Â鶹ԼÅÄ

« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

O air i air - dyfyniadau

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü: ,Ìý

Glyn Evans | 06:11, Dydd Gwener, 24 Medi 2010

Dilladu morforwyn a phlismyn, trafferthion Dehli, y Whitelaw newydd ac egluro'r gwahaniaeth astrus rhwng dogfen ac adroddiad - cofio'r wythnos a fu trwy nodi rhai o'r pethau a ddywedwyd yn y wasg ac ar y cyfryngau Cymreig ers dydd Gwener diwethaf

A gwahoddiad i chwithau rannu gyda ni y doniol, y difyr neu'r dwys a welsoch chi. Anfonwch nawr . . .

  • Yr ydym ni eisiau rhywun sy'n ysu i wneud sblash trwy wlychu'n go iawn a mynd yn wyllt mewn gwisg morforwyn gyda chynffon y bydd yn rhaid ei harchebu o'r Unol Daleithiau - Colette Macdonald, rheolwraig sw fôr Y Rhyl , sy'n chwilio am rywun i chwarae rhan morforwyn.
  • Fydd yna ddim costau ychwanegol - yn wir yr ydym yn rhagweld gostyngiad mewn costau a chynnydd mewn ymarferoldeb - Ian Shannon, Dirprwy Brif Gwnstabl Gogledd Cymru wrth gyhoeddi y bydd plismyn y Gogledd yn yn lle capiau baseball a wisgwyd er 2006.
  • Ai fi ydi'r unig un sy'n siomedig bod Golwg yn cyfeirio at yr artist llwyddiannus, Corrie Chiswell, . . . fel 'gwraig Chiz' . . . fel pe bai hi'n rhyw atodiad oes Fictorianaidd i'w gŵr? - Eleri Lovegreen, Caernarfon, mewn llythyr at olygydd '.
  • Cŵn yng ngwelyau tîm Cymru - pennawd yn y 'Western Mail' am y y sefyllfa gyda Gemau'r Gymanwlad yn Delhi.
  • Wnes i erioed deimlo cyn saffed. Yr oedd milwyr a phlismyn ym mhobman -Y saethwraig colomennod clai, Cheryl Gizzi, am y cyfnod y bu'n cystadlu yn Delhi fis Chwefror gan ychwanegu ei bod yn hyderus y bydd popeth mewn trefn ar gyfer Gemau'r Gymanwlad.
  • Y mae hanes yn ailadrodd ei hun [gyda] Gweinidog Torïaidd arall yn ceisio tagu S4C. Yn 1980 [William] Whitelaw oedd o. Yn 2010, Jeremy Hunt - Dafydd Wigley yn ei golofn yn y 'Daily Post'.
  • Allai ddim gweld Cymru yn ennill [Cwpan y Byd] byth. Rwy'n gobeithio mod i'n anghywir ond mae unrhyw un sy'n meddwl yn wahanol yn twyllo ei hun - Bobby Windsor sy'n cyhoeddi ei hunangofiant 'The Iron Duke'.
  • Y cwestiwn oedd yn codi yn fy meddwl i oedd a yw hi'n iawn i bleidwyr tangnefedd fwynhau'r fath ddigwyddiadau? - Lyn Lewis yn 'Cristion' yn cwestiynu rhan amlwg yr Archesgob Desmond Tutu yng ngornest bêl-droed Cwpan y Byd yn Ne Affrica.
  • Asgwrn cefn unrhyw bapur yw ei ddarllenwyr - John Gruffydd Jones, Golygydd yn ei sylwadau golygyddol olaf cyn ymddeol.
  • Petai'r diffygion yn cael eu dyfynnu mewn perthynas â'r Saesneg neu Fathemateg, byddai'r ysgol dan fesurau arbennig - Gareth Jones AC Aberconwy yn gwaradwyddo yn Golwg at safon Cymraeg ail iaith rhai a fu drwy ysgolion yn y gogledd.
  • Yr ydw i'n sicr yn gwneud mwy o ymdrech y dyddiau hyn. Hyd yn oed yn y tÅ· mi wnâi wisgo siwt neis efo crys-T odani - rwyf dipyn bach yn fwy steilish nawr dwi'n meddwl - Steve Jones cyflwynydd teledu a "symbol rhyw" sydd wedi cael bachiad i fodelu siwtiau.
  • Mae ein prifysgolion fod i wneud arbedion ond mae hyn yn awgrymu bod Bangor yn osgoi realiti - Llefarydd Cynghrair y Trethdalwyr am gynlluniau Prifysgol Bangor i wario bron i hanner miliwn o bunnau ar gartref i'r is ganghellor newydd.
  • Byddai'r newidiadau hyn . . . yn gymorth i ddileu'r syniad bod gan unrhyw liw flaenoriaeth a bod un yn fwy cymwys neu bwysig nag un arall. - Llefarydd Gorsedd y Beirdd yn trafod i ddiwygio'r gwisgoedd gwyn, gwyrdd a glas.
  • Fel dwi wedi ei esbonio o'r blaen, does 'na ddim Adroddiad McKinsey - y Gweinidog Iechyd, Edwina Hart yn gweld gwahaniaeth rhwng dogfen ac adroddiad .

Â鶹ԼÅÄ iD

Llywio drwy’r Â鶹ԼÅÄ

Â鶹ԼÅÄ Â© 2014 Nid yw'r Â鶹ԼÅÄ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.