson arall hwnnw ac mae Rob Garland, bariton, yn glerc lleyg yn Eglwys Gadeiriol Llandaf ac yn lLlywydd fyfyriwr yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru.

Ìý

Aelod sy’n hanu yn bell o Gymru yw’r ail denor Hugh Strathern a anwyd ym Mhapua New Guinea ond yn awr wedi gwirioni ar ganu yn Gymraeg gan ddweud bod ein llafariaid yn hyfrydwch i’r llais!

Ìý

Ond yn y pen draw, cyffro, bywiogrwyddÌýa threiddgarwch y lluniau sy’n gwneud hon yn gyfrol mor apelgar a thrueniÌý na allwyd trosglwyddo mwy o’r cyffroÌýa’r bywiogrwydd hwnnw i’r sgrifennu hefyd – ond go brin y bydd hynny yn mennu ar yr amryfal gefnogwyr hynny a fyddai wrth eu boddau cael Only Men AloudÌý - Y Llyfr, hynny yw - Ìýwrth droed eu gwely fore Nadolig.

Â鶹ԼÅÄ iD

Llywio drwy’r Â鶹ԼÅÄ

Â鶹ԼÅÄ Â© 2014 Nid yw'r Â鶹ԼÅÄ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.