Â鶹ԼÅÄ

« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Helbulon enw ar ddu a gwyn

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü: ,Ìý

Glyn Evans | 10:48, Dydd Sul, 21 Mehefin 2009

Rhywun ar y ffôn yn fy atgoffa nad yn achos ci arwr The Dam Busters yn unig y bu'r gair Nigger yn broblem ym myd llên a ffilm.

Yn 1939 cyhoeddodd Agatha Christie nofel fwrdwr Ten Little Niggers a ddaeth y mwyaf poblogaidd o'i holl lyfrau.

Fe'i sylfaenwyd ar rigwm traddodiadol Ten Little Nigger boys . . . oedd yn adnabyddus i bawb ar y pryd gyda rhyw anffawd yn digwydd i bob un ohonyn nhw fesul un nes cyrraedd y geiriau olaf "then there were none".

Yn ei nofel mae Christie yn dod a deg o bobl ynghyd ar ynys anhygyrch Nigger Island ar wahoddiad Mr a Mrs U. N. Owen lle maen nhw'n cael eu lladd fesul un.

Yn arwyddocaol dan y teitl And Then There Were None y cyhoeddwyd y nofel o'r cychwyn cyntaf yn yr Unol Daleithiau y flwyddyn wedyn ond yr oedd y teitl gwreiddiol Ten Little Niggers yn dal i gael ei ddefnyddio yma tan yr Wythdegau gyda'r fersiwn cyntaf dan y teitl And Then There Were None yn cael ei gyhoeddi yn 1985.

Newidwyd enw'r ynys hefyd i Indian Island ac i Soldier Island ac fe newidiwyd geiriad y rhigwm traddodiadol i Ten little soldier boys . . .

Bu'r nofel yn cael ei hadnabod hefyd fel Ten Little Indians gyda phob cyufeiriad at Nigger yn y testun a'r rhigwm yn cael ei newid yn Indian.

Yn dal i werthu heddiw y mae And Then There Were None y seithfed llyfr mwyaf poblogaidd a gyhoeddwyd erioed - ond dim ond mewn siop ail law y deuech chi o hyd iddo wrth ei deitl gwreiddiol.

Y fersiwn cyyntaf un a fersiwn cyfoes o glawr y llyfr

Ond mewn cyfieithiadau Ffrangeg, Sbaeneg, Eidaleg ac Iseldireg o'r llyfr, er enghraifft, cadwyd at y teitl gwreiddiol hyd yn oed yn yr Wythdegau pan oedd ymwybyddiaeth newydd ynglŷn â'r defnydd o dermau o'r fath.

Dros y blynyddoedd addaswyd y nofel hefyd ar gyfer y sgrin a'r llwyfan ond erioed wrth ei henw gwreiddiol ar wahân i gynhyrchiad Rwsaidd yn 1987 wrth yr enw Desyat Negrityat - Deg o Negroaid Bach.

Ar gyfer y fersiwn llwyfan bu'n rhaid newid y diwedd y stori hefyd i wneud llwyfaniad yn bosibl..

Bu sawl newid ar gyfer y sgrin fawr gyda'r ynys unig yn troi'n encil fynyddig yn Awstria yn 1965 a'r deg yn dod at ei gilydd yn niffeithwch Iran yn 1974 ac ar saffari yn Affrica yn 1989.

Ar gyfer y teledu addaswyd y nofel gan y Â鶹ԼÅÄ yn 1949 ac ITV yn 1959 ac erbyn 2005 yr oedd gêm fideo And Then There Were None ar gael.

Y llynedd yr oedd fersiwn Wii.

Y diweddariad diweddaraf, fel petai, yw nofel graffig a gyhoeddwyd fis Ebrill 2009.

Ond fel y goliwog mae'r deg nigar bach wedi hen ddiflannu - ond faint o wahaniaeth mae hynny yn ei wneud a phawb yn cofio beth bynnag wrth ddarllen beth oedd y teitl a'r rhigwm gwreiddiol.

Be ddwedwch chi?

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 11:24 ar 21 Mehefin 2009, Bethan ysgrifennodd:

    Wnaeth goliwogs ddim drwg i mi ac mae pawb call yn sylweddoli mai pethau sy'n perthyn i'w cyfnodau yw'r pethau hyn ac er mwyn cadw'r naws ni ddylid eu newid neu yn y diwedd fe fyddwn yn editio popeth cas allan o'n gorffennol

Â鶹ԼÅÄ iD

Llywio drwy’r Â鶹ԼÅÄ

Â鶹ԼÅÄ Â© 2014 Nid yw'r Â鶹ԼÅÄ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.