Â鶹ԼÅÄ

« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Canwr y Byd 2011 - y noson olaf

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Gwyn Griffiths | 05:47, Dydd Llun, 20 Mehefin 2011

Bu Gwyn Griffiths yn blogio bob dydd o gystadleuaeth Â鶹ԼÅÄ Canwr y Byd Caerydydd 2011. Dyma sut yr aeth hi nos Sul, yn noson olaf.

Valentina yw Canwr y Byd 2011
Cantorion o ddwy wlad o Ddwyrain Ewrop, gwledydd fu'n rhan o'r Undeb Sofietaidd, gipiodd yr holl wobrau yn Â鶹ԼÅÄ Canwr y Byd 2011. Valentina Naforniţă y soprano hardd o Moldova - yr ieuengaf yn y gystadleuaeth gafodd y brif wobr nos Sul, yn Neuadd Dewi Sant.

Valentina - wedi ennill

Am y tro cyntaf, yr oedd y gynulleidfa yn Neuadd Dewi Sant a chynulleidfaoedd ehangach y teledu a'r radio yn cytuno gyda'r beirniaid.

Valentina Naforniţă, hefyd, gafodd Wobr y Gynulleidfa, bellach wedi ei henwi'n Wobr y Fonesig Joan Sutherland, un o feirniaid cyntaf y gystadleuaeth a'i noddwr cyntaf hyd ei marw'n ddiweddar.

Gydag Andrei Bondarenko y bariton o'r Wcráin wedi cipio Gwobr y Datganiad nos Wener aeth y gwobrau i gyd i'r ddwy wlad ym mhellafoedd Ewrop.

Dau boblogaidd iawn fuon nhw drwy'r wythnos, perfformwyr a gipiodd galon y gynulleidfa yn ogystal a'r gwobrau.

Er hynny, teimlais i'r Rownd Derfynol fod yn llawer closach nag oeddwn wedi ei ddisgwyl.

Wedi cychwyn simsan yn y Datganiad ar y Sul cyntaf, mynd rhagddi o nerth i nerth wnaeth y Saesnes Meeta Raval . Soprano, gyda nodau isel cyfoethog a chanddi'r gallu i ganu'r darnau tawel yn odidog.

Y pump yn y rownd derfynol

Dewisodd raglen anoddach nag yn y rownd flaenorol ac yr oedd ei pherfformiad dramatig o Sola, perduta, abbandonata allan o Manon Lescaut gan Puccini yn gyflwyniad angerddol ddramatig. Perfformiad hyderus ac yr oedd yn amlwg yn credu bod ganddi obaith gwirioneddol o'r wobr.

Os rhywbeth yr oedd Olesya Petrova yn well eto. Y ddwy yn 28 oed, nhw oedd yr hynaf ar ôl yn y gystadleuaeth, dwy'n aeddfed am yrfa ar lwyfannau opera'r byd.

Mae gan Olesya lais mezzo bendigedig. Cawsom ddarnau ganddi allan o The Tsar's Bride gan Rimsky-Korsakov, Un ballo in maschera gan Verdi, Cavalleria rusticana gan Mascagni, a Carmen gan Bizet. Yr oedd ei chanu'n llawn dwyster.

Mae'r hyn yr oedd y merched yma - a'r cystadleuwyr eraill - yn ei gyflawni yn rhyfeddol. Mae cyflwyno cynifer o ganeuon - tair yn achos Meeta, pedair gan Olesya - yn gamp aruthrol. Llithro o iaith i iaith, o wahanol gerddoriaeth ac emosiwn. Mae'n anodd dirnad anferthedd y dasg.

Dewisodd Hye Jung Lee y soprano o Dde Corea ddwy gân yn unig. Canodd Tornami a vagheggiar allan o Alcina, yr opera dair act gan Handel ac yna A vos jeux, mes amis allan o'r opera mewn pum act, Hamlet, gan Ambroise Thomas.

Er cyfyngu ei hun i ddwy aria dangosodd fod ganddi'r gallu i ganu unrhyw beth. Yr oedd ei nodau uchaf fel grisial ac ni ellid ond rhyfeddu at ei gallu i liwio'r nodau hynny. Dyma wir soprano goloratwra yn perfformio gyda hyder a swyn.

Yr oedd Hye Jung Lee wedi canu ar y nos Iau ac eto nos Sul. Cyn nos Sul, perfformio ddechrau'r wythnos wnaeth Meeta ac Olesya.

Y ddau ifanc dynnodd y blewyn cwta. Yr oedd Valentina Naforniţă ac Andrei Bondarenko wedi canu nos Fercher, yn eu rownd gyntaf o'r brif gystadleuaeth, yn rownd derfynol y Datganiad nos Wener ac yna nos Sul yn Rownd Derfynol y brif gystadleuaeth.

Oedd ôl blinder ar ganu'r ddau? Oedd, meddai rhai oedd yn gwybod mwy ac yn llawer craffach na mi.

Andrei Bodarenko oedd y cyntaf o'r ddau ifanc ar y llwyfan. Yr oedd y gynulleidfa yn ei law o'r cychwyn - fel y bu ers ei glywed gyntaf brynhawn Llun.

Cyflwynodd raglen boblogaidd y tro hwn - allan o Cosi fan Tutte ac o Don Giovanni gan Mozart, Don Carlo gan Verdi, a The Queen of Spades gan Tchaikovsky.

Mae ei gyffyrddiadau fel actor yn ysgafn, cynnil, chwareus, a dramatig yn rhyfeddol. O fachgen ifanc mae ei ddoniau'n frawychus o aeddfed. Yn ddiamau y mae'n un o ser disglair y dyfodol.

Valentina Naforniţă oedd yr olaf i ganu. Hi oedd ffefryn mawr arall y gynulleidfa. Mae hi'n hardd, yn ifanc ac yn canu fel angyles.

Cawsom dair cân ganddi - allan o Lucia de Lammermoor gan Donizetti, Cân i'r Lleuad gan Dvořák a Chân Waltz Juliette allan o Roméo et Juliette gan Gounod.

Valentina - ennill dau dlws

Cafodd ei churo gan Andrei Bodarenko nos Fercher yn ei rownd gyntaf ac eilwaith ganddo yn rownd derfynol y Datganiad nos Wener ond y tro hwn hi enillodd, gan gipio'r brif wobr gwerth £15,000 a Gwobr Joan Sutherland, gwerth £2000.

Y gwir yw, nid oes neb yn colli yn y gystadleuaeth hon. Oherwydd fe'i cyfrifir y brif gystadleuaeth yn y Byd i gantorion opera a'r neuadd gyngerdd ac y mae unrhyw un sy'n cyrraedd y rownd derfynol yn sicr o yrfa ddisglair. Byddant bob un wedi elwa'n fawr o'r profiad.

Lluniau: © Brian Tarr

Â鶹ԼÅÄ iD

Llywio drwy’r Â鶹ԼÅÄ

Â鶹ԼÅÄ Â© 2014 Nid yw'r Â鶹ԼÅÄ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.