Â鶹ԼÅÄ

« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Peli eira

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü: ,Ìý

Glyn Evans | 08:10, Dydd Iau, 7 Ionawr 2010

Ar ddiwrnod fel hwn, yn gaeth yn y tÅ·, gartref, beth gwell i'w wneud na throi at y llyfrau i chwilio am gyfeiriadau at eira.

A thaflu ambell i belen atoch chi.

Fel "maeth Ionawr" y byddai hen ffermwyr ddyddiau fu yn cyfeirio at eira gan dyngu fod cnwd iawn ohono yn gwella ansawdd y pridd.

Yr oedd yn gred fod gaeaf o eira trwm yn rhagfynegi cnydau trymion hefyd.

Cawn weld.

Dyn eira

Ychydig o sôn am eira sydd yna yn y Beibl. Yn 2 Samuel 23:20 mae un o'r cyfeiriadau cyntaf lle y mae Benaia fab Jehoiada yn cael ei frolio am ladd dau bencampwr gan ychwanergu;
"Ef hefyd a aeth i lawr i bydew a lladd llew yno ar ddiwrnod o eira."

Yr un dyn, gyda llaw, laddodd "gawr o Eifftiwr" er bod gan hwnnw waywffon yn ei law "ac yntau'n ymosod heb ddim ond ffon".

"Cipiodd y waywffon o law'r Eifftiwr, a'i ladd a'i waywffon ei hun."

Jyst y dyn i'w gael o gwmpas ar adeg o eira a chyfeirir at ei wrhydri hefyd yn Cronicl 22:23.

Awgrymir mai cyfeiriad sydd yna yn Diarhebion 25:13 at ddefnyddio eira i ddarparu diodydd ar gyfer poethder yr haf pan ddywedir:

"Fel oerni eira yn amser cynhaeaf felly y mae negesydd y ffyddlon i'r rhai sy'n ei anfon".

Ond yn Diarhebion 26:1 dywedir: "Fel eira yn yr haf, neu law yn ystod y cynhaeaf felly nid yw anrhydedd yn gweddu i'r ffôl."

Mae gan Job (6:15-17) drosiad trawiadol iawn ynglÅ·n ag eira pan ddywed ef:

"Twyllodd fy mrodyr fi fel ffrwd ysbeidiol; fel nentydd sy'n gorlifo yn dywyll gan rew, ac eira yn cuddio ynddynt. Ond pan ddaw poethder fe beidiant, ac yn y gwres diflannant o'u lle."

Ac yn Diarhabeion 31:21 mae gan y "Y wraig rinweddol" - neu yn Y Beibl Cymraeg Newydd, "Y Wraig Fedrus" - wers inni i gyd oherwydd nid yw hi yn "pryderu am ei thylwyth pan ddaw eira oherwydd byddant i gyd wedi eu dilladu'n glyd" - a chanddi hefyd, siŵr o fod, ddigon o raean i'w daenu dros y llwybrau!

Er bod yna feio pob math o bethau am ein cnwd presennol ni o Slip Stream i gynhesu byd-eang yr oedd gan Job eglurhad llawer symlach (37:5>):

"Tarana Duw yn rhyfeddol â'i lais; gwna wyrthiau y tu hwnt i'n deall. Fe ddywed wrth yr eira, 'Disgyn ar y ddaear', ac wrth y glaw a'r cawodydd, 'Trymhewch'," meddai gan ychwanegu wedyn:

"Y mae pob dyn yn cael ei gau i mewn, a phawb yn cael ei atal rhag ei waith."

Pawb, fe ymddengys, ond gohebwyr teledu sydd fel rhyw lagyrs newyddiadurol yn dal i fedru cyrraedd y mannau hynny lle mae pawb arall yn sownd.

Bydd caenaen arall o eira yn nes ymlaen - a chroeso i chwithau anfon pluen neu ddwy i'w throi yn yn lluwch.

Gwyn eich byd.

Â鶹ԼÅÄ iD

Llywio drwy’r Â鶹ԼÅÄ

Â鶹ԼÅÄ Â© 2014 Nid yw'r Â鶹ԼÅÄ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.