Â鶹ԼÅÄ

« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Hawdd dweud

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü: ,Ìý

Glyn Evans | 11:38, Dydd Gwener, 21 Mai 2010

Sgrifennu llythyrau, camp Caerdydd, cyfrinachau'r stafell wely - rhai o'r pynciau gododd eu pennau yn ystod yr wythnos wythnos yn y wasg ac ar y cyfryngau.

Dyma'r dyfyniadau:

  • Does yna ddim pwynt mynd ar yr awyren os nad ydych yn mynd i lawr yno gyda'r bwriad o berfformio'n dda ac o ennill - neges Warren Gatland i'r chwaraewyr rygbi a ddewisodd i ymweld â Seland Newydd.
  • Mi rydw i'n eistedd yn disgwyl yn Aberystwyth, ac mae hi'n anodd iawn - Kerianne Phillips, 22, o Aberystwyth, sy'n ymddangos mewn hysbyseb yn galw am newid y gyfraith ynglÅ·n â rhoi organau. Mae hi angen iau newydd.
  • Mae rhywbeth fel hyn yn mynd y tu draw i bêl-droed - Garry Monk, Capten tîm pêl-droed Abertawe yn dilyn marwolaeth Besian Idrizaj a fu farw'n 22 oed.
  • Mae BARB yn amcanu fod yna 58,000 o gartrefi yng Nghymru lle mae pawb yn gallu siarad Cymraeg ond sydd yn defnyddio Saesneg yn brif iaith y cartref - Iona Jones, Prif Weithredwr S4C.
  • Bydd un o bob pump o weithwyr Cymru yn dweud wrth eu bos eu bod yn sâl yr haf hwn er mwyn iddynt gael aros adref i wylio gemau Cwpan y Byd - stori newyddion yn 'Y Cymro'.
  • Mi faswn i'n gallu bod yn y dyddiau du hynny o hyd, yn teimlo'n sori drosta fi'n hun, ond erbyn heddiw dwi'n rhy brysur - Brian Roberts o Flaenau Ffestiniog yn rhifyn Mai o 'WA-w!'. Ni all gerdded yn dilyn damwain motobeic yn 1996 ond mae'n gobeithio cystadlu yn gemau paralympaidd 2012.
  • Mae'n hawdd gweld pam y mae plant yn colli'r arferiad o sgrifennu llythyrau ond y mae yna rhyw swyn yn perthyn i lythyr yn cyrraedd drwy'r post ymhlith yr amlenni brown arferol a'r cylchlythyrau - Roy Noble yn gofidio bod y genhedlaeth iau yn barotach i dectsio ac ebostio nag i sgrifennu llythyr.
  • Er fy mod yn mynd am y teitlau Saesneg mae fy acen Gymraeg gen i o hyd ac rwy'n falch o fod yn Gymraes - Liza Laszarus, cyn Miss Wales, yn dweud y bydd yn cystadlu i fod yn Miss England.
  • Lawer o'r amser fe wnawn ni dreulio deugain munud yn siarad a dim ond rhyw ugain munud yn cael rhyw - 'Escort' o Gymru yn rhannu rhai o gyfrinachau yr ystafell wely a chwsmeriaid yn eu deugeiniau a'u trigeiniau gyda'r 'Wales on Sunday'..
  • Os gwnawn ni gyflawni yr hyn ydym ni eisiau nid mynd a chlwb pêl-droed i fyny fyddwn ni; byddwn yn mynd a'r genedl i fyny - Dave Jones, rheolwr clwb pêl-droed Caerdydd.


Â鶹ԼÅÄ iD

Llywio drwy’r Â鶹ԼÅÄ

Â鶹ԼÅÄ Â© 2014 Nid yw'r Â鶹ԼÅÄ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.