Â鶹ԼÅÄ

« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Mewn powlen o eira . . .

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Glyn Evans | 11:35, Dydd Iau, 14 Ionawr 2010

Ddoe yr oedd y diweddar Ioan Bowen Rees ymhlith y rhai hynny yr oedd dydd ei eni yn cael ei nodi ar raglen gynta'r dydd ar Radio Cymru.

Fe'i disgrifiwyd yn syml fel awdur a bardd ond yr oedd yr arbenigwr ar lywodraeth leol a anwyd yn Nolgellau Ionawr 13 1929 yn dad i Gruffudd Rhys prif leisydd y Super Furry Animals ac yn fynyddwr o fri hefyd.


Bylchau - Ysgrifau Mynydd a Thaith oedd teitl un o'i lyfrau ac yn dal mewn print a chyhoeddwyd argraffiad cain o lyfr Saesneg o'i eiddo am fynyddoedd Cymru gan Wasg Gregynog.

Dim ond ychydig ddyddiau cyn ei farwolaeth Mai 4 1999 dringodd i gopa Moel Wnion.

Ioan Bowen Rees

Y mynydda a ddaeth ag ef i gof yr adeg arbennig hon pan yw'r wlad yn drwch o eira a llethrau a chopaon ein mynyddoedd mor hardd.

Flynyddoedd yn ôl pan oeddwn yn casglu hoff resipis gwahanol enwogion ar gyfer llyfryn a gyhoeddwyd i godi arian i gymdeithas MENCAP Caernarfon y 'ffefryn' a anfonodd Ioan Bowen Rees i'w gynnwys oedd:

Dewis diwrnod heulog yn y gaeaf.
Prynu tun o fafon cochion.
Dringo i ben mynydd (gan gofio rhoi llwy ac agorwr tun yn eich sach ddringo).
Gwneud pant yn yr eira.
Tywallt y mafon i'r pant.
Cymysgu tipyn ar yr eira a'r mafon a'u bwyta.

Mefus moes mwy fel y gallai rhywun ddweud.

Â鶹ԼÅÄ iD

Llywio drwy’r Â鶹ԼÅÄ

Â鶹ԼÅÄ Â© 2014 Nid yw'r Â鶹ԼÅÄ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.