Â鶹ԼÅÄ

« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Eisteddfod go iawn

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Rhun ap Iorwerth Rhun ap Iorwerth | 13:24, Dydd Iau, 4 Awst 2011

Newydd fod am dro o gwmpas y maes.

"Ydach chi yma am yr wythnos?" Y cwestiwn yn cael ei ofyn filgwaith. Mae sŵn Soprano yn canu yn dod o uchelseinydd gerllaw. Mae yna bobl mewn welingtons. Mae'n eisteddfod go iawn!

Es i draw i'r Lle Celf am y tro cyntaf yr wythnos yma, a braidd yn siomedig o'n i. Efallai mai cymharu'r arddangosfa â'r gampwaith y llynedd yr oeddwn i. Roedd y lleoliad ei hun bryd hynny yn mynd â'ch anad. Roedd wedi'i lleoli dan y ddaear mewn rhan o'r hen weithfeydd dur yng Nglyn Ebwy, ac roedd sawl darn o gelf yno oedd yn gwneud i rywun aros a sefyll a meddwl yn hir. Ac edmygu.

Heddiw, y ffotograffau wnaeth greu'r argraff fwyaf, ac un ohonyn nhw'n arbennig. Wn i ddim pam, ond roedd y llun o ddynes ifanc mewn gwisg wen yn gadael ei thŷ teras i fynd i ymuno a'r orsedd yn Eisteddfod Gwnedlaethol Caernarfon 1959 yn drawiadol. Mae ei diniweidrwydd hi yn fy nharo, ond fwy na hynny y balchder cynnil ar wyneb yr hen ŵr (ei thad, efallai) wrth ei hymyl. Mi af yn ôl i'r Lle Celf eto i weld beth fydd yn creu'r argraff ar yr ail olwg.

Yn y cyfamser, dyfodol darlledu ydi un o'r prif destunau trafod ar y maes heddiw, gyda Chymdeithas yr Iaith yn trefnu protest ynglyn â dyfodol S4C. Rwy'n edrych mlaen i fwrw golwg nôl ar weithgareddau'r dydd yng nghwmni Cadeirydd y sianel, Huw Jones, yn ein rhaglen uchafbwyntiau am naw heno, yn ogystal â'r bardd Menna Elfyn.

Rhyfedd meddwl bod Eisteddfod Wrecsam a'r Fro 2011 yn dechrau tynnu tua'i therfyn...

Â鶹ԼÅÄ iD

Llywio drwy’r Â鶹ԼÅÄ

Â鶹ԼÅÄ Â© 2014 Nid yw'r Â鶹ԼÅÄ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.