Â鶹ԼÅÄ

« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Pallu Plesio Pump - a mwy

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Glyn Evans | 15:53, Dydd Sadwrn, 8 Awst 2009

Er mai ynglÅ·n ag atal y Gadair y bu'r holl falu a siarad nos Wener nid hon oedd yr unig gystadleuaeth yn yr adran Lenyddiaeth lle gwrthodwyd gwobrwyo.

Yr oedd dwy arall a waeth enwi - yn nhraddodiad y nêm an shêm - feirniaid y ddwy gystadleuaeth arall hefyd i'w hychwanegu at Branwen Jarvis, Gwenallt Llwyd Ifan a Ceri Wyn Jones fel rhai a ddifethodd y Steddfod i rai.

Ataliodd Gerallt Lloyd Owen y wobr yng nghystadleuaeth y cywydd!

Ac yn y gystadleuaeth "Colofn o newyddion dychmygol ar gyfer papur bro" ni welodd William H Owen ddim byd gwerth ei wobrwyo gan yr 18 a gystadlodd.

Tybed a fyddai'n syniad i'r pum beirniad anodd eu plesio hyn drefnu aduniad yng Nglynebwy fis Awst nesaf?

Mae cymdeithasau wedi eu sefydlu am resymau salach.

Gai awgrymu Cydymdeithas y PPP - Pwyllgor y Pump Piwis?

Ac fe allen nhw gyfethol i'w plith, wrth gwrs, Emyr Davies a ataliodd y wobr yn y gystadleuaeth 'Deunyddiau ar gyfer dysgwyr' a Lyn Davies a Shan Cothio a ddewisodd atal y wobr yng nghystadleuaeth Tlws y Cerddor.

Rhagor o negeseuon o'r Eisteddfod

Gwefan Eisteddfod 2009

Â鶹ԼÅÄ iD

Llywio drwy’r Â鶹ԼÅÄ

Â鶹ԼÅÄ Â© 2014 Nid yw'r Â鶹ԼÅÄ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.