Â鶹ԼÅÄ

« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Edrych ymlaen at Â鶹ԼÅÄ Canwr y Byd Caerdydd 2009

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Gwyn Griffiths | 07:59, Dydd Mercher, 6 Mai 2009

Bydd cystadleuaeth Canwr y Byd Caerdydd 2009, y gystadleuaeth a gydnabyddir yn gyffredinol fel "cystadleuaeth leisiol orau'r byd" yn dychwelyd i'r brifddinas ddechrau Mehefin gan gyrraedd yr uchafbwynt godidog y daethom i arfer ag e nos Sul, Mehefin 14.

Baneri

Nid un gystadleuaeth ychwaith ond dwy yn cydredeg o fewn yr un wythnos - cystadleuaeth Â鶹ԼÅÄ Canwr y Byd Caerdydd a chystadleuaeth Gwobr Datganiad.

Bydd yr wythnos yn cychwyn ar nos Sadwrn, Mehefin 6, yn Theatr Newydd Caerdydd, gyda rownd gyntaf y gystadleuaeth am Wobr Datganiad.

Yna, bydd y brif gystadleuaeth yn cychwyn yn Neuadd Dewi Sant y noson wedyn.

Bydd rownd derfynol cystadleuaeth y Datganiad nos Wener, Mehefin 12, yn Neuadd Dewi Sant.

Hon yw'r bedwaredd gystadleuaeth a'r ddeg yn hanes Â鶹ԼÅÄ Canwr y Byd Caerdydd, cystadleuaeth a gynhelir bob yn ail flwyddyn a chydnabyddir mai Caerdydd yw'r lle am gipolwg ar dalentau'r dyfodol, y lle i weld a chlywed sêr disgleiriaf y llwyfannau opera a'r neuaddau cyngerdd ymhen ychydig flynyddoedd.

Hon yw'r wythnos pan fydd cyfarwyddwyr tai opera'r byd a'r asiantiaid yn heidio i'n prifddinas eu llyfrau sieciau a'u cytundebau yn dwym yn eu dwylo.

Mae Caerdydd - fel y gelwir y gystadleuaeth ym myd y canu clasurol - yn rhoi'r hwb ychwanegol yna fyny'r ysgol i gantorion ifainc sydd ar fin croesi'r trothwy i'r llwyfannau enwocaf a'r mwyaf godidog.

Er y gwrandawyd ar dros 600 o gantorion o 68 o wledydd ar gyfer cystadleuaeth 2009 dim ond 25 ohonynt wahoddwyd i Gaerdydd ac mae wythnos galed yn eu haros.

Disgwylir i bob un ddarparu pedair rhaglen ugain munud yr un, rhaglen yr un ar gyfer y ddwy gystadleuaeth a dwy raglen rhag ofn iddyn nhw gyrraedd y rownd derfynol.

Rhy galed?
"Ddim o gwbl," meddai'r soprano o'r Iseldiroedd oedd yn un o feirniaid y Wobr Datganiad bedair blynedd yn ôl. "Mae'r cantorion hyn wedi cyrraedd man lle mae angen rhoi tipyn o bwysau arnyn nhw."

Â鶹ԼÅÄ iD

Llywio drwy’r Â鶹ԼÅÄ

Â鶹ԼÅÄ Â© 2014 Nid yw'r Â鶹ԼÅÄ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.