Â鶹ԼÅÄ

« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Byw drama

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Glyn Evans | 17:22, Dydd Mercher, 26 Mai 2010

Teimlad od ydi bod yn wahanol ac mi ddaeth hynny yn eglur i mi ar ôl bod yn gweld cynhyrchiad diweddaraf Cwmni Theatr Genedlaethol Cymru - dwy ddrama fer un gan awdur newydd a'r llall gan Saunders Lewis.

Er yn ddigon difyr yn eu ffordd bu'n rhaid i mi gyfaddef na chefais i mo'n argyhoeddi fod hwn yn gynhyrchiad theatr genedlaethol gwlad ac yr oedd nifer y gynulleidfa y noson y bum yn gweld y dramâu yn codi'r cwestiwn a yw'r cwmni yn gwybod beth mae'r gynulleidfa Gymraeg ei eisiau.

Diddordeb pennaf Yn y Tren, yr ail o'r ddwy ddrama, yw mai Saunders Lewis oedd yr awdur yn hytrach na safon y ddrama ei hun. Pe byddech chi neu fi wedi ei chynnig go brin y byddai wedi cyrraedd unrhyw lwyfan cenedlaethol.

Yr oedd unrhyw ddifyrrwch yn perthyn i'r ffaith mai Saunders oedd yr awdur a'i bod mor wahanol i'r hyn ddisgwylid ganddo.

Noson siomedig fu hon i mi ond yn hynny o beth rwyf yn y lleiafrif hyd yn hyn gan fod y ddau adolygiad arall a welwyd o'r noson yn canmol i'r cymylau; un gan y beirniad blaenllaw, Catrin Beard, ar Raglen Dewi Llwyd Â鶹ԼÅÄ Radio Cymru y gellir gwrando arno ar ein gwefan a'r llall gan Lyn Ebenezer yn Golwg. Y ddau wedi cael mwynhad tu hwnt i'r cyffredin ac yn defnyddio yr un geiriau hynod ganmoliaethus.

Mae'n deimlad od bod yr un a barn mor wahanol.

Y cyfan sydd angen i ddigwydd yn awr i danseilio fy hunanhyder yn llwyr yw i Paul Griffiths delynegu am y noson yn Y Cymro.

Rwy'n dal fy ngwynt.

Dim ond heddiw sy tan yfory - a dim ond yfory tan ddiwrnod cyhoeddi'r Cymro!

Mae'r disgwyl yn ddrama ynddo'i hun.

Â鶹ԼÅÄ iD

Llywio drwy’r Â鶹ԼÅÄ

Â鶹ԼÅÄ Â© 2014 Nid yw'r Â鶹ԼÅÄ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.