Â鶹ԼÅÄ

« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Dyfyniadau

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Glyn Evans | 12:04, Dydd Gwener, 11 Mawrth 2011

Rhai pethau a glywyd ac a ddarllenwyd yn ystod yr wythnos a fu. Casgliad wythnosol o sylwadau a welwyd yn y wasg ac a glywyd ar y cyfryngau Cymreig.

A beth am rannu ambell i sylw dwys, doniol neu ddifyr a welsoch chi. . .

  • Byddai'n gymysglyd iawn i gael y gair 'Mesur' yn golygu 'Bill' yn Gymraeg a'r gair 'Bil' yn golygu 'Measure' yn Saesneg. Bil yw bil yw bil ac mi fyddwn ni'n newid y rheolau sefydlog i wneud hynny. Bil Llywodraeth leol, bil iechyd, ac yn y blaen, bydd yr enw ar gyfer mesurau newydd. Ond nid yw hynny i'w chymysgu gyda biliau dw^r wrth reswm - Yr Arglwydd Dafydd Elis Thomas yn egluro yn 'Golwg' mai 'Bil' fydd y gair Cymraeg newydd am 'Fesur' yn y Cynulliad. Da gweld hynna wedi'i glirio.
  • Ond diawch roedd hi'n wael - yn blentynnaidd, annoniol, di-raen o wael - Cris Dafis yn 'Golwg' yn lleisio barn sawl un am y rhaglen deledu '.cym' noson Dydd Gŵyl Dewi.
  • Roedd Cymru yn arfer bod y wlad oedd yn ailgylchu leiaf yn y DU; nawr ni sy'n arwain y ffordd - .
  • Does gen i ddim yn erbyn y geifr - ond y maen nhw'n bla i brifathro yn Llandudno lle maen nhw'n difetha coed ffrwythau ac achosi difrod - https://news.bbc.co.uk/welsh/hi/newsid_9420000/newsid_9420000/9420067.stm
  • Mae'n edrych yn wych - hyd yn oed fel blaguryn. Bydd gymaint yn fwy dramatig pan fydd wedi blodeuo - yn bendant yn werth aros amdano - ond hir yw pob aros wrth gwrs - lle mae planhigyn o Chile ar fin blodeuo am y tro cyntaf mewn deng mlynedd.
  • Digon yw dweud fod yna rai pethau na ellir eu cyhoeddi mewn print yn digwydd mewn eglwysi - Iwan Llewelyn Jones mewn llythyr yn 'Y Goleuad'.
  • Y cwbwl mae o iso ei wneud ydi aros yn ei gadair trwy'r dydd, bob dydd, ac mae hynny'n torri nghalon i. A dim ond mater o amser ydi o . . . nes bydd y cyflwr yn symud i'r lefel nesaf pan fydd yn rhaid iddo fynd i gartre nyrsio ac mi fydd hynny'n torri calon fy mam, yn torri fy nghalon i . . . ac yn torri calon pawb sy'n ei nabod o - Robbie Savage, llysgennad y Gymdeithas Alzheimer's mewn cyfweliad yn 'Y Cymro' efo Karen Owen.

Â鶹ԼÅÄ iD

Llywio drwy’r Â鶹ԼÅÄ

Â鶹ԼÅÄ Â© 2014 Nid yw'r Â鶹ԼÅÄ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.