Â鶹ԼÅÄ

« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Codi llais - dyfyniadau

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü: ,Ìý

Glyn Evans | 07:38, Dydd Gwener, 23 Ebrill 2010

Yr Eisteddfod, llwch llosgfynydd, Sesiwn Fawr, rhestr hir Llyfr y Flwyddyn - ail flasu'r wythnos trwy nodi rhai o'r pethau a ddywedwyd yn y wasg ar y cyfryngau ac ar goedd ers dydd Gwener diwethaf.

A gwahoddiad i chwithau rannu y doniol, y difyr neu'r dwys a welsoch chi gyda ni. Anfonwch nawr.

  • Waeth iddyn nhw godi wal wyth troedfedd o amgylch Burry Port a rhoi Humpty Dumpty ar ei phen. Does neb yn dod i siopio yn Burry Port bellach - Elgan Jones yn ymgyrchu yn erbyn road humps.
  • Rydan ni wedi aeddfedu fel cenedl, a rydan ni'n medru gwahodd ymwelwyr heb unrhyw ofn oherwydd fod ganddon ni Gynulliad - Hywel Roberts, Maer Caernarfon, yn dadlau yn 'Golwg' mai camgymeriad fyddai gwrthwynebu ymweliad cyntaf y Frenhines â'r dref ers yr arwisgo yn '69.
  • Ar ôl '69 y wers yw mai canolbwyntio ar y ffordd mae Cymru yn cael ei rheoli nid dadlau am y teulu brenhinol sy'n bwysig - Dafydd Iwan, awdur 'Carlo' a 'Croeso Chwe Deg Nain' yn '69.
  • Mae'r Golygydd (go-iawn) yntau wedi cael ei ddal yng nghanol trafferthion y llwch folcanig ac yn yr Amerig bell ar hyn o bryd. Gobeithio y caiff ddychwelyd adref yn fuan - cri o'r galon(?) gan Olygydd dros dro 'Y Cymro' yn 'Y Cymro'.
  • Bydded i losgfynydd Eyjafjallajokull chwydu ei lwch i'r stratosffer Ewropeaidd am yn hir iawn - y Dr Robyn Lewis mewn llythyr yn y 'Western Mail' yn ymfalchïo nad yw sŵn awyrennau'r Fali yn tarfu ar heddwch gogledd orllewin Cymru .
  • Yn fy marn i mae'r rhan fwyaf o ferched tlws yn eu deugeiniau - Angie Walsh , model sy'n gwneud yn fawr o'i thebygrwydd i Catherine Zeta-Jones.
  • Mae yna lawer o gerddi sâl yn cael eu sgrifennu ar bwnc hunaniaeth genedlaethol ac mae eisiau rhwystro rhai o'r bobl hyn rhag sgrifennu - Ian Gregson un o feirniaid Llyfr y Flwyddyn Saesneg.
  • Yn oriau'r gwyll creai'r gŵr

    Olau perlau'n y parlwr

    Cwpled o awdl er cof am Dic Jones gan Richard Llwyd a fu'n fuddugol yng nghystadleuaeth y gadair, Eisteddfod Y Ffôr.
  • Katherine Jenkins a Charlotte Church sydd ar ben y rhestr o filiwnyddion cerddorol dan 30 oed - stori newyddion yn y 'Western Mail' .
  • Ein iaith gyntaf yw'r Gymraeg, yr ydym yn ei siarad â'n mam, a'n hail iaith yw Cernyweg yr ydym yn ei siarad â'n tad ond yr ydym yn ceisio peidio â siarad yr un o'r ddwy yng ngwydd pobl eraill fel nad ydym yn ymddangos yn anghwrtais - Ani Saunders sydd newydd gyhoeddi'r sengl 'Stop the Music' gyda'i chwaer Gwenno.
  • Yr oeddwn i'n poeni braidd achos doeddwn i ond wedi gweld cwpwl o benodau o'r sioe cyn inni ddechrau saethu. Ond yna dywedodd cwpl o'r prif gast nad ydynt hwythau prin yn gwylio ychwaith felly roeddwn i'n teimlo'n llawer gwell - Meddy Ford o Gaerffili yn y 'Wales on Sunday' yn dilyn cael rhan yn y gomedi deledu 'The IT Crowd'.
  • Yr oeddwn i'n poeni braidd achos doeddwn i ond wedi gweld cwpwl o benodau o'r sioe cyn inni ddechrau saethu. Ond yna dywedodd cwpl o'r prif gast nad ydynt hwythau prin yn gwylio ychwaith felly roeddwn i'n teimlo'n llawer gwell - Meddy Ford o Gaerffili yn y 'Wales on Sunday' yn dilyn cael rhan yn y gomedi deledu 'The IT Crowd'.
  • Dyda ni ddim isio gweld llwyth o bobol yn dwad i Ddolgellau jyst i feddiw - Bethan Gwanas yn edrych ymlaen at ddyfodol newydd mwy cymunedol i 'Sesiwn Fawr Dolgellau'.
  • Rydan ni eich angen chi . . . sy'n ymweld yn rheolaidd a'r Eisteddfod, i ymuno â ni. Rydan ni angen Eisteddfodwyr brwd ein cenedl deithio atom i Lyn Ebwy, er mwyn dangos i'r ardal, i Gymru ac i'r byd, bod gan ein cydwladwyr hyder yn yr hyn sydd gan Flaenau Gwent a Blaenau'r Cymoedd i'w gynnig - Richard Davies, Cadeirydd Pwyllgor Gwaith Glyn Ebwy yn y 'Daily Post Cymraeg'.

Â鶹ԼÅÄ iD

Llywio drwy’r Â鶹ԼÅÄ

Â鶹ԼÅÄ Â© 2014 Nid yw'r Â鶹ԼÅÄ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.