CΓ’n Gymraeg am y tro cyntaf erioed !
ΒιΆΉΤΌΕΔ Canwr y Byd Caerdydd - bore Sadwrn
Gwyn Griffiths yn blogio'n ddyddiol o gystadleuaeth Canwr y Byd Caerdydd 2009.
Daeth rhan gyntaf cystadleuaeth ΒιΆΉΤΌΕΔ Canwr y Byd Caerdydd 2009 i ben neithiwr gyda Gwobr Datganiad 2009 yn mynd i'r Weriniaeth Siec.
Y baswr cawraidd, 26 oed, Jan MartinΓk oedd yr enillydd, gΕ΅r Γ’'r llais gyda'r hyfrytaf a llond gwlad o gymeriad a phresenoldeb.
Mentrodd ganu tair cΓ’n gan Saint-SaΓ«ns, nifer sylweddol o waith un cyfansoddwr, dwy gan Schumann ac un o waith Schubert.
Dyma berfformiwr di-fai a bydd yn gamp ei guro yn ffeinal y brif gystadleuaeth nos yfory (nos Sul) hefyd. Mae ei allu i ganu yn y gwahanol ieithoedd, a hynny gydag argyhoeddiad, yn un o'i rinweddau.
Coronodd wythnos ardderchog o ganu i gyfeiliant piano a hynny yn y modd mwyaf pleserus.
Bu raid i Tomislav LuΔiΔ o Croatia dynnu nΓ΄l oherwydd aflwydd i'w lwnc a chymerwyd ei le gan y soprano fach hudolus o Siapan, Eri Nakamura a fydd hefyd yn rownd derfynol y brif gystadleuaeth nos Sul.
Canodd dair cΓ’n gan Hugo Wolf, dwy o waith Richard Strauss ac un, Manjyushage, gan y cyfansoddwr KΓΆsaku Yamada o'i gwlad hi ei hun. Mae'n meddu ar lais cynnes, hyfryd, a swniai gymaint yn well yn Neuadd Dewi Sant nag yn y Theatr Newydd lle bu'r rowndiau rhagbrofol. Ond a oedd tair cΓ’n gan Wolf yn ormod?
Clywais lawer o ddadlau a thrafod ar yr uwchdenor, Yuriy Mynenko, o'r WcrΓ‘in. Cawsom ystod o ganeuon ar draws y canrifoedd ganddo, o gΓ’n serch o tua 1650 allan o'r opera Orontea gan Cesti i Silent Songs Valentin Sivestrov, a gyfansoddwyd ganddo pan oedd allan o ffafr awdurdodau'r Undeb Sofietaidd.
Mae ei lais yn rhyfeddod ac ni fuasai'n fwrn gwrando arno am oriau ond un feirniadaeth oedd na chanodd fwy o ganeuon a gyfansoddwyd ar gyfer uwchdenor yn hytrach na chanu caneuon a gyfansoddwyd ar gyfer lleisiau merched.
Anodd coelio bod seiniau mor fenywaidd yn dod o enau creadur mor olygus a gwrywaidd yr olwg,
Bydd pob un o'r tri yna i'w gweld a'u clywed ar lwyfan y brif gystadleuaeth nos yfory.
Canodd Javier Arrey, y bariton o Chile, bum cΓ’n o waith DvoΕΓ‘k - oll o naws Feiblaidd, un gan Ravel allan o Don Quichotte Γ‘ DulcinΓ©e, a'r gΓ’n ·‘°ω±τ°μΓΆ²ΤΎ±²΅ gan Schubert.
Dyma gΓ’n a recordiwyd gan gynifer o gantorion mawr y byd a hawdd iawn cymharu Arrey yn anffafriol gyda rhai ohonyn nhw.
Dewis cΓ’n Gymraeg
Yr olaf i ganu oedd Natalya Romaniw, y soprano o Gymru a chawsom berfformiad ardderchog ganddi a rhaglen wedi ei dewis yn ofalus gydag amrywiaeth ganmoladwy o ganeuon - Purcell, Brahms, Delibes, Rakhmaninov a Benjamin Britten.
Yna gwnaeth rywbeth na wnaeth yr un cystadleuydd o Gymru yn hanes ΒιΆΉΤΌΕΔ Canwr y Byd, canodd gΓ’n Gymraeg - soned feddwol R Williams Parry, Mae hiraeth yn y mΓ΄r a'r mynydd maith gyda'r gerddoriaeth gan Dilys Elwyn-Edwards.
Dros yr holl flynyddoedd, Γ’'r holl siaradwyr Cymraeg a feithrinwyd yn y traddodiad eisteddfodol a gynrychiolodd Gymru yn y gystadleuaeth, ni chanwyd unwaith gΓ’n Gymraeg na chΓ’n a gyfansoddwyd gan Gymro.
Synnodd Natalya'n fawr pan dynnais ei sylw at hyn a diolch iddi yn y parti ddiwedd y noson am achub enw Gwlad y GΓ’n.
Fel yr awgryma ei chyfenw, Romaniw, mae ei gwreiddiau mewn ardal ar ffin Gwlad Pwyl a newidiodd ddwylo sawl gwaith. Er nad yw'n medru Cymraeg fe gaiff ei chofio nawr am fod y gyntaf o gynrychiolwyr Cymru i barchu iaith a thraddodiad cerddorol ein gwlad yn y gystadleuaeth hon.
Mae cystadleuaeth y Datganiad yn rhoi cyfle i bob cystadleuydd ganu o'u gwlad ac y mae mae pob un, bron, yn gwneud hynny gyda balchter.
Eleni clywson hwiangerdd Maori gan gynrychiolydd Seland Newydd, cΓ’n o Gatalunya gan gynrychiolydd Andorra ... gallwn fynd drwy restr gyfan o'r rhai gynigiodd am wobr y Datganiad.
Hyderaf, y bydd cynrychiolwyr Cymru i gyd o hyn allan yn dilyn esiampl Natalya.
- Gwefan Canwr y Byd Caerdydd 2009
Ydych chi wedi bod yn dilyn y gystadleuaeth? Pwy aeth a'ch bryd?