Â鶹ԼÅÄ

« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Canwr y Byd Caerdydd 2011 - Diwrnod cyntaf

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Gwyn Griffiths | 05:59, Dydd Llun, 13 Mehefin 2011

Braf oedd dianc o'r glaw i gynhesrwydd tywyll y Theatr Newydd ar gyfer cychwyn yr ŵyl a elwir yn Â鶹ԼÅÄ Canwr y Byd Caerdydd 2011. A phrynhawn o bleser cyffrous oedd o.

I gychwyn, yr oedd cynrychiolydd Cymru, John Pierce y tenor llawn afiaith o Dreffynnon, ymysg y cystadleuwyr cyntaf ar y llwyfan yn y gystadleuaeth am y Wobr Datganiad.

Cafwyd rownd gyntaf deilwng o gystadleuaeth sydd yn ymsefydlu fel prif gystadleuaeth unawdwyr clasurol y byd, ffenest siop dyfodol yr opera.

Gosod safon i'r wythnos
Yn gyntaf ar y llwyfan yn ei du dirodres daeth Olesya Petrova, mezzo-soprano 28 oed o Rwsia a chawsom bum cân ganddi, pob un o waith cyfansoddwr gwahanol.- Mahler, y Sbaenwr de Falla, Fauré, a dau gyfansoddwr o'i gwlad ei hun,Tchaikovsky a Shostakovich.

Dyma gyfoeth o lais, er nad oedd ei nodau uchel bob amser yn swynol.

Contralto fuasem yn ei galw yn yr hen amser ac un ardderchog gan osod safon i'r wythnos fel y gallwn edrych ymlaen yn hyderus i'w chlywed yn canu gyda Cherddorfa Genedlaethol y Â鶹ԼÅÄ yn y brif gystadleuaeth yn Neuadd Dewi Sant heno (nos Lun).

Amharwyd ar berfformiad yr ail gystadleuydd, Maria Roedova, y soprano 26 oed o Fwlgaria, gan nerfusrwydd. Clywsom ambell gychwyn ansicr ganddi ac nid oedd ei llais bob amser yn ddymunol i wrando arno.

Canodd ddwy gân o waith Debussy, dwy gan Richard Strauss a hwiangerdd o'i gwlad ei hun o waith Liubomir Pipkov.

Nid oedd llawer o amrywiaeth yn ei dewis a bydd yn ddiddorol i ganfod sut y bydd hi'n dygymod â'r dasg o ganu gyda Cherddorfa'r Â鶹ԼÅÄ heno.

John Pierce, fel y gellid disgwyl, gafodd groeso cynhesaf y noson. Dyma wir berfformiwr cyntaf y gystadleuaeth. Canodd ddwy gân o waith y cyfansoddwr Seisnig, Roger Quilter ac yna gân Dilys Elwyn-Edwards i eiriau R Williams Parry - Mae hiraeth yn y môr.

Hon oedd yr unig gân Gymreig a glywsom erioed yng nghystadleuaeth Canwr y Byd Caerdydd. Fe'i canwyd, hefyd, yn rownd derfynol y Datganiad gan Natalya Romaniw yn 2009.

Cawsom berfformiadau ardderchog ganddo o'i dair cân gyntaf. Aeth rhagddo i ganu i ni dair cân Eidalaidd, dwy gan Tosti ac un gan Puccini. Mae yna hen ddywediad sy'n honni mai Eidalwyr yn y Glaw yw'r Cymry.

John Pierce - fel Eidalwr

Prynhawn ddoe yr oedd John Pierce yn swnio pob nodyn fel Eidalwr. Yr oedd yn mynd rhagddo o nerth i nerth a gyda'r caneuon y cyrhaeddodd ei binaclau. Nid oes tenor o Eidalwr yn y gystadleuaeth eleni ond y mae gennym ni denor Eidalaidd - Cymro!

Pan enillodd John y Gystadleuaeth i Gantorion Cymreig 2010, sef y gystadleuaeth i ddewis cynrychiolydd Cymru ar gyfer Â鶹ԼÅÄ Canwr y Byd Caerdydd fe'i gwelsom yn codi i wastad uwch pan ganodd gyda cherddorfa a dangos fod ganddo'r ddawn a'r asbri i gyrraedd pinaclau'r byd opera.

Cefais air sydyn ag e wrth inni adael y Theatr Newydd a mentro allan i'r glaw a dywedodd ei fod yn fodlon iawn gyda'i berfformiad ac yr oedd y wên ar ei wyneb yn cadarnhau hynny.

Yr oedd, meddai, yn barod am yr her o ganu i gyfeiliant Cerddorfa'r Â鶹ԼÅÄ yn Neuadd Dewi Sant nos Fercher.

Yr oedd, hefyd, wedi plesio'r gynulleidfa ac yr oedd canmol mawr ar y cawr ifanc 28 oed.

Yr olaf o gystadleuwyr sesiwn gyntaf y Datganiad oedd cynrychiolydd Canada, soprano odidog, 25 oed, Sasha Djihanian - a dyma seren arall.

Dwy gân o waith Dvořák; Thy dark eyes to mine, geiriau Fiona Macleod (William Sharp) wedi ei gosod i gerddoriaeth yr Americanwr Charles Griffes; un o waith Richard Strauss a Chère Nuit gan y Ffrancwr Alfred Bachelet.

