Â鶹ԼÅÄ

« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Nia yn Abertawe - dydd Mawrth

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Blogiwr Gwadd | 08:50, Dydd Mercher, 1 Mehefin 2011

Mae Nia Lloyd Jones o Â鶹ԼÅÄ Radio Cymru yn blogio bob dydd o gefn y llwyfan. Dyma gyfraniad dydd Mawrth.

Gweld y Bliws
Ymddiheuriadau cyn cychwyn heddiw nad oes gen i fawr o luniau -yn anffodus mae'r camera wedi torri, a chyn i neb ddweud dim - nid y fi oedd ar fai!


Nia a'r Band!

Wel fe gawson ni lond lle o offerynwyr ar y llwyfan heddiw ar gyfer cystadleuaeth gynta'r dydd - y gerddorfa neu fand blwyddyn 6 ac iau - a dydi o'n syniad gwych bod yr Urdd yn cynnal y rhagbrawf ar y llwyfan, a bod pawb yn cael y cyfle i berfformio yn y pafiliwn?

Roedd hi'n gystadleuaeth dda hefyd , a llongyfarchiadau mawr i Ysgol Gymraeg Aberystwyth, Ysgol Gynradd Pontrobert ac i griw y 'Blues Brothers' Ysgol Gynradd Llanfairpwll ar ddod i'r brig.

Seiniau Sbaenaidd
Un o'r enwau mwyaf diddorol dwi wedi ei glywed hyd yma ydi enw Steffan Ortega-Davies - oedd yn cystadlu ar yr unawd llinynnol. Sbaenwr ydi tad Steffan ac felly dyna egluro'r enw!

Mae Steffan yn siarad Sbaeneg yn rhugl ac yn chwarae'r soddgrwth (cello), ac wrth gwrs mae o'n rhannu ei enw hefo Steffan arall sydd yn unawdydd o fri - sef Steffan Morris (oedd yn perfformio yn y cyngerdd nos Sul), ac mae Steffan M wedi rhoi ambell i wers i Steffan O D.

Dw i newydd weld Steffan Morris ar y maes hefyd ac mae o erbyn hyn yn astudio yn Awstria, ond yn falch iawn o gael bod adre ar gyfer yr Eisteddfod eleni.

Ymgom dau
Ianto a Mali Elwy enillodd gystadleuaeth yr ymgom heddiw. Brawd a chwaer ydyn nhw o Ysgol Gynradd Bro Aled, ac mi roedd hon yn sioe deuluol go iawn gan mi eu brawd mawr nhw - Morgan oedd yn gyfrifol am eu hyfforddi nhw ar y cyd hefo Magi - sydd yn byw ar draws y cae i'w cartref nhw!

Fe fu Morgan a Magi yn cystadlu yn y gystadleuaeth hon yn y gorffennol hefyd - gan gael llwyddiant mawr, felly braf iawn oedd gweld bod y traddodiad a'r diddordeb yn parhau.

O'r Port
Un o'r ysgolion dwi bob amser yn edrych ymlaen at eu gweld gefn llwyfan ydi Ysgol Eifion Wyn, Porthmadog. Dyma chi griw o rafins go iawn! Mi roedd y creaduriaid wedi cael siwrne hir ar y bws o Port, a sawl un a'i stumog yn troi.

Ben oedd y callaf ohonyn nhw - wedi dod i lawr yn y car efo mam gan fynd 'dow dow'!!

A sôn am fynd - dymuniadau gorau i'r prifathro, Ken Hughes - sydd yn ymddeol y Nadolig. Mae o wedi gweithio mor galed yn cefnogi'r Eisteddfod ar hyd y blynyddoedd, a dwi wir yn gobeithio y bydd o dal yn dod i gefn llwyfan am sgwrs.

Â鶹ԼÅÄ iD

Llywio drwy’r Â鶹ԼÅÄ

Â鶹ԼÅÄ Â© 2014 Nid yw'r Â鶹ԼÅÄ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.