Â鶹ԼÅÄ

« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Dyfyniadau

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Glyn Evans | 10:14, Dydd Gwener, 8 Hydref 2010

Nos Sadwrn berffaith Tara Bethan; y joban berffaith i Gavin Henson - cofio'r wythnos a fu trwy nodi rhai o'r pethau a ddywedwyd yn y wasg ac ar y cyfryngau Cymreig ers dydd Gwener diwethaf

A gwahoddiad i chwithau bêl rannu gyda ni y doniol, y difyr neu'r dwys a welsoch chi. Anfonwch nawr . . .

  • Mae o'r peth perffaith i mi. Yn cael treulio llawer o amser yno gyda merch brydferth - Gavin Henson yn dilyn ei ymddangosiad cyntaf ar 'Strictly Come Dancng'.
  • Mae hwn yn fater anferth - Bethan Jenkins AM yn rhoi yn ei chyd-destun ffrae gyfredol ynglÅ·n â merched ysgol yn gwisgo sgertiau mini.
  • Cusan Ffrengig oedd hi a doedd hi ddim yn un beserus iawn gan nad oedd hi wedi rhoi ei dannedd i mewn - Dyn 65 oed a gafwyd yn euog mewn llys yn Llandudno o gyffwrdd gwraig 69 oed yn rhywiol. Ac yn ôl adroddiad yn y 'Wales on Sunday' ychwanegodd wrth gael ei holi; "Fe wnaeth hi fy nghusanu innau hefyd. Dannedd gosod sydd gen i fy hun."
  • Math o Marilyn Monroe Gymreig - disgrifiad o'r gantores Duffy yn dilyn premier y ffilm 'Patagonia' yng Ngŵyl Ffilm Llundain.
  • Pan siaradais i efo fo [Owen Edwards] ddiwethaf . . . roedd o'n poeni'n arw am ddyfodol y Sianel. Dywedodd ei fod yn teimlo'n drist iawn nad oedd pobol gyffredin yn protestio am y dirywiad yn y gwasanaeth. Roedd hynny, meddai, yn arwydd nad oedd ots ganddyn nhw amdani ac nad oedd y Sianel yn berthnasol i bobol mwyach - John Pierce Jones yn 'Barn'.
  • Mae darllen hwn yn codi calon dyn yn fwy am ddyfodol y Gymraeg na'r holl gylchgronnau noddedig gyda'i giydd - Emyr Llywelyn yn dyfarnu Tlws Coffa Eirug Wyn i Lowri Rees Roberts, golygydd WA-w!

  • Y nos Sadwrn berffaith i mi ydi ffrindiau gorau, lolfa gymmes, gwin coch a bwyd da - Tara Bethan yn WA-w!
  • . . . yr oedd ef [Tad Howard Marks] yn y llynges fasnach . . . felly welais i mohono nes roeddwn i'n ddwy oed sy'n egluro pam mai Cymraeg yw fy iaith gyntaf. Roedd fy Mam o'r gorllewin ac felly'n Gymraeg iawn; felly dysgais Gymraeg ac erbyn i mi gyfarfod fy nhad fe allwn i siarad Cymraeg ond allai ef ddim; anhawster y gwnaethom ei oresgyn trwy i mi ddysgu Saesneg, debyg - Howard 'Mr Nice' Marks yn cael ei holi yn y 'Wales on Sunday'.
  • Mae athrawon yn wynebu mwy o drais, a hyd yn oed pethau fel cael eu ffilmio ar ffonau symudol wrth ddysgu. Mae'n broblem gymdeithasol, ond lle mae'r atebion? - Iwan Guy, Undeb y prifathrawon NAHT.

Â鶹ԼÅÄ iD

Llywio drwy’r Â鶹ԼÅÄ

Â鶹ԼÅÄ Â© 2014 Nid yw'r Â鶹ԼÅÄ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.