Â鶹ԼÅÄ

« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Argyfwng gwyddonol

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Blogiwr Gwadd | 15:01, Dydd Iau, 5 Awst 2010

Dim rhyfedd i John Hartson sgorio cymaint o gôls yn ystod ei yrfa ddisglair. Mi fum i'n ceisio'i ddal o ar y Maes ddechrau'r wythnos a methu'n glir a dal i fyny efo fo.

Yr oedd o'i fod yma i agor y Babell Wyddoniaeth ac i drosglwyddo ei sgiliau pêl-droed i robotiaid o Brifysgol Casnewydd.

Ond trwy gael ei ddal yn ôl mewn traffig yr oedd yn hwyr yn cyrraedd y Maes ac mi fum i ac eraill yn disdgwyl a loetran a cherdded nol a blaen am amser cyn dod ddigon agos i'w daclo.

Ond fe wnes i'n well na threfnwyr y Babell Wyddoniaeth.

Pan oedd yn ymbaratoi i gyflawni ei ddyletswyddau yno pwy ddaeth yn dân ac yn frwmstan i gyd ond "rhywun o S4C" a'i gipio fo oddi yno i wneud rhywbeth llawer pwysicach ym mhabell y Sianel.

Yn digwydd bod yn y Babell Wyddoniaeth yr un pryd, i holi John, yr oedd Huw Llywelyn Davies ac yn eu hargyfwng gofynnodd y gwyddonwyr iddo ef a fyddai'n fodlon agor eu harddangosfa yn swyddogol.

Cytunodd wrth gwrs - er cyfaddefodd Huw wedyn y byddai wedi bod bron yn amhosib iddyn nhw ddod o hyd i rywun llai gwyddonol ei gymwysterau.

Ond o leiaf fe gafodd y babell ei hagor - ac ar ben hynny fe gadwodd S4C eu dyn. Ac mae hynny'n rhinwedd, siwr o fod, y dyddiau dyrys hyn i'r Sianel!

Â鶹ԼÅÄ iD

Llywio drwy’r Â鶹ԼÅÄ

Â鶹ԼÅÄ Â© 2014 Nid yw'r Â鶹ԼÅÄ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.