Llais soprano bendigedig ac iddo ddyfnder mezzo a pherfformiad cyfareddol. Bydd hi'n perfformio eto nos yfory (nos Fawrth) yn Neuadd Dewi Sant gyda Cherddorfa Opera Cenedlaethol Cymru.

Rwy'n meddwl bod hon yn un gwerth mentro swllt neu ddau arni a gobeithio y cawn weld John Pierce ar llwyfan y rownd olaf un o'r cystadlaethau.

Ac nid ddylem anghofio'r ferch o Rwsia - mae gan hon lais.


Nos Sul
Siom yn troi'n wefr
Newidiwyd y drefn eleni a chynhaliwyd ail rownd y Wobr Datganiad neithiwr, eto yn y Theatr Newydd.

Yn y gorffennol cychwynnwyd cystadleuaeth Â鶹ԼÅÄ Canwr y Byd - y brif gystadleuaeth - ar y nos Sul. Golyga hyn y byddwn wedi clywed tair rownd ragbrofol cystadleuaeth y Datganiad cyn cychwyn cystadleuaeth Canwr y Byd 2011.

Tebyg fod manteision i hyn - o leiaf mae wedi sicrhau cynulleidfa deilwng i ddwy rownd ragbrofol cyntaf y Datganiad. Yn y gorffennol bu cynulleidfaoedd y prynhawn o ddydd Llun ymlaen yn denau. Cawn weld.

Cychwynnodd neithiwr gyda dwy siom. Yn gyntaf daeth y newydd yn ystod y dydd fod y baritôn o Wlad Pwyl, Szymon Komasa, yn anhwylus a wedi tynnu allan o'r gystadleuaeth yn gyfan gwbl.

Yn ei le galwyd ar y gantores wrth gefn, soprano 30 oed o'r enw Olga Kindler o'r Swisdir.

Yna, wrth i ni gyrraedd y Theatr Newydd, daeth y newydd fod Marcela González, y soprano o Chile, hefyd yn anhwylus a wedi penderfynu peidio canu yng nghystadleuaeth y Datganiad i roi cyfle i'w llais adfer ar gyfer y brif gystadleuaeth.

Felly tri chystadleuydd oedd yna neithiwr. Dyna'r newyddion drwg. Y newyddion da oedd i ni gael perfformiadau ardderchog eto.

Mae China ymhlith gwledydd mwyaf llwyddiannus Â鶹ԼÅÄ Canwr y Byd Caerdydd - cyrraedd rownd derfynol y brif gystadleuaeth bedair gwaith a'i hennill ddwywaith.

Mae gan y wlad gystadleuydd ardderchog eleni eto, Wang Lifu , baritôn 24 oed o dalaith Shandong.

Gŵr gyda llais rhyfeddol o aeddfed i un mor ifanc - y math o aeddfedrwydd a welsom gan Fryn Terfel pan oedd yntau tua'r un oed.

Dyfnder o lais, cyfareddol a melys fel siocled da. Llais sy'n medru plymio dyfnderoedd baswr o'r iawn ryw. Ar ben hynny mae'n berfformwr sydd eisoes â graen orffenedig i'w ganu.

Hyfrydwch pur oedd ei berfformiad o La vie antérieure, cerddoriaeth Duparc i gerdd gan Baudelaire. Dyma un a chanddo'r llyfnder llais i ganu lieder, a rhoddodd gyflwyniad campus o Der Müller und der Bach gan Schubert.

Dyma ganwr arall y medrwn edrych ymlaen yn awchus i'w glywed yn canu gyda Cherddorfa'r Opera Cenedlaethol nos yfory (nos Fawrth).

Meeta Raval, soprano 28 oed o dras Asiaidd, sy'n cynrychioli Lloegr.

Yr oedd ar ei gorau yn canu yn Ffrangeg, un arall o alawon Duparc a geiriau Baudelaire, a dwy gân Saesneg - y naill gan Ivor Gurney a'r llall gan Frank Bridge.

Ni feddai'r llyfnder na'r tynerwch i wneud cyfiawnder gyda'r ddwy gân a ddewisodd o waith Schubert.

Yna cawsom sioc fawr y noson. Ganwyd Olga Kindler, soprano 30 oed, yn Odessa yn yr Wcráin. Ond gan iddi fyw yn Y Swistir cyhyd, dewisodd gynrychioli ei gwlad fabwysiedig. Beth bynnag, mae gan Wcráin gynrychiolydd.

Pan fu raid i Szymon Komasa o Wlad Pwyl dynnu'n ôl oherwydd salwch, hi oedd yr un wrth gefn i gymryd ei le. Anodd esbonio pam mai wrth gefn oedd hon ac nid yn un o'r ugain a ddewiswyd yn wreiddiol.

Soprano? Mae gan hon lais o'r nodau cyfoethog isel i'r nodau uchaf gwefreiddiol. Dyma un arall o'r cantorion gorffenedig a'i doniau wedi eu llyfnhau i berffeithrwydd. Cyrhaeddodd yr uchelfannau gyda'i chyflwyniad o Song of the Wood Dove gan Schoenberg.

Cantores arall y bydd yn fraint ei chlywed gyda cherddorfa lawn - yn ei hachos hi, Cerddorfa'r Opera nos yfory (nos Fawrth).

Mae nosweithiau mawr yn ein haros.

Â鶹ԼÅÄ iD

Llywio drwy’r Â鶹ԼÅÄ

Â鶹ԼÅÄ Â© 2014 Nid yw'r Â鶹ԼÅÄ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.