Â鶹ԼÅÄ

« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Chwilio am lyfr?

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Glyn Evans | 09:01, Dydd Gwener, 11 Rhagfyr 2009

Er nad ydi hwn y Dolig mwyaf llewyrchus ar gyfer y rhai hynny sy'n chwilio am lyfrau mae hi'n bosib llunio rhestr o ddyrnaid o lyfrau gwerth eu cael - gwerth eu rhoi hyd yn oed.

Felly gan obeithio y bydd hynny o help dyma Ddeg Dolig Cylchgrawn - gyda gwahoddiad i chithau gymeradwyo rhagor neu hyd yn oed gefnogi neu ddadgymeradwyo. Beth bynnag, yn y cyfamser meddyliwch am y rhain:

Cymru - Y Cant Lle i'w Gweld Cyn Marw. Y Lolfa:
Dim amheuaeth pa un i'w roi ar ben y rhestr. Lleoedd o ddiddordeb o Fynydd Parys yn y gogledd i bontydd Hafren yn y de. Geiriau difyr gan John Davies a lluniau rhagorol gan Marian Delyth. Cyfrol harddaf y Nadolig heb os yn 324 o ddalennau i gyd. Gyda chlawr caeled mae'n costio £29.95 ond ddegpunt yn rhatach gyda chlawr meddal.
Llyfr i'w fwynhau cyn marw - wel go brin y gwnewch chi wedyn.
pum seren heb os.
Siawns na ddowch o hyd i fwrdd coffi ail law ar ei chyfer.

Yogi - Mewn Deg Eiliad. Y Lolfa. Llyfr mwyaf ysbrydoledig y Nadolig. Hanes brwydr Bryan 'Yogi' Davies yn dilyn damwain a'i parlysodd ar gae rygbi - yn y gem olaf a fwriadai ei chwarae. Er gwaetha'r amgylchiadau trist mae yma chwerthin hefyd. £9.95. ****

Cerddi Evan James, awdur Hen Wlad Fy Nhadau. Gwasg Carreg Gwalch.
Cyfrol ddwyieithog gan Gwyn Griffiths a fu'n casglu gweddill barddoniaeth awdur ein hanthem genedlaethol. Rhagymadrodd rhagorol. Casgliad rhagorol. Chwiliwch am y cathod! £8.50. ****

Drychiolaethau gan Gwyn Thomas. Gwasg y Bwthyn.
Straeon arswyd ac ysbrydion gan y cyn fardd cenedlaethol. Er nad oes rhyw wae mawr mae jyst y peth ar gyfer pnawn Dolig. Cewch eich hudo o ddalen i ddalen. £7.95. ****

Y Flodeugerdd Englynion Newydd. Golygydd, Alan Llwyd. Barddas
Un o dair cyfrol gan Mr Barddas ar gyfer y Nadolig. Y gair 'newydd' yn disgrifio'r flodeugerdd fwy na'r englynion gan mai diweddariad o Flodeugerdd Englynion 1978 Alan Llwyd yw hon ond gyda rhagarweiniad a nodiadau wedi'u ddiweddaru a llawer yn rhagor o englynion - 1,858 i gyd.
£12.95.

Stori Hedd Wyn / The Story of Hedd Wyn gan Alan Llwyd. Barddas.
Mae hanes bardd y Gadair Ddu bob amser yn cydio a goddef ei hailadrodd - a phwy well i'w hadrodd nag Alan Llwyd, awdur sgript y ffilm a fu mor agos i ennill Oscar Hollywood. Trueni bod y diwyg dwyieithog yn mennu.
£7.95. ***

Epil Gwiberod yr Iwnion Jac gan Geraint Jones. Gwasg y Bwthyn.
Detholiad o erthyglau carlamus ac ymfflamychol Set y Gornel yn Y Cymro - heddwch i'w llwch - gyda rhagarweiniad gan Ieuan Wyn.
Pethau mawr yn cael eu dweud yn arddull flodeuog, ar adegau, colbiwr pum seren. Brwnt weithiau, hefyd. Byddwch yn barod i gael eich gwylltio gan un sy'n cael y gwyllt am gyflwr ein gwlad ac ymddygiad ein pobl.
£8.95. ***

Cymru ar Blât - Wales on a Plate gan Nerys Howell. Gwasg Carreg Gwalch.
Ceginiad resipis bwydydd Cymru. Cegeidiau o'r traddodiadol a'r newydd (i ni). Cyfrol ddwyieithog arall - gwaetha'r modd gan y byddai dau blât, un i bob iaith, wedi bod yn well. Rhagymadrodd difyr i bob adran.
£8.50 ***

Prynu Lein Ddillad gan Hafina Clwyd. Gwasg Carreg Gwalch.
Mae'r teitl yn unig yn ddigon i demtio rhywun i'r llyfr yma. Mae gweld enw Hafina Clwyd wrtho yn clensio pethau. Detholiad o ddyddiaduron un o'n sgrifenwyr mwyaf diddan. Cefndir y teitl yw iddi ddatgan yn ei gwaith un diwrnod iddi brynu lein ddillad yn Llundain - efo tÅ· yn sownd wrthi!
£8.50 ****

Hi a Fi gan Eigra Lewis Roberts. Gomer.
Er bod sawl nofel wedi ei chyhoeddi o'r sôn fu amdanyn nhw yr unig un sy'n apelio ydi'r un lled hunangofiannol hon gan un o feistrasoedd y cyfrwng, Eigra Lewis Roberts.
£7.99. ****

Cefais i nhemtio i gynnwys Hogan Horni - Iso Mwy gan Menna Medi hefyd. Hyd yn oed fy oed i mae'r geiriau "Llawer o ryw! Tipyn o regi!" ar y clawr yn cyffroi.
Ond ar ôl mynd â hi allan am ginio y dydd o'r blaen dydw i ddim yn meddwl y byddwn yn gweld ein gilydd eto. Ella'i bod hi isio mwy, dydw i ddim. Os teimlwch chi'n wahanol anfonwch i achub ei cham.
Gomer sy'n cyhoeddi. £7.99. **

Cofiwch am adolygiadau llyfrau 'Cylchgrawn'.


Â鶹ԼÅÄ iD

Llywio drwy’r Â鶹ԼÅÄ

Â鶹ԼÅÄ Â© 2014 Nid yw'r Â鶹ԼÅÄ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.