Â鶹ԼÅÄ

« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

I'r diawl a'r gasgen gwrw

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Glyn Evans | 08:14, Dydd Iau, 21 Ionawr 2010

Y gorau y gellid ei ddweud am fuddugoliaeth yr Urdd yn y frwydr i gael gwerthu gwinoedd a chwrw ar faes Eisteddfod Genedlaethol y mudiad yn Llannerchaeron yw mai buddugoliaeth dechnegol yw hi.

Fel y clywyd ar Taro'r Post ddoe, i gyfyngiadau y ddeddf drwyddedu y mae'r Urdd yn ddyledus.

Cardiau yfed oedd yn cael eu rhannu yn Eisteddfod yr Urdd Caerdydd y llynedd

Erbyn hyn nid yw yma nac acw ai peth da ynteu peth drwg yw cael trwydded i werthu diodydd meddwol ar y maes - pris y fuddugoliaeth sydd bwysicaf bellach.

Hynny yw, faint bynnag o arian ychwanegol a ddaw yn sgil y gwinoedd a'r cwrw - ond nid gwirodydd - y sym nesaf i'r Urdd i'w gwneud yw a fydd hynny werth cost yr holl anniddigrwydd a achoswyd gan y bwriad ac a yw'r faint bynnag o ewyllys da a gollir yn mynd i fod werth y pris.

Amser a ddengys, ond mae peryg mai'r gwrthwynebwyr fydd piau'r fuddugoliaeth foesol gan adael yr Urdd gydag ond yr ysbeilion technegol a chryn dipyn o waith patsio.

Rhywbeth y gellid ei wneud yn ystod wythnos yr Eisteddfod o bosibl - dros bryd a glasied o win.

Ac wedi gwydraid neu ddau efallai y byddai werth i'r Urdd holi pam goblyn y tynnodd y fath helynt i'w ben a fawr dim galw o gwbl wedi bod am y ddarpariaeth hyd y gall rhywun gasglu.

A beth am yr holl wrthwynebwyr?
Fyddan nhw yn ddigon cadarn i fod yn llwyr ymwrthodwyr eisteddfodol yn yr ystod yr wythnos?

Wedi'r cyfan honno fyddai'r brotest eithaf - y brotest fyddai'n brifo.
Yr holl win a chwrw - ond dim gwirodydd - yna ar y maes a neb yn eu prynu.

Gall Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd 2010 fod yn un hynod ddifyr - am y rhesymau anghywir.

Ewch i'r iPkayer i wrnado ar Taro'r Post, ddoe.

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 16:13 ar 8 Mai 2010, Aled Sion ysgrifennodd:

    Newydd ddarllen dy flog Glyn, miosoedd yn hwyr - "Gall Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd 2010 fod yn un hynod ddifyr - am y rhesymau anghywir."

    Gobethio y bydd y Brits Broadcasting Company yno wrth gwrs - nawr dyna fydde stori i ni'r Cymry.

  • 2. Am 16:24 ar 19 Mai 2010, gwion hallam ysgrifennodd:

    Dim sylw mawr heblaw am dynnu sylw at flog Pethe yr wythnos yma a llun o win newydd Cymreig sydd arno. Gwin da o Gymru o'r diwedd. Gwyn coch, gwyn - a gwyrdd!

Â鶹ԼÅÄ iD

Llywio drwy’r Â鶹ԼÅÄ

Â鶹ԼÅÄ Â© 2014 Nid yw'r Â鶹ԼÅÄ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.