Â鶹ԼÅÄ

« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Mae'n rap

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Glyn Evans | 15:00, Dydd Llun, 1 Awst 2011

Pe digwydd ichi fod yng nghyffiniau pabell mentrau Iaith Cymru mae gwahoddiad ichi chi gyfrannu at gerdd i'w rapio gan Aneirin Karadog.

Yn gyflwynydd Wedi 7, yn fardd ac yn rapiwr o fri gosododd Aneirin linell gyntaf cerdd 'Rap yr Eisteddfod' a gwahodd ymwelwyr â'r babell i ychwanegu llinellau.

Aneirin Karadog ac Ifan Prys - a'r gerdd

Ac os nad ydych yn rapiwr profiadol - wel mae Aneirin yno i gymell, cymhennu a chaboli.

Gyda'r llinell gyntaf, "Fi yw'r Steddfod a dwi'n gwybod" yr Eisteddfod ei hun sy'n siarad ac ymhlith y llinellau sydd wedi eu hychwanegu hyd yn hyn mae;

"Dwi'n llawn o ffrisbis, well gen i Stwnsh na Ceebibîs" gan symud ymlaen i drafod y coroni pnawn ma a'r Goron yn rhodd gan y Seiri Rhyddion.

Piciwch draw, mae'n dipyn o hwyl.

Dim ond un o weithgareddau'r wythnos ym mhabell Mentrau Iaith Cymru (209) yw hyn. Yfory bydd Carioci Cymraeg rhwng 1200 a phedwar, Sesiwn Ukelele yr un amser ddydd Mercher, Canu dawns meim a stori ddydd Iau, Creu cymeriadau cartŵn ddydd Gwener a Stori a Chân ddydd Sadwrn.

Fel maen nhw'n dweud , Uts a rap . . .

Mwy o'r Eisteddfod: Canlyniadau, gwylio'n fyw, straeon, clipiau teledu, blogiau a newyddion o'r Maes.

Â鶹ԼÅÄ iD

Llywio drwy’r Â鶹ԼÅÄ

Â鶹ԼÅÄ Â© 2014 Nid yw'r Â鶹ԼÅÄ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.