Â鶹ԼÅÄ

« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Symol iawn

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Glyn Evans | 10:03, Dydd Sul, 2 Awst 2009

Syms - mae'n nhw'n bethau pwysig ar faes yr Eisteddfod.

Ffigurau o leiaf.

A dyma ichi rai fu'n cael eu taflu o gwmpas yn ystod y ddeuddydd cyntaf:

1,245 - o bobl yn y cyngerdd agoriadol nos Wener o gymharu a 1,634 yng Nghaerdydd y llynedd.

18,216 - o bobl wedi ymweld â'r maes ar y Sadwrn cyntaf - o gymharu â 17,681 yng Nghaerdydd y llynedd.

£30,000 - yr arian ychwanegol y bu'n rhaid eu gwario ar ffyrdd yr Eisteddfod oherwydd y glaw gan weithio drwy nos Iau.

£10 - y pen o arian sydd wedi cael eu codi gan drigolion Cyffiniau - fel mae bro'r Eisteddfod yn cael ei hadnabod.

£200,000 - nod y gronfa leol ar gyfer yr Eisteddfod.

£290,000 - yr arian a godwyd yn lleol mewn gwirionedd a hynny'n "ddirwgnach a chyda hwyl hefyd" yn ôl Prif Weithredwr yr Eisteddfod, Elfed Roberts.

Â鶹ԼÅÄ iD

Llywio drwy’r Â鶹ԼÅÄ

Â鶹ԼÅÄ Â© 2014 Nid yw'r Â鶹ԼÅÄ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.