Adeiledd atomig a'r tabl cyfnodol
Yr atom
Mae atomau'n cynnwys protonau, niwtronau ac electronau. Mae'r electronau wedi'u trefnu mewn plisg o gwmpas y niwclews.
Y tabl cyfnodol
Siart yw'r tabl cyfnodol sy'n dangos yr elfennau i gyd wedi'u trefnu yn ôl eu rhif atomig.
Metelau alcalïaidd Grŵp 1
Mae elfennau Grŵp 1, sef y metelau alcalïaidd, i gyd yn adweithio'n egnïol â dŵr i gynhyrchu hydoddiant alcalïaidd.
Halogenau Grŵp 7
Enw arall ar elfennau Grŵp 7 yw'r halogenau. Tair elfen gyffredin Grŵp 7 yw clorin, bromin ac ïodin. Mae'r gair 'halogen' yn golygu 'ffurfydd halwyn'.
Grŵp 0 a phrofi ïonau
Rydyn ni'n defnyddio profion fflam i adnabod ïonau'r metelau alcali mewn cyfansoddion. Mae'r nwyon nobl yn anadweithiol iawn.