Â鶹ԼÅÄ

« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Rhagor gan Nia

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü: ,Ìý

Blogiwr Gwadd | 14:15, Dydd Sadwrn, 8 Awst 2009

Rhagor o sylwadau gan Nia Lloyd Jones Radio Cymru o gefn y llwyfan.
Dydd Mercher
Diwrnod gwahanol i'r arfer heddiw, gan mai eistedd yn sedd Hywel Gwynfryn fues i yn ystod y pnawn cyn dychwelyd i'r man lle dwi hapusaf - gefn llwyfan ar gyfer cystadlu'r nos.

Yno gwnes i gyfarfod y diva - Mared Elliw Huws - oedd yn cystadlu ar yr unawd o sioe gerdd, ac fe roddodd hi dipyn o fraw i arweinydd y noson, Dei Tomos, drwy gamu ar y llwyfan, syllu arno - ac yna dechrau canu!

Os cafodd Dei Tomos sioc, fe gafodd Lynwen Haf Roberts un fwy fyth - pan glywodd hi mai hi oedd enillydd cystadleuaeth yr unawd o sioe gerdd.

Mae'n debyg nad ydi'r cystadleuwyr yn clywed yr arweinydd gefn llwyfan ac fe gymerodd hi'n ganiataol mai hi oedd yn drydydd! Roedd ei hwyneb hi'n bictiwr pan ddeallodd be oedd be!

Braf iawn oedd gweld tri parti lleol ar y llwyfan yn y gystadleuaeth parti cerdd dant - Llangwm, Maesywaun a Chwmtirmynach a chymeriadau di-ri yn eu mysg nhw.

Uchafbwynt y noson i mi oedd gweld Huw Bryant yn perfformio yng nghystadleuaeth y cyflwyniad digri unigol. Dyma chi gês - heb gês!
Be?
I egluro ... roedd yn cymeriadu dyn ar wyliau a thri chwarter ei gês wedi diflannu yn y maes awyr. Wel sôn am chwerthin. Mae gan Huw un o'r wynebau hynny sydd yn gallu gwneud ichi chwerthin heb iddo orfod dweud dim.

Noson hwyr, ond noson dda.

Dydd Iau
Mi dreuliais i'r pnawn yng nghwmni'r corau merched. Mae angen dyn dewr i arwain côr merched, ac un felly ydi Elfed Morgan Morris - arweinydd Côr Cofnod. Mae'n amlwg bod y merched wrth eu boddau yn ei gwmni a sawl un - fel Morfudd - yn awchu am fynd ag ef i'r bar ar y maes ar ôl cystadlu.

Un arall sydd bob amser yn barod i gael sgwrs ydi Margaret Daniel- arweinydd Merched Bro Nest. Dau beth pwysig oedd raid i mi ei wneud oedd ei llongyfarch ar ei llwyddiant fel arweinydd Côr Pensiynwyr Aberteifi ac, wrth gwrs, dymuno gwellhad buan iawn i'w brawd - yr archdderwydd Dic Jones.

Braf oedd gweld hen wynebau yn ôl yn cystadlu ar y llwyfan hefyd - er nad ydyn nhw mor hen a hynny.

Yng nghystadleuaeth y ddeuawd cerdd dant, y rhai oedd ar y llwyfan oedd Llinos a Sioned, Elliw Mai ac Elain Llwyd ac Owain ac Awel. Doeddwn I ddim wedi holi'r ddwy ddeuawd gyntaf ers rhai blynyddoedd, a braf oedd cael rhoi'r byd yn ei le hefo nhw. Mae Sioned yng ngholeg Harper Adams, a newydd dreulio blwyddyn yn gweithio mewn lladd-dy!

Sgwrs ddifyr oedd honno ar ôl yr unawd contralto.

Mae'n braf cael cyfle I drafod pethau gwahanol, a phriodi oedd testun y sgwrs hefo Sioned Wyn - gan ei bod hi a'ichymar - Andrew - yn priodi y flwyddyn nesaf.

Trafod llysiau fum i hefo Iona Stephen - gan ei bod hi newydd gael rhandir - ac yn brysur hefo'i 'beetroot'. Chafodd hi fawr o lwyddiant hefo'r broccoli. Byw mewn gobaith ei bod yn cael gwell hwyl ar y canu. Margaret oedd y cystadleuydd olaf - ac mae hi'n fodel ar raglenni Wedi Tri a Wedi Saith!

Rhagor o negeseuon o'r Eisteddfod

Gwefan Eisteddfod 2009

Â鶹ԼÅÄ iD

Llywio drwy’r Â鶹ԼÅÄ

Â鶹ԼÅÄ Â© 2014 Nid yw'r Â鶹ԼÅÄ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.