Â鶹ԼÅÄ

« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Argyfwng bardd

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Glyn Evans | 07:16, Dydd Llun, 3 Awst 2009

Diwrnod y Coroni. Gobeithio y bydd yr Archdderwydd Selwyn Iolen yn cadw ei record lawn ac y bydd yna goroni.

A gobeithio'n fwy na dim y bydd y bardd yn cyrraedd mewn pryd. Dydi hynny ddim wedi digwydd bob tro ym Meirionnydd.

Roeddwn i'n sôn am John Eilian yn fardd coron yr Eisteddfod yn Nolgellau yn 1948 y diwrnod o'r blaen yn y blog.

Dim ond y dim fu hi iddo fo gyrraedd i'w Goroni mewn pryd.

Yn amlwg, yr oedd wedi cael gwybod ymlaen llaw mai ef oedd yn fuddugol ond yn ystod ei daith gyda chyfaill o'i gartref yn Llansanffraid gorboethodd a nogiodd ei gar wrth ddringo rhiw dros Fwlch yr Oerddwr am Ddolgellau.

Canlyniad yr oedi oedd fod drysau'r pafiliwn newydd gau ar gyfer y seremoni erbyn iddo gyrraedd y Maes.

"Mae'n rhaid imi fod i mewn yna," meddai wrth Stiward oedd yn gwarchod y drws ond unig ymateb hwnnw oedd bod pawb yn dweud hynny er mwyn cael i mewn i bafiliwn a fyddai'n orlawn ar gyfer y seremonïau yr adeg honno.

John  Eilian

"Mae'r seremoni ar fin cychwyn," medda fo.

A John Eilian yn ateb; "Ond fydd yna ddim seremoni hebddo fi. Y fi sydd wedi ennill."

Ac er mor amharod oedd y Stiward teyrngar i gredu hynny fe'i darbwyllwyd yn y diwedd i agor y drws - ac yr oedd y bardd coronog yn ei sedd cyn galwad yr Archdderwydd iddo ef, ac ef yn unig, godi ar ei draed.

Â鶹ԼÅÄ iD

Llywio drwy’r Â鶹ԼÅÄ

Â鶹ԼÅÄ Â© 2014 Nid yw'r Â鶹ԼÅÄ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.