Â鶹ԼÅÄ

« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Holi a holi

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Glyn Evans | 10:32, Dydd Iau, 1 Rhagfyr 2011

Petha digon prin yn y Gymraeg ydi llyfrau cwis ond mewn da bryd ar gyfer y Nadolig cyrhaeddodd Pam, Pwy, Pryd, Ble gan Tomos Morse.

"Llyfr cwis ardderchog i bawb at bob achlysur," meddir ar y clawr.

Wel, mi fydden nhw'n dweud hynny yn byddent!

Clawr y llyfr

Fe'i rhannwyd yn chwe rhan gan gychwyn gyda deugain cwis cyffredinol cyn symud ymlaen i Deledu Ffilm a Radio, Y Byd a'r Betws, Chwaraeon, Y Degawdau a Cymru.

Hoffais yn arbennig adran "Pwy Ydw i" ar ddiwedd y llyfr.

Er enghraifft; "Fe'm ganwyd yn Nowlais yn 1925. Dechreuais fy musnes byd-enwog ar fwrdd y gegin (gwn yr ateb nawr!) gan ddefnyddio sgrin sidan fy ngŵr yn Pimlico. Enw gwreiddiol y cwmni oedd Ashley Mountney. Pwy ydw i?"

Mae Tomos Morse yn disgrifio ei hun fel "dipyn o ffeithgi" gan ddweud i'w ddiddordeb gychwyn pan oedd yn chwech oed, ar ôl prynu Quinlan's Illustrated Dictionary of Film Stars yn siop Lear's Caerdydd yn 1981.

"Roedd rhywbeth am fformat y llyfr wedi cydio ynof: lluniau'r actorion, eu henwau llwyfan, eu henwau go iawn, y dyddiadau, y bywgraffiadau, a'r rhestrau manwl o'u ffilmiau.

"Byddwn yn pori drwy'r llyfr bob munud a phob awr o'r dydd pe cawn gyfle," meddai.

Lluniai Tomos ei restrau ei hun hefyd : actorion o Gymru, actorion â sbectol, actorion â mwstashis ac ati - a wnaeth o ddim cyfyngu ei hun i ffilmiau ac ymddiddorodd mewn rygbi, pêl-droed, gwleidyddiaeth, hanes a "wynebau cyhoeddus Cymru".

"Mae ei stôr o wybodaeth ar hyd y blynyddoedd wedi bod o gymorth mawr iddo wrth fynd ati i lunio'r llyfr cwis hwn," meddai'r cyhoeddwyr, Gomer.

  • Pam, Pwy, Pryd, Ble? Gan Tomos Morse, Gwasg Gomer, £4.99.

Â鶹ԼÅÄ iD

Llywio drwy’r Â鶹ԼÅÄ

Â鶹ԼÅÄ Â© 2014 Nid yw'r Â鶹ԼÅÄ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.