Â鶹ԼÅÄ

« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Argraffiadau cyntaf Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam 2011

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Rhun ap Iorwerth Rhun ap Iorwerth | 13:40, Dydd Sadwrn, 30 Gorffennaf 2011

Mae argraffiadau cyntaf yn rhai pwysig meddan nhw, ac os felly mae'n argoeli'n dda i Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam a'r Fro 2011. Maes bendigedig, (gyda digon o le i'r picnics na chafwyd ar safle carregog yr hen waith dur yng Nglyn Ebwy y llynedd), mae'r safle'n un cyfleus i'w gyrraedd oddi ar ffordd yr A483 ac yn agos at y dref, a'r carafannau a phebyll o fewn tafliad carreg i faes yr Eisteddfod ei hun...Ac mae yna haul, wel, mor belled!

Welais i fawr o faneri a fflagiau ac ati i groesawu'r eisteddfod i'r fro wrth ddod mewn o'r gorllewin - dewch, bobl Bersham! Ond a bod yn deg, dwi ddim eto wedi cael cyfle i fynd i'r cyfeiriad arall eto, tua tref Wrecsam. Ond heb os mae 'na frwdfrydedd mawr ymhlith y rheiny sydd wedi bod yn gweithio mor galed yn yr ardal dros y blynyddoedd diwethaf i baratoi am y brifwyl.

Dwi'n edrych ymlaen i gael cyflwyno rhaglenni nos fymryn yn wahanol eleni. Mi fyddwn ni'n darlledu'n fyw bob nos o'n stiwdio ar y maes, yn crynhoi'r holl gystadlu ac yn rhoi blas i chi o'r amrywiol weithgareddau o gwmpas y maes a thu hwnt.

Ond hefyd eleni bydd gwesteion arbennig yn cadw cwmni i fi yn nosweithiol. Mi gawn ni gyfle i drafod gweithgareddau'r dydd ond hefyd bydd siawns i rannu profiadau eisteddfodol dros y blynyddoedd a thrafod ambell i bwnc llosg.

Heno, bydd y barnwr a'r arweinydd llwyfan, Nic Parry, yn gwmni i fi, yn ogystal â Prydwen Elfed Owens. Hi ydi Llywydd Llys yr Eisteddfod, nid Llywydd ''Llŷr" yr Eisteddfod, fel y dwedais i ar S4C y bore 'ma mae'n debyg! Ymddiheuriadau am hynny. Pwy yw Llŷr tybed? Efallai y dof i o hyd iddo fo ar fy nheithiau o gwmpas y maes dros yr wythnos nesaf!

Â鶹ԼÅÄ iD

Llywio drwy’r Â鶹ԼÅÄ

Â鶹ԼÅÄ Â© 2014 Nid yw'r Â鶹ԼÅÄ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.