Â鶹ԼÅÄ

« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Geiriau o hud

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü: ,Ìý

Glyn Evans | 09:28, Dydd Gwener, 26 Tachwedd 2010

Addo tywydd mawr i wlad fach, dirgelwch pen mawr un o'n hactorion mawr, dirgelwch S4C - dim ond tri o'r pethau i'n hargoffa o'r wythnos a fu. Dyfyniadau o'r Wasg a'r Cyfryngau Cymreig.

A gwahoddiad i chwithau rannu gyda ni y doniol, y difyr neu'r dwys a welsoch chi. Anfonwch nawr . . .

  • Mae cynghorau wedi dysgu gwersi ac yn barod ar gyfer y tywydd gaeafol - yn ymateb i'r darogan rhew ac eira ddydd Iau.
  • Mi gafodd William amser gwych heb orwneud pethau - llefarydd, yn cyfeirio at benwythnos gyda'r hogiau gafodd y ywysog William yn Blackpool.


  • Mae'n hollol amlwg bod gan rai aelodau o'r awdurdod fwy o ddiddordeb i sgorio pwyntiau gwleidyddol na sydd ganddyn nhw mewn symud ymlaen i greu setliad i S4C a fydd yn galluogi'r diwydiant teledu yng Nghymru i symud ymlaen yn adeiladol i'r dyfodol - yn lleisio galwad i aelodau Awdurdod S4C ymddiswyddo yn ystod wythnos o ansicrwydd sawl cadeirydd sydd gan S4c, un, dau ynteu dim un o gwbl.
  • Dywedodd Mr Jones wrth yr Awdrudod y byddai ei ymddiswyddiad yn dod i rym yn syth. Nid ydym wedi cael cydnabyddiaeth ffurfiol am y penderfyniad oddi wrth yr Adran Ddiwylliant ac nid ydym wedi cael unrhyw gysylltiad â Mr Jones ers cyfarfod neithiwr - nos Fercher yn sgil ansicrwydd a oedd John Walter Jones cadeirydd Awdurdod S4C wedi ymddiswyddo.
  • Fe fyddai'n gynsail peryglus petai pobl yn gosod pethau fel cadeiriau a meinciau ar y mynydd - , Paul Williams, yn gwrthod rhodd o gadair ar gopa'r mynydd.
  • Be da ni ddim eisiau ydi perchnogion ffuredau yn anfon eu ffuredau eu hunain i lawr y tyllau os nad ydyn nhw'n siwr beth maen nhw'n i wneud - Robert Robinson, clerc Cyngor Tref y Trallwng yn trafod cynllun i ddefnyddio ffuredau i gael gwared o gwningod sy'n tyllu maes pêl-droed y dref. "Dydy ni ddim eisiau gweld cwningod wedi eu brifo ar y cae," ychwanegodd.
  • Merched iach a chymesur sydd â hyder ynddynt eu hunain - Disgrifiad Annette Ainsworth o 'Hooters' o'r merched cynnil eu dillad hael eu cyrff sy'n gweini yn y gadwyn o dai bwyta Americanaidd sydd newydd agor cangen yng Nghaerdydd.
  • Mae gennych chi gapiau sgrymio, padiau cyrff a digon o fandejus ar gyfer Tutankhamun yn ei arch - Bobby Windsor o'r hen 'Pontypool Front Row' yn eithaf dirmygus yn y 'Wales on Sunday'o olwg chwaraewyr rygbi heddiw ar y cae. Ychwanegodd y byddai'r shifft ddeng awr a weithiai ef mewn gwaith dur cyn gêm yn gwneud byd o les i chwaraewyr heddiw.
  • Y peth cyntaf a ddaeth i'm meddwl i oedd, pam nad ydym wedi medru cael Mawrth y cyntaf i ddathlu Dydd Gŵyl Dewi - Dafydd Iwan yn ymateb i'r cyhoeddiad y bydd dydd priodas y Tywysog William a Kate Middleton yn ddydd gŵyl cenedlaethol.
  • Dwi'n edifar dim. Dwi ddim yn edifar unrhyw beth a wnes yn fy mywyd - Kevin Roberts o Flaenau Ffestiniog yn wreiddiol sydd newydd ei enwi'n farwn olew mwyaf dylanwadol y byd 2010 yn Dubai.
  • Delio Crazy - pennawd taflen llawn camgymeriadau Cymraeg gan gwmni Screwfix UK yn hysbysebu agor siop newydd ym Mangor. "At dathla'n yn agor benwythnos, ni ref yn ymrwygo ag bargenion a'n fawr drafodaethau. Screwfix ydy'r Uk's 'n fwyaf supplier chan hysgriwiau, fixings a celfi," meddai'r daflen yn ôl y wasg. Beiodd y cwmni gyfieithydd sâl a throi at y Bwrdd Iaith am gymorth gwell.
  • Mae hwn yn gyfle gwych i ddyfarnwyr o Gymru wasanaethu ar lefel uchel - Andrew Howard, pennaeth cystadlaethau Cymdeithas Pêl-droed Cymru am benderfyniad dyfarnwyr o Gymru i gymryd lle dyfarnwyr sydd ar streic yn yr Alban.
  • Mae angen newid ar y stad - perchennog efo calon ac enaid - Barn leol a ddyfynnir yn am ddyfodol Ystad Efyrnwy sydd ar werth am £11m.
  • Fe ddaeth hen fenyw lan ata'i pwy ddiwrnod a dweud 'Oh I love the show'. 'O thank you very much,' medde fi. Ac fe ddywedodd hi: 'Now, how do they make your head look so big?' - Matthew Rhys yn cael ei holi yn .
  • Mae hi'n mynd i fod yn oer iawn dros y penwythnos ac yn ddechrau oer iawn i'r wythnos nesaf hefyd gyda phosibilrwydd o eira a gwyntoedd cryfion - Derek Brockway, dyn tywydd Â鶹ԼÅÄ Cymru.

Â鶹ԼÅÄ iD

Llywio drwy’r Â鶹ԼÅÄ

Â鶹ԼÅÄ Â© 2014 Nid yw'r Â鶹ԼÅÄ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.