Â鶹ԼÅÄ

« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Doeth dd'wedwrs

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Glyn Evans | 09:16, Dydd Gwener, 21 Ionawr 2011

Gyrru heb yfed, tynged yr iaith wedi hanner can mlynedd ac ergyd i rygbi Cymru - hynny, a phynciau eraill a fu'n destun trafod yn ystod yr wythnos mewn casgliad wythnosol o sylwadau a welwyd yn y wasg ac a glywyd ar y cyfryngau Cymreig.

A beth am rannu ambell i sylw dwys, doniol neu ddifyr a welsoch chi.

  • Roedd hi'n amlwg ei bod hi'n dal gyda diddordeb ynddo i ac fe wnaethon ni ail gynnau'r fflam - roedd e fel petai dim byd wedi newid - Meic Stevens yn wedi 47 o flynyddoedd a symud i Ganada i fyw.
  • Chefais i erioed ffrog fel hon o'r blaen - Siun McClelland, merch 19 oed o Ynys Môn oedd yn cael ei bwlio yn yr ysgol a'i galw'n hyll a thew ond sy'n awr wedi cyrraedd rownd derfynol Miss Wales.
  • Dydw i ddim - ond yr wyf wedi gwylio 'Fireman Sam' - Ed Vaizey AS, y Gweinidog Diiwylliant yn San Steffan, yn ateb y cwestiwn a oedd e wedi gwylio S4C erioed. Ychwanegodd, ei fod wedi ymddangos ar y Sianel fodd bynnag!
  • Diglem - Bethan Williams, cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn disgrifio amgyffred Mr Vaizey o deledu Cymraeg.
  • Fyddai waeth inni gael rhywun o Mars yn weinidog wnelo faint mae Ed Vaizey yn ei ddeall - Susan Elan Jones AS Llafur De Clwyd.
  • Cymaint yw fy mrwdfrydedd tuag at yr achos yma rwy am roi gweddill fy oes iddo - Jane Davidson AC, Gweinidog Amgylchedd Cymru, yn addo dal ati ar ôl gadael y Cynulliad.
  • Beth bynnag yw'ch stori garu Eisteddfodol, rydym yn awyddus i glywed gennych - Mae Gwenllian Carr, Pennaeth Cyfathrebu yr yn chwilio am straeon caru eisteddfodol.
  • Synnwn i ddim mai gwersylloedd yr Urdd yw un o'r llefydd gorau yng Nghymru i ddod o hyd i gariad - Steff Jenkins, Cyfarwyddwr Gwersyll yr Urdd, Llangrannog, a gyfarfu Enfys a ddaeth yn wraig iddo yn Llangrannog ym 1979.

  • Y peth mwyaf diogel i wneud yw peidio yfed o gwbl - Cyngor diamwys Prif Gwnstabl Cynorthwyol Heddlu Dyfed Powys, Nick Ingram, ynglÅ·n ag .
  • Nid diwedd y daith i SL oedd ymreoaeth i Gymru, ond cam tuag at warchod anian ddiwylliannol ac ieithyddol y wlad - Simon Brooks yn yn ateb y cwestiwn beth fyddai Saunders Lewis yn ei feddwl o bethau heddiw, hanner can mlynedd ers traddodi darlith radio 'Tynged yr Iaith'.
  • Ry'n ni'n dal i ddefnyddio dulliau chwyldro heddiw - Bethan Williams, cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg.
  • Mae'n hanfodol bod pobl o bob oedran . . . yn cofio'r Blitz Tair Noson [ar Abertawe] nid dim ond am y difrod a'r rhai a fu farw, ond hefyd am yr ysbryd wedi'r rhyfel a helpodd y dref i adfywio, cyflawni statws dinas a pharhau i ffynnu heddiw - Arglwydd Faer Abertawe, y Cynghorydd Richard Lewis, wrth i Abertawe baratoi i gofio'r bomio adeg yr Ail Ryfel Ryfel Byd.
  • Mae'n rhyfedd iawn bod prosiect sydd wedi'i ddatblygu gan Brifysgol Bangor, sydd wedi'i dargedu at blant ysgol, ar gael yn y Ffrangeg, ond ddim yn y Gymraeg - Alun Ffred Jones AC, yn 'Golwg', am wefan 'Food Dudes' Adran Seicoleg y brifysgol sydd ar gael yn Saesneg, Almaeneg, Eidaleg a Phwyleg hefyd.

  • Mae'n rhaid i mi gyfaddef nad ydi'r gwisgo i fyny yn dod yn naturiol i fi, ond dyna ni . . . - y Barwn Wigley o Gaernarfon yn Sir Gwynedd.
  • Byddwn wrth fy modd mynd allan efo chwaraewr rygbi ac, o ddewis, un a fyddai'n mynd a fi am reid beic ac wedyn i'r dafarn am beint o Guinness - Lucy Evans, 19, o Borthcawl sydd wedi methu a chael partner hyd yn hyn ar y sioe 'Take Me Out' a berodd iddi holi yn y 'Wales on Sunday', "Beth sydd o'i le arnaf i?" Dim o gwbl, yn ôl y llun!
  • Beth am Lobsgows efo sbeisys Affricanaidd, bara brith efo ffrwythau egsotig neu gawl cennin efo ychydig o 'yam'? - Margaret Ogunbanwo o Ngeria sy'n cadw caffi Crochan Blasus ym Mhenygroes, Gwynedd, yn meddwl am bryd addas ar gyfer Dydd Santes Dwynwen yn 'Y Cymro'.
  • Yr ydym wedi trafod y mater yn hir gydag arbenigwyr orthopedig ac Undeb Rygbi Cymru ac yn disgwyl y bydd Adam allan am rhyw wyth wythnos - Chris Towers, ffisio y Gweilch, yn cyhoeddi'r newyddion drwg i rygbi Cymru am y prop Adam Jones.

Â鶹ԼÅÄ iD

Llywio drwy’r Â鶹ԼÅÄ

Â鶹ԼÅÄ Â© 2014 Nid yw'r Â鶹ԼÅÄ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.