Â鶹ԼÅÄ

« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Cwt a hanner

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü: ,Ìý

Glyn Evans | 13:27, Dydd Iau, 6 Mai 2010

Un o gampau Sion Blewyn Coch Llyfr Mawr y Plant ers talwm oedd torri i mewn i gwt ieir Eban Jones a chyda hynny mewn cof roedd yn ddiddorol iawn darllen yn Y Ffynnon, papur bro Eifionydd, am gwt ieir a fyddai'n her i'r Blewyn Coch ei hun hyd yn oed.

Mae tipyn o hanes i'r campwaith:

Yr anrhydeddus gwt - yn Y Ffynnon
"Pan ymwelodd Sion BIewyn Coch a fferm Pen Bryn, Cricieth gan ddwyn amryw o ieir, gofynnodd HeIedd i'w thad, G R Owen, Gilfach, Chwilog, tybed a allai wneud rhyw lun o gwt ieir iddi rhag iddi ddioddef rhagor o golledion a methu â chael wy i frecwast!" meddai'r Ffynnon.

"Dair blynedd a hanner yn ddiweddarach, a phob iâr wedi ei hen dreulio gan y cadno, y mae'r cwt ieir yn barod. A dyna i chi gwt ieir!

"Mae wedi ei wneud o ddur solat, pob nyth unigol wedi ei fesur yn berffaith; y tu mewn wedi ei focsio yn ddigon o sioe a grisiau crand yn arwain at glwydi eang ar ei ganol.

"Ar ei dalcen mae ffenest fach dac1us ryfeddol o'r plastig gora ac ar y talcen arall mae drws ffrynt ac arno follt a lle i osod clo fyddai'n gwneud cyfiawnder â charchar Alcatras.

"Mae'r cyfan wedi ei osod ar bedair olwyn gref ac wedi ei baentio a phaent gwyrdd llachar," meddir.

Doedd rhywun ddim yn synnu clywed; "Ar hyn o bryd yn ôl yr hyn a ddeallwn, nid oes modd prynu cwt tebyg iddo yn unman yn y byd."

Drosodd atoch chi Sion Blewyn Coch a Sian Slei Bach

Â鶹ԼÅÄ iD

Llywio drwy’r Â鶹ԼÅÄ

Â鶹ԼÅÄ Â© 2014 Nid yw'r Â鶹ԼÅÄ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.