Â鶹ԼÅÄ

« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Dethol geiriau dethol - dyfyniadau

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü: ,Ìý

Glyn Evans | 11:03, Dydd Gwener, 19 Chwefror 2010

Ar ddydd Gwener - ail fyw'r wythnos drwy trwy flasu rai o'r pethau a ddywedwyd yn y wasg ac ar y cyfryngau gan wahanol bobl.

A gwahoddiad i chwithau rannu y doniol, y difyr neu'r dwys â ni.

  • Mae Andy Powell yn siomedig o gael ei hun yn y sefyllfa hon - Mike Burton, asiant Andy Powell.
  • Yr oeddwn yn cael fy ngalw yn Dumbo, fel yr eliffant, yn blentyn achos doeddwn i ddim yn deall pethau yn yr ysgol - Syr Anthony Hopkins.
  • Petai Williams Pantycelyn yn dod yn ôl i Gymru heddiw, byddai pob agwedd o fywyd wedi newid ar wahân i wasanaethau capeli. Ydi hynny yn naturiol? Oni ddylai capeli symud gyda'r oes? - Angharad Tomos yn y 'Daily Post Cymraeg'.
  • Gellid dadlau mai un rheswm pam fod Cymru mor gymharol dlawd yw iddi gael ei llywodraethu yn rhy hir o Lundain - Syr John Shortridge cyn bennaeth gwasanaeth sifil y Cynulliad mewn erthygl yng nghylchgrawn y Sefydliad Siartredig Cyllid a Chyfrifo Cyhoeddus.
  • Roedd [yr Ysgwrn] o ddiddordeb mawr i mi gan fod fy nhaid . . . wedi ymladd yn yr Ail Ryfel Byd. Teimlais fel fy mod wedi dod i ddysgu llawer am Taid trwy hanes Hedd Wyn. Cyn cael yr agoriad llygad yma . . . dyn hen, distaw, yn ei gadair bob amser yn edrych drwy'r ffenestr oedd Taid yn fy meddwl i. Doedd o byth yn cwyno am ddim ac yntau'n ddyn sâl. Ar ôl dysgu am y Rhyfel roeddwn yn edrych arno mewn goleuni hollol wahanol; roeddwn yn llawn balchder - Sara Moore yn Y Cymro wrth alw am ymgyrch i achub Yr Ysgwrn, cartref Hedd Wyn.
  • Os bydd pobl yn pleidleisio 'Na' bydd goblygiadau difrifol iawn, bydd e'n golygu bod y broses o ddatblygu datganoli yn stopio am gyfnod hir - Yr Athro Roger Scully o Brifysgol Aberystwyth yn trafod Refferendwm y Cynulliad yn Golwg.
  • Yr ydw i wedi clywed, yn ogystal â refferendwm ar rymoedd deddfu y bydd y Cynulliad yn gofyn a ddylai efeillio â Lilliput gyda'r slogan 'Bach o ddrwg ydym ni'n wneud'. Ydi hyn yn wir? - Llythyr gan V Ward, Porth Talbot yn y Western Mail.
  • Hoffwn weld y refferendwm ar Hydref 21 eleni, diwrnod mawr yn hanes Prydain, yn cael ei ddathlu unwaith fel Diwrnod Tradfalgar - Trish Law AXC Blaenau Gwent.
  • Os dewis ardaloedd fel Glyn Ebwy, Caerdydd, Casnewydd, Wrecsam a.y.y.b [i gynnal yr Eisteddfod Genedlaethol] a fuasai hi'n fwy moesgar cymodi a chynnig un diwrnod o'r Eisteddfod yn ddwy-ieithog? - Llythyr i'r wasg gan Tomos ap Gwilym, Borth-y-gest.

  • Mae hi'n ganmoliaethus iawn o fy ffigwr i. Mae gen i freichiau diffiniedig ac mae hi'n lecio hongian arnyn nhw - Joe Calzaghe am Kristina Rihanoff.
  • Mae na fwji gafodd ei enwi ar fy ôl unwaith - byddai hyn wedi curo hynny - Barry John ar ôl clywed i Cerys Matthews ystyried enwi mab ar ei ôl ond newid ei meddwl a'i alw'n Red Owen.

Â鶹ԼÅÄ iD

Llywio drwy’r Â鶹ԼÅÄ

Â鶹ԼÅÄ Â© 2014 Nid yw'r Â鶹ԼÅÄ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.